Neidio i'r prif gynnwy

Cyflwyniad a chefndir

Comisiynwyd Ipsos MORI, gan weithio gyda'r Ganolfan Newid Hinsawdd a Thrawsnewidiadau Cymdeithasol (CAST) a Sefydliad Ymchwil Adeiladau (BRE), i gynnal Ymchwil Cartrefi COVID-19 (o'r enw “Arolwg Bywyd Dyddiol”) ym mis Medi 2020.

Mae'r ymchwil yn darparu trosolwg cadarn a chynhwysfawr o effeithiau pandemig y coronafeirws ar ymddygiadau, agweddau a phrofiadau hunan-gofnodedig aelwydydd mewn perthynas â sero net, mesurau adferiad gwyrdd a'r defnydd o ynni yn y cartref. Mae'r ymchwil yn edrych ar effeithiau gwahaniaethol ar is-grwpiau o'r boblogaeth, yn enwedig mewn perthynas â lefel incwm, a gwydnwch disgwyliedig newidiadau. Archwiliwyd hefyd anghenion cymorth cyfranogwyr mewn perthynas â chynnal ymddygiadau sero net, ac mewn perthynas ag ymdopi ag effeithiau'r pandemig ar eu profiadau fel defnyddwyr ynni.

Mae'r ymchwil yn cynnwys dwy don o arolwg meintiol o aelwydydd a cham o ymchwil ansoddol. Mae'r adroddiad hwn yn crynhoi ton gyntaf yr arolwg meintiol yng Nghymru, y cynhaliwyd gwaith maes ar ei gyfer rhwng 20 Tachwedd a 24 Rhagfyr 2020. Cynhaliwyd y gwaith maes ar gyfer gweddill y DU rhwng 12 Tachwedd a 24 Rhagfyr 2020: dechreuodd y gwaith maes yng Nghymru ychydig yn hwyrach i alluogi cyfieithu dogfennau'r gwaith maes i'r Gymraeg. Yng Nghymru, roedd diwedd y cyfnod gwaith maes yn gorgyffwrdd â chyfnod clo'r gaeaf a ddechreuodd ar Ragfyr 19 2020.

Yng Nghymru, dewiswyd cyfanswm o 4,843 o gyfeiriadau. Cyfanswm yr ymatebion dilys a gynhwysir yn yr adroddiad hwn o Gymru yw 1,687, gyda 1,242 o aelwydydd yn dychwelyd o leiaf un holiadur. Mae mwy o fanylion am ddadansoddiad y sampl i'w gweld yn y prif adroddiad.

Cyfyngiadau

Ymhlith y cyfyngiadau posibl i’r astudiaeth hon mae: cywirdeb atgofion cyfranogwyr, yn enwedig o ran dwyn i gof ymddygiadau cyn 23ain Mawrth 2020; gogwydd dymunoldeb cymdeithasol; cynrychiolaeth y sampl; gwahaniaethau rhwng samplau ar-lein a samplau post sy'n arwain at gynrychiolaeth is o'r sampl ar gyfer cwestiynau ar-lein yn unig; a gogwydd di-ymateb. Cymerwyd camau i liniaru effeithiau'r cyfyngiadau hyn lle bynnag y bo modd.

Canfyddiadau

Pa newidiadau mewn ymddygiad sy'n gysylltiedig â'r amgylchedd a fu ers dechrau'r pandemig?

Gwastraff ac ailgylchu oedd yr ymddygiadau sero net mwyaf cyffredin a chyson ledled Cymru ar adeg cynnal yr arolwg. Dywedodd wyth o bob deg neu fwy o’r cyfranogwyr eu bod yn ailgylchu (93%), yn gwahanu gwastraff bwyd (82%) ac yn osgoi gwastraffu bwyd (78%) ‘bob amser’ neu ‘y rhan fwyaf o’r amser’. Adroddwyd yn llai aml am ymddygiadau sydd â rhywfaint o'r potensial uchaf ar gyfer arbed carbon o newid ffordd o fyw, megis teithio llesol a bwyta diet sy'n seiliedig ar blanhigion (roedd 23% a 18% yn gwneud y rhain 'bob amser' neu'r 'rhan fwyaf o'r amser' yn y drefn honno). Roedd mynychder pob ymddygiad yng Nghymru yn debyg iawn i gyfartaledd y DU i gyd.

