Rydym am wella’r ffordd ar hyd yr A40 rhwng Caerfyrddin a Sanclêr.
Trosolwg
Ystyriodd yr adolygiad ffyrdd y prosiect hwn
Mae’r dudalen hon yn adlewyrchu ein rhaglen flaenorol ar gyfer buddsoddi mewn ffyrdd. Cafodd rhaglen newydd ei chyhoeddi yn y cynllun cyflawni trafnidiaeth.
Byddwn yn cyhoeddi tudalennau newydd ar y wefan er mwyn adlewyrchu’r rhaglen newydd.
Pam ydym ni’n ei wneud
Rydym am:
- wneud y ffordd yn fwy diogel i yrwyr
- ei gwneud yn haws ac yn fwy diogel i bobl gerdded neu feicio
- ei gwneud yn haws i bobl gerdded rhwng Caerfyrddin a Sanclêr.
Sut mae’r gwaith yn mynd yn ei flaen
Mae’r cynllun wrthi’n mynd drwy’r camau yn Arweiniad Llywodraeth Cymru ar Arfarnu Trafnidiaeth Cymru (WelTAG) ac mae’r opsiynau a ffefrir y cael eu nodi ar hyn o bryd.
Camau nesaf
Unwaith y byddwn wedi pennu opsiwn a ffefrir, byddwn yn llunio adroddiad cam 3 WelTAG.
Beth rydym yn ei wneud
Rydym yn:
- edrych ar ddiogelwch ar y ffordd ac ar faterion gweithredol
- ystyried sut mae’r mannau croesi, nodweddion y ffordd a’r cilfannau’n cael eu defnyddio
- ystyried sut y gallwn ei gwneud yn haws i bobl deithio mewn ffyrdd gwahanol.
Sut rydym yn ymgynghori
Yn rhan o broses WelTAG, rydym wedi ymgynghori â’r trigolion lleol, busnesau, cynghorau cymuned, y gwasanaethau brys a Chyngor Sir Caerfyrddin.