Neidio i'r prif gynnwy

Yn bresennol

  • Y Gwir Anrh Mark Drakeford AS, y Prif Weinidog
  • Lesley Griffiths AS (Cadeirydd)
  • Lee Waters AS (Is-gadeirydd - eitem 1)
  • Mick Antoniw AS
  • Rebecca Evans AS
  • Vaughan Gething AS
  • Jane Hutt AS
  • Jeremy Miles AS
  • Eluned Morgan AS
  • Dawn Bowden AS
  • Hannah Blythyn AS
  • Julie Morgan AS
  • Lynne Neagle AS

Arweinwyr Awdurdodau Lleol Gogledd Cymru:

  • Y Cyng. Ian Roberts, Sir y Fflint
  • Y Cyng. Mark Pritchard, Wrecsam
  • Y Cyng. Charlie McCoubrey, Conwy
  • Y Cyng. Llinos Medi Huws, Ynys Môn
  • Y Cyng. Dyfrig Siencyn, Gwynedd
  • Chris Llewelyn, Prif Weithredwr, CLlLC
  • Stephen Jones, CLlLC

Pobl allanol eraill a oedd yn bresennol:

  • Lee Robinson, Trafnidiaeth Cymru
  • Jo Whitehead, Prif Weithredwr – Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr
  • Lucy Reid, Is-gadeirydd – Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr

Swyddogion Llywodraeth Cymru

  • Shan Morgan, yr Ysgrifennydd Parhaol
  • Des Clifford, Cyfarwyddwr Cyffredinol, Swyddfa’r Prif Weinidog
  • Andrew Goodall, Cyfarwyddwr Cyffredinol, Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
  • Olivia Shorrocks, Pennaeth Cyflyrau Difrifol
  • Gareth Evans, Pennaeth Dadansoddi Datblygu Polisi, Trafnidiaeth
  • Will Whiteley, Pennaeth Ysgrifenyddiaeth y Cabinet
  • Catrin Sully, Pennaeth Swyddfa’r Cabinet (eitem 1)
  • Jane Runeckles, Cynghorydd Arbennig
  • Andrew Johnson, Cynghorydd Arbennig
  • Clare Jenkins, Cynghorydd Arbennig
  • Alex Bevan, Cynghorydd Arbennig
  • Ian Butler, Cynghorydd Arbennig
  • Mitch Theaker, Cynghorydd Arbennig
  • Damian Roche, Ysgrifenyddiaeth y Cabinet (cofnodion)
  • Christopher Morgan, Ysgrifenyddiaeth y Cabinet 
  • Gwenllian Roberts, Prif Swyddog Rhanbarthol, Gogledd Cymru
  • Heledd Cressey, Uwch Reolwr Cynllunio Rhanbarthol, Gogledd Cymru

Ymddiheuriadau

  • Y Cyng. Hugh Evans, Sir Ddinbych

Eitem 1: Rhoi’r Rhaglen Lywodraethu ar waith yng Ngogledd Cymru

1.1 Cyflwynodd Gweinidog Gogledd Cymru yr eitem, a oedd yn ystyried effeithiau'r Rhaglen Lywodraethu o safbwynt Gogledd Cymru.

1.2 Roedd yn hanfodol ystyried Gogledd Cymru fel rhan o'r gwaith o gyflawni'r Rhaglen Lywodraethu gyfan.

Eitem 2: Diweddariad ar Fetro Gogledd Cymru

2.1 Croesawodd Gweinidog Gogledd Cymru yr Arweinwyr Awdurdodau Lleol o bob rhan o Ogledd Cymru a Dr. Chris Llewellyn, Prif Weithredwr Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, i’r cyfarfod. Nodwyd bod y cyfle i barhau ar y cyd â'r gwaith hwn er budd y rhanbarth ehangach yn cael ei werthfawrogi'n fawr gan bawb a oedd yn bresennol, a chanmolwyd yr amcan i barhau i ymgysylltu ar amrywiaeth o faterion ledled Gogledd Cymru.