Gwelwyd cynnydd yn amlder ar draws y rhan fwyaf o'r ymddygiadau sero net y gofynnwyd amdanynt ers y cyfnod clo cyntaf ledled y DU ar 23ain Mawrth 2020, gyda dwy ran o dair (63%) o'r cyfranogwyr yng Nghymru yn dweud eu bod wedi cymryd neu gynyddu o leiaf un ymddygiad sero net - yn debyg i'r 66% sy'n dweud hyn ar gyfartaledd ledled y DU.

Lle bu cynnydd yn amlder ymddygiad sero net (e.e. symudiad o 'weithiau' i 'y rhan fwyaf o'r amser'), cyfeiriwyd at hyn fel “newid ymddygiad sero net cadarnhaol” a lle bu gostyngiad mewn amlder (e.e. symudiad o 'bob amser' i 'byth'), cyfeiriwyd at hyn fel “newid ymddygiad sero net negyddol”. Gwelwyd y lefelau uchaf o newidiadau ymddygiad sero net ar gyfer gweithio gartref yn hytrach na chymudo i'r gwaith[1], prynu dim ond yr hyn sydd ei angen arnoch chi, ac osgoi gwastraff bwyd. Adroddwyd am newidiadau sero net cadarnhaol yn amlach na newidiadau sero net negyddol. Mewn ychydig o achosion, fodd bynnag, gwelwyd newid sero net negyddol sylweddol, yn cyfateb i, neu'n rhagori ar lefelau newid cadarnhaol yn y categori hwnnw (er enghraifft ar gyfer cynllunio gwyliau dim hedfan a defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus).

Newid ymddygiad negyddol allweddol sero net a welwyd oedd y symudiad i ffwrdd o ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus a thuag at ddefnyddio ceir preifat (roedd 24% o gyfranogwyr yng Nghymru yn defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus yn lle car preifat yn llai aml), ac ni chafodd hyn ei wrthbwyso gan symudiad tebyg o ddefnyddio car i deithio llesol (mae 11% yn gwneud neges ar droed / beic yn amlach). Mae'r ddwy gyfran yma yn debyg i gyfartaledd y DU gyfan.

Buddion ariannol a buddion lles corfforol a meddyliol ymddygiadau sero net oedd ysgogwyr pwysicaf dechrau neu gynyddu (gan dderbyn sgoriau pwysigrwydd cymedrig o 3.78 a 3.32 allan o 5 yn y drefn honno[2]), yn fwy na phryder am yr amgylchedd (sgôr pwysigrwydd cymedrig: 2.80 ). Hyd yn oed pan oedd y pryder am yr amgylchedd yn uchel, nid oedd nifer y newidiadau ymddygiad sero net a adroddwyd bob amser yn adlewyrchu hyn. Nid y rhai a oedd yn poeni fwyaf am newid yn yr hinsawdd oedd y rhai mwyaf tebygol o fod wedi gwneud newidiadau ymddygiad sero net cadarnhaol. Mae patrymau ymateb yng Nghymru yn debyg i gyfartaledd y DU gyfan.

Dywedodd mwyafrif cryf (84%) o’r cyfranogwyr eu bod yn credu mewn newid hinsawdd anthropogenig, (h.y. bod newid yn yr hinsawdd yn cael ei achosi gan weithgareddau dynol), ac mae 76% yn credu y bydd newid yn yr hinsawdd yn effeithio’n negyddol ar y DU yn ystod eu hoes. Dywedodd tua chwarter (21%) bod eu pryder cyffredinol ynghylch newid yn yr hinsawdd wedi cynyddu ers y cyfnod clo cenedlaethol cyntaf ledled y DU: i raddau helaeth ymhlith y rhai a oedd eisoes yn pryderu. Roedd y mwyafrif, fodd bynnag, yn nodi nad oedd lefel eu pryder heb newid (69%). Unwaith eto, mae'r safbwyntiau yng Nghymru yn debyg i gyfartaledd y DU gyfan. Dywedodd tri chwarter (76%) o’r cyfranogwyr yng Nghymru eu bod yn dymuno gweld adferiad economaidd gwyrdd, ond dywedodd llai na hanner (47%) y buasent yn gwrthwynebu polisïau a fyddai’n hyrwyddo twf economaidd ar draul yr amgylchedd.

