Eluned Morgan AS, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
Yn dilyn fy natganiad ar 8 Tachwedd, rwy’n cyhoeddi heddiw nifer o newidiadau eraill i’r gofynion ar gyfer pobl sy’n cyrraedd Cymru o ddydd Llun ymlaen.
Yn unol â’r newidiadau sy’n cael eu gwneud yng ngweddill y DU, bydd y gofynion presennol, sy’n berthnasol i blant sy’n preswylio yn y DU neu mewn gwlad sydd â phrawf cymeradwy o frechu, bellach yn berthnasol i’r holl blant a phobl ifanc o dan 18 oed sy’n cyrraedd Cymru o wlad nad yw ar y rhestr goch.
Byddaf hefyd yn ychwanegu at y rhestr o wledydd a thiriogaethau yr ydym yn eu cydnabod fel rhan o raglen frechu ardystiedig, ac yn ehangu cwmpas y bobl hynny sy’n cyrraedd yr ystyrir eu bod wedi cael eu brechu’n llawn.
Ar gyfer pobl sy’n cyrraedd o’r UDA, byddwn yn cael gwared ar y gofyniad preswylio o’r gofynion ardystio. Byddwn hefyd yn cydnabod y defnydd o dair tystysgrif benodol ar gyfer yr UDA yn ogystal â cherdyn y Ganolfan ar gyfer Rheoli Clefydau fel ffordd o ddilysu tystiolaeth o’r brechlyn ar gyfer teithio i mewn.
Ni fydd yr un wlad yn cael ei hychwanegu at y rhestr goch fel rhan o’r newidiadau hyn.
Bydd ein canllawiau ar y rhyngrwyd yn cael eu diweddaru i adlewyrchu’r newidiadau hyn.
Nid yw’r newidiadau hyn heb risg ond, fel rwyf wedi nodi o'r blaen, mae'n anodd i ni ddilyn trefn iechyd wahanol i'r hyn sy'n ofynnol gan Lywodraeth y DU o ran y ffin, gan fod y rhan fwyaf o deithwyr rhyngwladol sy'n cyrraedd Cymru yn dod drwy borthladdoedd a meysydd awyr yn Lloegr.
Daw'r newidiadau hyn i rym yng Nghymru o 22 Tachwedd 2021.