2.2 Croesawodd y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd Lee Robinson o Drafnidiaeth Cymru i'r Pwyllgor a gofynnodd iddo gyflwyno sefyllfa ddiweddaraf rhaglen Metro Gogledd Cymru.

2.3 Byddai Metro Gogledd Cymru yn ei gwneud yn haws ac yn gyflymach i deithio rhwng Arfordir Gogledd Cymru, Wrecsam, Glannau Dyfrdwy a Glannau Mersi ac yn gwella cysylltiadau bysiau a threnau.

2.4 Roedd gwaith ar gamau cychwynnol Metro Gogledd Cymru, sy’n werth miliynau o bunnoedd, yn mynd rhagddo, gan osod sylfeini ar gyfer trawsnewid gwasanaethau trenau a bysiau yng Ngogledd-ddwyrain Cymru.

2.5 Byddai'r Metro yn creu cyfleoedd gwaith a hamdden cyffrous ar draws Gogledd Cymru ac yn drawsffiniol ac roedd yn rhan hanfodol o weledigaeth y Llywodraeth i ddatblygu economi'r rhanbarth a datblygu'r cysylltiadau â HS2 a Phwerdy Gogledd Lloegr.

2.6 Roedd y gwelliannau a fyddai'n cael eu gwneud yn cynnwys lansio gwasanaeth newydd Lerpwl i Wrecsam ym mis Mai 2019 drwy'r Halton Curve, gan wella'r cysylltiadau rhwng Lerpwl a Gogledd Cymru yn sylweddol.

2.7 Yn ogystal, byddai nifer y gwasanaethau ar Lein y Gororau rhwng Wrecsam a Bidston yn cael ei gynyddu i ddau drên yr awr, gyda threnau Metro wedi'u hailadeiladu'n llawn. Byddai'r trenau hyn yn darparu gwasanaeth cyflymach a mwy o gapasiti yn ogystal â gwell cyfleusterau yn y trenau gan gynnwys aerdymheru.

2.8 Byddai gwasanaethau uniongyrchol rhwng Lerpwl a Llandudno drwy Arfordir Gogledd Cymru yn cael eu cyflwyno o fis Rhagfyr 2022 ymlaen, a rhwng Lerpwl a Chaerdydd drwy Wrecsam.

2.9 Roedd cynlluniau ar waith i wella cysylltiadau drwy wella gorsafoedd, gan ei gwneud yn haws newid rhwng gwasanaethau trenau a bysiau yn Wrecsam Cyffredinol, a rhwng gwasanaethau rheilffordd Arfordir Gogledd Cymru a Lein y Gororau yn Shotton.

2.10 Yn ogystal, roedd cynlluniau'n cael eu datblygu i wella trafnidiaeth gyhoeddus i Barc Diwydiannol Glannau Dyfrdwy ac oddi mewn iddo, ac Ardal Fenter ehangach Glannau Dyfrdwy, er mwyn darparu gwell cyfleoedd i bobl a busnesau lleol.

2.11 Y weledigaeth gyffredinol yn y blynyddoedd i ddod oedd y byddai Trafnidiaeth Cymru yn gwella'r rhwydwaith trafnidiaeth yng Ngogledd Cymru, gan gydweithio â phartneriaid i gyflawni gweledigaeth y Llywodraeth ar gyfer Metro Gogledd Cymru a chreu rhwydwaith trafnidiaeth integredig ar gyfer Cymru gyfan. Byddai Uned Fusnes Gogledd Cymru Trafnidiaeth Cymru yn chwarae rôl hanfodol o ran sicrhau bod anghenion lleol a rhanbarthol yn cael eu diwallu.

2.12 Diolchodd Gweinidog Gogledd Cymru i Mr. Robinson am ei gyflwyniad a chroesawodd y gefnogaeth i'r cynigion hyn, a fyddai'n sicrhau manteision sylweddol ledled Gogledd Cymru.