[1] Nid oedd yr holl gyfranogwyr mewn gwaith, ac felly nid oedd y newid ymddygiad sero net cadarnhaol hwn yn berthnasol i bawb.   Dylid nodi hefyd bod cryn ddadlau gwyddonol ynghylch a yw gweithio gartref yn ganlyniad sero net cadarnhaol.   

[2] Gofynnwyd i'r cyfranogwyr raddio 5 cymhelliant dros unrhyw newidiadau ymddygiad sero net cadarnhaol: mae sgôr gymedrig uchel (allan o 5) yn nodi bod y cymhelliant yn ddylanwad pwysicach ar y newidiadau ymddygiad sero net cadarnhaol yr adroddwyd arnynt.

A yw newidiadau ymddygiad yn sero net positif neu sero net negyddol?

Yn gyffredinol, nododd cyfran uwch o'r cyhoedd o leiaf un newid ymddygiad sero net cadarnhaol (63%) na'r rhai a nododd o leiaf un newid ymddygiad sero net negyddol (57%).

A yw'r cyfranogwyr eisiau parhau â newidiadau?

Mae canfyddiadau cynnar yn awgrymu bod rhai newidiadau ymddygiad sero net cadarnhaol ymhlith aelwydydd yng Nghymru, fel y rheiny yng ngweddill y DU, yn debygol o barhau yn yr hir dymor. Fodd bynnag, ar gyfer rhai o'r ymddygiadau sero net mwyaf effeithiol, megis llai o deithio awyr a bwyta diet sy'n seiliedig ar blanhigion, roedd yr awydd i gynnal tuag at ben isaf y raddfa o gymharu ag ymddygiadau sero net eraill.

  • O'r 13% a oedd yn cynllunio mwy o wyliau nad oes angen hedfan i'w cyrraedd ar adeg yr arolwg, mae 43% eisiau parhau i wneud hynny
  • O'r 6% a oedd wedi lleihau eu cymeriant cig / llaeth, dywedodd 51% eu bod am barhau i wneud hynny
  • Mewn cymhariaeth, o'r 9% a oedd yn ceisio arbed ynni gartref ar adeg yr arolwg, dywedodd 97% eu bod am barhau i wneud hynny.

Sut mae newidiadau yn amrywio ar draws cenhedloedd a grwpiau demograffig, gyda ffocws penodol ar aelwydydd tlawd o ran tanwydd?

Roedd y newidiadau yn rhyfeddol o gyson ar draws cenhedloedd y DU a gwahanol ranbarthau yng Nghymru. Roedd y rhai a dreuliodd fwy o amser gartref ers y cyfnod clo cyntaf ledled y DU yn fwy tebygol o fod wedi gwneud un neu fwy newid ymddygiad sero net cadarnhaol. Roedd cyfranogwyr iau ac aelwydydd â phlant yn tueddu i wneud mwy o newidiadau.

Mae cyfranogwyr sy'n fwy tebygol o nodi eu bod wedi gwneud chwech neu fwy o newidiadau sero net cadarnhaol yn cynnwys pobl iau (dan 44 oed); y rhai sy'n byw mewn cartrefi mwy, weithiau aml-genhedlaeth; y rhai sydd dan bwysau ariannol, ond heb ymddeol; y rhai sy'n rhentu'n breifat; y rhai sy'n byw mewn fflatiau; neu'r rhai sydd â phroblemau cysylltiedig â gwres yn eu cartref. Roedd y rhai a wnaeth 6+ o newidiadau sero net cadarnhaol wedi eu hysgogi fwyaf i newid gan bryderon ariannol.

