Neidio i'r prif gynnwy

Data am hysbysiadau cosb benodedig, achosion llys, troseddau cyffuriau ac yfed a gyrru, a phrofion anadl ar gyfer 2020.

Cafodd pandemig y coronafeirws (COVID-19) effaith sylweddol ar draffig ffyrdd a chofnododd yr heddlu ddamweiniau ac anafusion ar y ffyrdd yng Nghymru yn 2020 wrth i gyfyngiadau gael eu rhoi ar waith ynghylch sut, ble a pham y gallai unigolion deithio. Yn gyffredinol, arweiniodd y cyfyngiadau at lai o draffig ar gyfer pob math o gerbydau modur sy'n debygol o fod wedi effeithio ar yr ystadegau a gyflwynwyd yn y datganiad hwn.

Prif bwyntiau

Hysbysiadau cosb benodedig                                                                 

  • Yn 2020 rhoddodd yr heddlu a wardeiniaid traffig yng Nghymru 63,400 o hysbysiadau cosb benodedig, 15% yn llai o’i gymharu â 2019. Roedd troseddau terfynau cyflymder yn cyfrif am 80% o’r hysbysiadau cosb benodedig yn 2020.
  • Ers 2012, mae nifer yr hysbysiadau cosb benodedig sydd wedi’u rhoi yng Nghymru wedi gostwng ar y cyfan o nifer uchel o 112,400.

Achosion llys

  • Erlynwyd 45,500 o droseddwyr moduro yng Nghymru yn 2020, sy’n ostyngiad o 20% o’i gymharu â 2019.

Damweiniau’n gysylltiedig ag yfed a gyrru (data 2019)                        

  • Amcangyfrifir bod 7% o’r holl ddamweiniau wedi eu cofnodi yng Nghymru yn 2019 yn cynnwys o leiaf un gyrwyr yr amharwyd arno gan alcohol. Ar gyfer damweiniau lle cafodd rhywun ei ladd neu ei anafu’n ddifrifol roedd y ganran yn uwch, sef 9%.
  • Cafwyd bod gan 19% o yrwyr cerbyd modur a laddwyd yng Nghymru lefel o alcohol yn eu gwaed dros y terfyn cyfreithiol.

Profion anadl sgrinio

  • Yn 2020, cynhaliwyd 24,800 o brofion anadl yng Nghymru, sy’n ostyngiad o 32,500 yn 2019. Yn 2020, roedd 3,600 o’r profion hyn naill ai’n bositif, neu wedi cael eu gwrthod (14%), gostyngiad o 22% o’i gymharu â 2019.
  • Yn 2020, cafodd 136 o yrwyr a oedd wedi cael damwain ganlyniad prawf anadl positif. Roedd hyn yn ostyngiad o 47 (26%) o’i gymharu â 2019.

Adroddiadau

Troseddau moduro: 2020 , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 1 MB

PDF
1 MB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.

Cyswllt

Llinell Ymholiadau Cyffredinol

Rhif ffôn: 0300 025 5050

Rydym yn croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg.

Cyfryngau

Rhif ffôn: 0300 025 8099

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.