Tîm 16 i 25: Gwasanaeth Cymorth Ieuenctid Cyngor Sir Caerfyrddin
Teilyngwr
Mae gan y tîm prosiect 16 i 25 a gwaith Digartrefedd Ieuenctid wedi'i Dargedu, weithwyr ieuenctid sy'n gweithio gyda phobl ifanc agored i niwed ar sail 1:1 a grŵp, 16 i 25 oed, ac mae hefyd yn darparu cefnogaeth uniongyrchol gyda rhieni/gofalwyr lle bo angen.
Trwy gydol y pandemig bu'r gweithwyr yn darparu cefnogaeth hanfodol a nifer o ymyriadau argyfwng. Er gwaethaf heriau'r cyfnod cloi, fe ddarparon nhw gefnogaeth bersonol i deuluoedd a phobl ifanc i fynd i'r afael â rhwystrau lluosog i fynediad, addysg, cyflogaeth a hyfforddiant ac eirioli ar ran pobl ifanc i sicrhau bod eu dymuniadau, eu teimladau a'u hanghenion yn cael eu deall.
Mae'r tîm yn gweithio mewn partneriaeth ag ysgolion, colegau a darparwyr hyfforddiant, yn ogystal â gwasanaethau tai a phlant, i gynnig y gefnogaeth gywir ar yr adeg gywir i bobl ifanc sydd mewn perygl o adael Addysg, Hyfforddiant neu Gyflogaeth, digartrefedd a rhwystrau eraill. Mae'r math hwn o weithio mewn partneriaeth yn galluogi dull cyd-gysylltiedig o ddarparu cynnig gwaith ieuenctid cyfannol, unedig i bobl ifanc - gyda nifer o ganlyniadau rhagorol.
Bu'r panel beirniadu dynnu sylw at sut roedd y dystiolaeth a ddarparwyd wir yn dangos yr effaith enfawr ar y bobl ifanc dan sylw, gydag angerdd ac ymrwymiad y tîm yn disgleirio.