Roedd y traean o'r cyfranogwyr nad oeddent wedi gwneud unrhyw newidiadau ymddygiad sero net cadarnhaol yn tueddu i fod yn hŷn neu wedi ymddeol; i beidio â chael plant ar yr aelwyd; i fod yn rhentwyr cymdeithasol; neu i adrodd nad oedd ganddynt broblemau cysylltiedig â gwres yn eu cartref. Ymddengys bod y rhai a oedd yn well eu byd yn ariannol hefyd yn llai tebygol o fod wedi gwneud newidiadau sero net cadarnhaol, fel ag yr oedd cyfranogwyr yng Nghanolbarth Cymru.

Roedd cyfranogwyr mewn cartrefi sy'n debygol o fod yn dlawd o ran tanwydd yn sylweddol fwy tebygol o nodi eu bod wedi gwneud newidiadau sero net cadarnhaol yn ymwneud â defnyddio gwres yn ofalus, golchi dillad ar 30ºC neu'n is, a cheisio arbed ynni gartref. Roeddent hefyd yn llai tebygol na'r cyfartaledd o ddweud eu bod wedi gwneud newidiadau am resymau amgylcheddol.

Pa gefnogaeth sydd ei hangen ar y cyhoedd i gynnal newidiadau yn yr hir dymor?

Gallai ymyriadau polisi a chymhellion i annog pobl i gynnal ymddygiadau sero net yn y tymor hwy fod yn ddefnyddiol, o ystyried yr amrywiad ar draws ymddygiadau. Roedd ffactorau ariannol a llesiant yn ysgogwyr pwysicach o newid ymddygiad sero net cadarnhaol na phryder am yr amgylchedd, hyd yn oed i'r rhai a oedd wedi gwneud 6+ newid sero net cadarnhaol.

Pan ofynnwyd iddynt yn uniongyrchol beth allai Llywodraeth Cymru ei wneud i helpu’r cyhoedd i gynnal ymddygiadau sero net cadarnhaol roedd cyfranogwyr yn ffafrio’n gryf ‘moron’ dros ‘ffyn’. Darparu cymorth ariannol, cymorthdaliadau neu gymhellion oedd y mecanwaith cymorth y gofynnwyd amdanynt amlaf (gan 31% yng Nghymru, v cyfartaledd y DU o 34%). Awgrymwyd yn gyffredin hefyd welliannau i seilwaith a gwasanaethau.

Beth fu effaith anawsterau ariannol sy'n gysylltiedig â'r pandemig?

Dywedodd mwy na hanner (54%) y cyfranogwyr yng Nghymru eu bod yn defnyddio mwy o ynni ar adeg cwblhau'r arolwg nag yn y cyfnod cymharol y flwyddyn flaenorol, cyn y cyfnod clo cyntaf ledled y DU (cyfartaledd y DU o 55%). Y grwpiau a oedd fwyaf tebygol o ddweud bod eu defnydd o ynni wedi cynyddu oedd y rhai mwyaf tebygol o ddweud bod rhywun o'u cartref wedi gweithio gartref (e.e. cyfranogwyr iau, cartrefi â phlant).

Dywedodd dros bedair rhan o bump (84%) o gyfranogwyr Cymru fod eu haelwyd yn treulio mwy o amser gartref ar yr adeg y gwnaethant gwblhau'r arolwg o'i gymharu â chyn y cyfnod clo cyntaf ledled y DU. Dywedodd dwy ran o bump (44%) fod rhywun o'u cartref wedi gweithio gartref yn ystod y saith niwrnod diwethaf: yn debyg iawn i gyfartaledd y DU gyfan.

Ar gyfartaledd, dywedodd dwy ran o bump (36%) o gyfranogwyr Cymru eu bod yn ei chael yn anoddach ymdopi'n ariannol o'i gymharu â chyn y cyfnod clo cyntaf ledled y DU: ychydig yn is na chyfartaledd cyfan y DU o 40%. Mae grwpiau sy'n arbennig o debygol o ddweud eu bod yn dioddef pwysau ariannol yn debyg yng Nghymru a gweddill y DU ac yn cynnwys cartrefi â phlant, y rhai ar incwm is a'r rhai sy'n debygol o fod yn dlawd o ran tanwydd. Roedd y rhai 65+ yn llai tebygol o ddweud eu bod yn dioddef pwysau ariannol na rhai dan 65 oed. Dywedodd mwyafrif y cyfranogwyr yng Nghymru fod ganddyn nhw broblemau yn ymwneud â gwres yn eu cartrefi (60%, ychydig yn uwch na chyfartaledd y DU o 56%).

