Mae’r adroddiad hwn yn rhoi gwybodaeth am iechyd cyffredinol ac afiechyd oedolion sy’n byw yng Nghymru ar gyfer Mai 2020 i Fawrth 2021.
Nid y datganiad diweddaraf yn y gyfres: Iechyd cyffredinol ac afiechyd oedolion (Arolwg Cenedlaethol Cymru)
Addaswyd Arolwg Cenedlaethol 2020-21 oherwydd pandemig y coronafeirws (gyda chyfweliadau dros y ffôn yn disodli cyfweliadau wyneb yn wyneb a rhai newidiadau i’r cynnwys). Ni ddylid cymharu'r canlyniadau ar iechyd cyffredinol ac afiechyd â chanlyniadau rhifynnau blaenorol o Arolwg Cenedlaethol Cymru.
Prif bwyntiau
- 76% o oedolion yn dweud bod eu hiechyd cyffredinol yn dda neu’n dda iawn (Mai 2020 i Fawrth 2021)
- 46% o oedolion yn dweud bod ganddynt afiechyd hirdymor (Hydref 2020 i Fawrth 2021)
- 31% o oedolion yn dweud bod ganddynt afiechyd cyfyngus hirdymor (Hydref 2020 i Fawrth 2021)
Cyswllt
Llinell Ymholiadau Cyffredinol
Rhif ffôn: 0300 025 5050
E-bost: ystadegau.iechyd@llyw.cymru
Rydym yn croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg.
Cyfryngau
Rhif ffôn: 0300 025 8099
Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.