2.13 Cytunodd y Pwyllgor i gefnogi rhaglen Metro Gogledd Cymru yn gadarn a gofynnodd am ddiweddariadau pellach wrth i'r rhaglen fynd rhagddi.

Eitem 3: Iechyd, Ymateb i Covid, Adfer Iechyd ac Ailosod

3.1 Dywedodd Gweinidog Gogledd Cymru wrth y Pwyllgor y dylid ystyried yr eitem ar iechyd yn flaenoriaeth, oherwydd cyfyngiadau amser, ac y byddai diweddariadau ysgrifenedig yn cael eu darparu ar Adferiad Gwyrdd Carbon Isel ac Adferiad a Chadernid Twristiaeth.

3.2 Rhoddodd Andrew Goodall ddiweddariad ar yr ymateb i COVID-19 yng Ngogledd Cymru.

3.3 O safbwynt iechyd y cyhoedd, roedd niwed ehangach i'w ystyried ar wahân i effeithiau COVID-19 ar iechyd a'r cydbwysedd hwn y dylid ei ystyried nawr.

3.4 Ledled Cymru, roedd nifer yr achosion oddeutu 150 fesul 100,000 o bobl, o'i gymharu ag uchafbwynt yn ystod yr ail don o bron i 600 fesul 100,000 o bobl, ac roedd tua 150 o gleifion yn yr ysbyty gyda COVID-19.

3.5 Un o’r prif resymau pam roedd y drydedd don hon wedi arwain at lai o dderbyniadau i’r ysbyty a marwolaethau oedd ymdrechion y GIG i gyflwyno'r rhaglen frechu, ac roedd hynny’n rhywbeth i'w ganmol. 

3.6 Roedd gwanhau'r cysylltiad rhwng heintiau a derbyniadau i’r ysbyty yn golygu y gallai Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr ddechrau canolbwyntio ar adferiad, gan gynyddu gweithgarwch arferol, gyda chymorth cyllid i fynd i'r afael â'r ôl-groniadau anochel a oedd wedi datblygu o ganlyniad i'r pandemig.

3.7 Roedd yn amlwg y byddai angen ymyriadau wedi'u targedu yn y Bwrdd Iechyd wrth symud ymlaen a byddai'r rhain yn cael eu harwain gan safbwyntiau ac anghenion lleol.

3.8 Croesawodd y Gweinidog Jo Whitehead, Prif Weithredwr Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, a'i gwahodd i roi diweddariad ar weithgarwch ar draws y rhanbarth.

3.9 Roedd yn bwysig ailadrodd diolchgarwch y Bwrdd Iechyd am holl waith caled ac ymroddiad y staff ar draws y tri phrif safle ysbyty yng Ngogledd Cymru, ac i feddygon teulu, fferyllfeydd, timau cymunedol a'r holl bartneriaid cyflenwi eraill a oedd wedi cyfrannu at gyflwyno'r rhaglen frechu. 

3.10 Cydnabu'r Bwrdd Iechyd hefyd y tristwch a'r golled enfawr a gafwyd ar draws yr ardal yn ystod y 18 mis blaenorol yn sgil y pandemig.

3.11 Yn ymarferol, nodwyd mai dim ond 40 o gleifion oedd yn yr ysbyty yng Ngogledd Cymru gyda COVID-19 a dim ond tri mewn Uned Gofal Dwys ar hyn o bryd. Roedd rhywfaint o effaith wedi bod yn ddiweddar yn sgil twristiaeth i Ogledd Cymru, a oedd, wrth gwrs, yn hanfodol i fusnesau bach a chanolig, ond gallai fod yn risg o ran cynyddu cyfraddau heintio.

3.12 Cydnabuwyd bod y Bwrdd Iechyd bellach wedi symud o fesurau arbennig i raglen o ymyriadau wedi'u targedu, a fyddai'n canolbwyntio'n bennaf ar adfer o COVID-19.