Anhawsterau ariannol sy’n gysylltiedig â’r pandemig a byw mewn aelwyd sy’n dlawd o ran tanwydd

Pan ofynnwyd iddynt gymharu eu sefyllfa ariannol ar yr adeg y gwnaethant gwblhau'r arolwg (ym mis Tachwedd/Rhagfyr 2020) â chyn y cyfnod clo cyntaf ledled y DU, dywedodd ychydig dros draean (36%) o aelwydydd yng Nghymru eu bod yn ei chael hi'n anoddach ymdopi'n ariannol bryd hynny. Cododd hyn yn sylweddol i hanner (50%) yr aelwydydd sy'n debygol o fod yn dlawd o ran tanwydd a/neu ar incwm isel (o dan £16,000 y flwyddyn) (58%).

Dywedodd o leiaf dau o bob pump o'r rheiny mewn aelwydydd yng Nghymru sy'n debygol o fod yn dlawd o ran tanwydd na allent fforddio gwresogi eu haelwydydd i lefel gyfforddus (36% v 21% ar gyfartaledd), neu eu bod yn dogni'r defnydd o ynni oherwydd pryderon ariannol (43% v 26% ar gyfartaledd).

Er bod ymddygiadau sy'n lleihau'r defnydd o ynni yn cael eu hystyried yn fuddiol i sero net oherwydd eu bod yn gallu lleihau allyriadau carbon, nid oes unrhyw awgrym bod y rhain yn ganlyniadau polisi cadarnhaol mewn cyd-destunau lle mae newidiadau'n cael eu gwneud o reidrwydd i arbed arian: oherwydd efallai na fydd yr aelwydydd hyn yn gallu cynhesu eu cartrefi yn ddigonol neu ddefnyddio offer fel maent ei angen.

Beth yw'r effeithiau posibl ar bolisi tymor byr, tymor canolig a thymor hwy?

Mae yna hefyd nifer o oblygiadau pwysig i'r ffordd y mae Llywodraeth Cymru neu Lywodraeth y DU yn cyfathrebu â'r cyhoedd ynghylch gwneud neu gynnal newidiadau ymddygiad sero net cadarnhaol.

  • Ar hyn o bryd mae arbed arian a gwella lles corfforol a meddyliol yn ysgogwyr pwysicach na phryder amgylcheddol.
  • Mae pryder personol am newid yn yr hinsawdd wedi'i gysylltu'n gryfach â newid ymddygiad sero net cadarnhaol nag ystyriaeth fwy rhesymol neu gyfrifedig o'r materion, megis disgwyl effeithiau negyddol newid yn yr hinsawdd yn ystod oes yr unigolyn. Mae hyn yn dangos y dylai negeseuon am effeithiau fod yn bersonol yn hytrach nag yn generig i ysgogi gweithredu.
  • Gall dealltwriaeth wael o effaith amgylcheddol newidiadau sero net cadarnhaol fod yn cyfyngu i ba raddau y mae pryderon amgylcheddol yn cael eu nodi fel sbardun i newid. Fel arall, gall hyn fod yn amharodrwydd syml ynghylch newid ffordd o fyw ymwthiol.

Hefyd, o ystyried ei bod yn llai tebygol y byddai ymddygiadau sydd â'r potensial uchaf am effaith net sero gadarnhaol yn cael eu cynnal (e.e. teithio llesol, lleihau teithio awyr), efallai y bydd angen mesurau i gefnogi'r newidiadau ymddygiad hyn.

Manylion cyswllt

Awduron yr Adroddiad: Bridget Williams, Ruth Townend, Alice Walford, Charlie Peto, Kate Mesher 

Ipsos Mori

Barn yr ymchwilwyr a fynegir yn yr adroddiad hwn ac nid o reidrwydd barn Llywodraeth Cymru.

Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â:
Aimee Marks
E-bost: ymchwildyfodolcynaliadwy@llyw.cymru

Cyfryngau: 0300 025 8099

Rhif ymchwil cymdeithasol: 76/2021
ISBN digidol: 978-1-80391-266-0

Image
GSR logo