Diweddariadau fframwaith.
Cydrannau sbâr i gerbydau
Yn dilyn y gwerthusiad, byddwn yn dyfarnu'r fframwaith cydrannau sbâr i gerbydau cyn bo hir. Disgwylir i'r fframwaith fod yn fyw ac ar gael i’w ddefnyddio o 1 Rhagfyr 2021.
Llogi cerbydau
Rydym wedi dyfarnu'r fframwaith llogi cerbydau newydd a aeth yn fyw ar 2 Tachwedd 2021. Mae'r fframwaith yn cwmpasu Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol, gan gefnogi datgarboneiddio drwy fynediad i gerbydau allyriadau isel iawn.
I gael rhagor o wybodaeth ac i gael gafael ar ganllawiau cwsmeriaid ar sut i ddefnyddio'r fframwaith, ewch i'r Gofrestr Contractau ar GwerthwchiGymru (bydd angen mewngofnodi).
Telemateg cerbydau
Disgwylir i'r fframwaith telemateg cerbydau presennol ddod i ben ym mis Mehefin 2022. Mae gwaith ar y gweill i ddatblygu'r strategaeth gaffael ar gyfer y cytundeb newydd. Rydym yn sefydlu grŵp ffocws cwsmeriaid newydd i helpu i ddatblygu'r strategaeth gaffael. Os ydych chi'n dymuno bod yn rhan o'r trafodaethau hyn, e-bostiwch CaffaelMasnachol.Fflyd@llyw.cymru am ragor o wybodaeth.