3.13 Ochr yn ochr â'r gwaith hwnnw, byddai'r Bwrdd Iechyd yn canolbwyntio ar gyflawni pedair swyddogaeth graidd, gan gynnwys:

  • iechyd meddwl oedolion a CAMHS
  • strategaeth
  • arweinyddiaeth
  • diwylliant a llywodraethu
  • ymgysylltu â chleifion

Roedd gweithgareddau gwella eisoes ar waith ar draws y pedwar maes.

3.14 Maes ffocws arall oedd y cynllun gwella gwasanaethau clinigol, a oedd yn seiliedig ar egwyddorion strategol 'Cymru Iachach' y Llywodraeth. Byddai ffocws ar atal ar draws gwasanaethau gofal sylfaenol a chymunedol, gydag ymgynghori a chyd-ddylunio wrth wraidd y cynllun.

3.15 O ran adfer ac ailosod, byddai angen cynyddu capasiti i fynd i'r afael â'r ôl-groniad, a gwneud mwy o ddefnydd o glinigau cleifion allanol. Byddai'r rhain yn dibynnu ar y strategaethau cywir ar gyfer capasiti cwricwlwm a lleoliadau, ynghyd ag ymchwil a refeniw digonol.

3.16 Diolchodd y Pwyllgor hefyd i'r Bwrdd Iechyd a'r GIG ehangach yng Nghymru am ei ymdrechion anhygoel yn ystod y pandemig.

3.17 Cytunodd y Pwyllgor i gefnogi’r rhaglen adfer ac ailosod ar draws Gogledd Cymru, gan gydnabod y byddai cydweithio â'r holl bartneriaid yn hanfodol ac y byddai adfer yn cymryd peth amser. Roedd newid gwasanaeth yn anochel er mwyn ymdopi â'r galw a rhoddwyd ymrwymiad gan bawb i weithio tuag at welliant parhaus mewn gwasanaethau iechyd ar draws y rhanbarth.

Eitem 4: Materion Allweddol gan Arweinwyr Awdurdodau Lleol

4.1 Gwahoddodd Gweinidog Gogledd Cymru yr Arweinwyr Awdurdodau Lleol i roi diweddariad ar faterion allweddol ar draws eu hardaloedd.

4.2 Nodwyd y byddai gan yr adolygiad o gynlluniau ffyrdd a gyhoeddwyd yn ddiweddar gan y Llywodraeth oblygiadau i nifer o brosiectau allweddol yng Ngogledd Cymru. Gofynnwyd am eglurder ynglŷn â'r ffordd ymlaen a nodwyd bod heriau difrifol o ran newid hinsawdd a'r defnydd o ffyrdd i'w hystyried fel rhan o'r adolygiad.

4.3 Adroddwyd bod £1.98m wedi'i ddyfarnu ar gyfer atgyweirio asedau rheoli perygl llifogydd yng Ngogledd Cymru hyd yma.

4.4 Nodwyd bod ail gartrefi yn peri pryder sylweddol yng Ngwynedd yn benodol a bod Llywodraeth Cymru wedi gwneud cyhoeddiad ar hynny yn y Senedd yn ddiweddar. Byddai angen syniadau twristiaeth cynaliadwy hefyd i sicrhau nad oedd yr ardal yn cael ei gorlethu. Roedd angen ystyried seilwaith gwledig mewn cynlluniau trafnidiaeth gyhoeddus gan fod gofynion gwledig yn aml yn wahanol i ardaloedd mwy trefol.

4.5 Codwyd mater gofal cymdeithasol yng Nghonwy, rhywbeth a oedd yn cael effaith anghymesur ar yr ardaloedd hynny â phoblogaeth sy'n heneiddio.

4.6 Croesawodd Arweinydd Cyngor Ynys Môn y cyfle i ymgysylltu â'r Pwyllgor a holodd a allai cyfarfodydd mwy rheolaidd fod o fudd i'r rhanbarth.

4.7 Diolchodd Gweinidog Gogledd Cymru i bawb am eu presenoldeb.

Ysgrifenyddiaeth y Cabinet
Gorffennaf 2021