Manylion am y lefelau treth gyngor band D cyfartalog fesul awdurdod lleol ar gyfer Ebrill 2022 i Fawrth 2023.
Nid y datganiad diweddaraf yn y gyfres: Lefelau’r Dreth Gyngor
Gwybodaeth am y gyfres:
Pwyntiau allweddol
- Treth cyngor band D i Gymru ar gyfer 2022-23 yw £1,777 ar gyfartaledd. Mae hyn yn cynnwys £1,433 ar gyfer cynghorau sir, £304 ar gyfer awdurdodau’r heddlu a £40 ar gyfer cynghorau cymuned. Mae ffigurau Band D ar gyfer awdurdodau bilio, gan gynnwys yr heddlu a chynghorau cymunedol, yn amrywio o £1,573 yng Nghaerffili i £2,099 ym Mlaenau Gwent.
- Codiadau cynghorau sir ym mand D y dreth gyngor ar gyfer 2022-23 yw £32 ar gyfartaledd, neu 2.2% yn uwch na’r flwyddyn flaenorol. Codiadau’r heddlu yw £15 ar gyfartaledd, neu 4.8%. Mae’r codiadau hyn yn cyfuno i greu codiad band D o £46 ar gyfartaledd, neu 2.7%.
- Sir Benfro sydd â’r codiad canrannol band D uchaf o 5.0%. Pen-y-bont ar Ogwr sydd â’r codiad canrannol band D isaf o 0.7%.
- Heddlu Gwent sydd â’r cynnydd mwyaf ym mand D o 5.5%. Heddlu Gogledd Cymru sydd â’r cynnydd lleiaf ym mand D o 3.7%.
- Yn Lloegr, amcangyfrifir mai codiad cyfartalog Band D yw 3.5%.
- Ar gyfartaledd, mae’r dreth gyngor band D yng Nghymru tua 90% o’r ffigur diweddaraf o £1,965 a amcangyfrifir ar gyfer Lloegr.
Adroddiadau
Lefelau’r Dreth Gyngor: Ebrill 2022 i Fawrth 2023 , Saesneg yn unig, math o ffeil: PDF, maint ffeil: 670 KB
PDF
Saesneg yn unig
670 KB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.
Cyswllt
Llinell Ymholiadau Cyffredinol
Rhif ffôn: 0300 025 5050
E-bost: ystadegau.cyllid@llyw.cymru
Rydym yn croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg.
Cyfryngau
Rhif ffôn: 0300 025 8099
Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.