Mae’r Gweinidog Iechyd Eluned Morgan wedi cyhoeddi y bydd mwy na £51m yn cael ei fuddsoddi i ddarparu offer newydd yn lle hen offer delweddu diagnostig ar draws GIG Cymru, ac i wella amseroedd aros.
Bydd uwchraddio technoleg ac offer hanfodol, gan gynnwys offer sganio MRI a CT, yn sicrhau bod pobl sy’n aros am sganiau yn cael eu gweld yn gynt, gan helpu i leihau eu pryderon.
Mae'r cyllid yn cael ei ddarparu’n gynt yn wyneb prinder byd-eang o offer diagnostig, oherwydd galw cynyddol.
Bydd yn helpu i sicrhau bod gan GIG Cymru y cyfleusterau diagnostig mwyaf modern sy’n defnyddio’r dulliau delweddu diweddaraf. Bydd ansawdd y delweddau’n gwella, a fydd yn helpu i roi diagnosis cynharach a chywirach o lawer o glefydau cyffredin, gan gynnwys canser.
Dywedodd y Gweinidog Iechyd Eluned Morgan:
Rydym wedi ymrwymo i sicrhau bod gan GIG Cymru yr offer a'r cyfarpar diagnostig cywir sydd eu hangen i ofalu am bobl ledled Cymru.
Drwy sicrhau bod gennym gyfleusterau sy'n addas ar gyfer yr 21ain ganrif, gallwn wella gofal pobl yn sylweddol drwy roi diagnosis cynharach a chywirach a helpu i leihau'r straen a'r pryder i bobl wrth iddynt aros am y profion hyn.
Mae gennym lawer o waith i'w wneud i leihau amseroedd aros, ond bydd buddsoddi yn y dechnoleg ddiagnostig ddiweddaraf yn helpu i gefnogi’r ymdrechion i adfer o’r pandemig.
Ers i’r rhaglen genedlaethol i ddarparu offer delweddu diagnostig newydd yng Nghymru gael ei sefydlu yn 2018, mae dros £63m wedi’i fuddsoddi.
Yn gynharach eleni, cyhoeddwyd y byddai £25m yn cael ei fuddsoddi i ddarparu offer newydd yn y meysydd lle mae’r flaenoriaeth uchaf, a chafwyd ymrwymiad pellach o £25m i ddatblygu gwasanaethau delweddu PET-CT ledled Cymru.
Bydd Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro yn cael £7.7m i brynu offer newydd yn lle’r offer sganio MRI a CT, yn ogystal â chyfleusterau fflworosgopeg, yn Ysbyty Athrofaol Llandochau.
Dywedodd Fiona Jenkins, Cyfarwyddwr Gweithredol Therapïau a Diagnosteg Glinigol:
Yn ogystal ag uwchraddio ein hoffer delweddu digidol yn Ysbyty Athrofaol Cymru, bydd y cyllid hwn yn sicrhau bod gennym offer diagnostig o ansawdd uchel er mwyn inni allu darparu’r gwasanaethau mwyaf effeithlon posibl i bobl. Bydd hyn hefyd yn bwysig o ran mynd i’r afael ag amseroedd aros sydd wedi’u heffeithio gan y pandemig COVID-19.