Mae’r Prif Weinidog Mark Drakeford ac Arweinydd Plaid Cymru Adam Price wedi bod yn sôn heddiw am eu huchelgais ar gyfer Cymru, wrth iddynt gyhoeddi’r Cytundeb Cydweithio.
Rhaglen bolisi ar y cyd yw’r cytundeb ac mae’n ymdrin â 46 o feysydd amrywiol. Yn eu plith y mae darparu prydau ysgol am ddim i bob disgybl ysgol gynradd; ymrwymiad i gymryd camau radical ar fyrder i fynd i'r afael â’r argyfwng ail gartrefi; a diwygio’r Senedd yn y tymor hir.
Dyma fath newydd o drefniant gweithio gwleidyddol. Bydd y ddau bartner –Llywodraeth Cymru a Grŵp Senedd Plaid Cymru – yn cydweithio dros y tair blynedd nesaf i ddatblygu a goruchwylio'r gwaith o wireddu’r polisïau sy’n rhan o’r cytundeb.
Dywedodd y Prif Weinidog Mark Drakeford:
"Mae gan Lywodraeth Cymru Raglen Lywodraethu uchelgeisiol y bydd yn ei rhoi ar waith dros dymor y Senedd hon. Ond nid gennym ni yn unig y mae syniadau da, ac rydym yn barod i weithio gyda phleidiau blaengar pan fyddwn yn rhannu dyheadau y gellir eu gwireddu er budd pobl Cymru.
"Mae'r Cytundeb Cydweithio hwn yn dod â Llywodraeth Cymru a Phlaid Cymru at ei gilydd i ymateb i rai o'r materion pwysicaf sy'n wynebu ein gwlad, megis y newid yn yr hinsawdd a'r argyfwng ynni a chostau byw.
“Trwy gydweithio, mae modd inni gyflawni mwy ar gyfer pobl Cymru. Bwriad y Cytundeb Cydweithio yw ymateb i'r heriau allanol sy'n ein hwynebu ac mae hefyd yn cynnig cyfle i adeiladu ar gyfleoedd ar gyfer y dyfodol. Bydd hefyd yn ein helpu i sicrhau bod gennym dros y tair blynedd nesaf Senedd sefydlog a chanddi’r cryfder i wneud newidiadau a diwygiadau radical.
“Mae’r ymrwymiadau hyn yn adeiladu ar werthoedd rydym yn eu rhannu –cydsefyll cymdeithasol, planed gynaliadwy a democratiaeth iach.”
Dywedodd Adam Price, Arweinydd Plaid Cymru:
“Bron i chwarter canrif yn ôl, pleidleisiodd pobl Cymru o blaid hunanlywodraeth i Gymru, gydag addewid am fath newydd o wleidyddiaeth.
“Rhoesant eu ffydd mewn democratiaeth newydd gyda chyfarwyddyd i weithio mewn ffordd wahanol – yn gynhwysol ac yn gydweithredol.
“Mae’r heriau sy’n ein hwynebu yn gofyn am uchelgais wirioneddol i wireddu syniadau radical. Mae canlyniadau ymadael â’r Undeb Ewropeaidd, effaith y pandemig, a bwriad pendant Llywodraeth y Deyrnas Unedig i erydu pwerau’r Senedd i gyd yn cynyddu’r angen am newid mawr.
“Gyda’i gilydd, bydd yr addewidion polisi beiddgar yn uno Cymru ac o fudd i bob cenhedlaeth, boed yn brydau ysgol am ddim i bob disgybl ysgol gynradd neu’n wasanaeth gofal cenedlaethol, am ddim pryd a lle bynnag y bo’i angen.
“Rwy’n falch bod y Cytundeb Cydweithio arloesol hwn wedi’i seilio ar dir cyffredin mewn amryw faterion a fydd yn gwneud gwahaniaeth tymor hir i fywydau pobl.”
Mae'r Cytundeb Cydweithio yn ymateb i rai o’r heriau mwyaf sy’n wynebu Cymru a bydd yn helpu Cymru i fanteisio ar gyfleoedd newydd.
Fel rhan o'r cytundeb, bydd Llywodraeth Cymru a Phlaid Cymru yn gweithio i sefydlu cwmni ynni sero net, o dan berchnogaeth gyhoeddus, i annog cynhyrchu ynni adnewyddadwy sy'n eiddo i'r gymuned. Gwneir buddsoddiad pellach i amddiffyn rhag llifogydd, a bydd mesurau newydd i gryfhau'r Gymraeg ac i gefnogi iechyd meddwl pobl ifanc.
Cytundeb pwrpasol yw hwn – nid clymblaid. Ni fydd Aelodau Plaid Cymru yn ymuno â Llywodraeth Cymru fel Gweinidogion na Dirprwy Weinidogion. Bydd Plaid Cymru yn penodi aelod arweiniol dynodedig ar gyfer y cytundeb a bydd pwyllgorau sy'n cynnwys Gweinidogion Cymru ac aelodau dynodedig Plaid Cymru yn cael eu sefydlu i gytuno ar faterion sydd wedi’u cynnwys yn y Cytundeb Cydweithio.
Mae cyllid wedi'i neilltuo fel rhan o'r Cytundeb Cydweithio a chaiff hyn ei adlewyrchu yn y Gyllideb ddrafft pan gaiff ei chyhoeddi fis Rhagfyr.
Bydd yr ymwneud gwleidyddol ynglŷn ag unrhyw faterion nad ydynt yn rhan o’r Cytundeb Cydweithio yn digwydd yn ôl y drefn arferol.