Lauren McEvatt Comisiynydd
Lauren McEvatt yn aelod o’r Comisiwn Annibynnol ar Ddyfodol Cyfansoddiadol Cymru.
Fel aelod o’r blaid geidwadol, mae Lauren yn gyn Gynghorydd Arbennig o’r Weinyddiaeth Glymbleidiol, gan weithio i Swyddfa Cymru yn Llywodraeth y DU, o dan arweinyddiaeth David Jones, yr Aelod o Senedd San Steffan, ac Ysgrifennydd Gwladol Cymru ar y pryd. Yn ystod ei thymor o wasanaeth, bu’n drafftio ac yn cyflwyno cyfraniad Llywodraeth y DU i Gomisiwn Silk, yn ogystal â chamau drafftio a chamau cychwynnol Deddf Cymru 2014.
Ar ôl hynny, bu’n gweithio i nifer o lywodraethau ar draws Dwyrain Affrica a’r Caribî, gan gynnwys llywodraeth un o Diriogaethau Tramor Prydain, lle’r oedd ei chefndir mewn datganoli yn ddefnyddiol dro ar ôl tro, wrth iddi gynorthwyo negodiadau ynglŷn â diwygio cyfansoddiad Tiriogaeth Dramor Prydain, a masnach a buddsoddi ar draws swyddfeydd llywodraeth datganoledig a chenedlaethol mewn gwlad yn Nwyrain Affrica.
Cafodd ei geni yn Lloegr i rieni o Iwerddon ac America, a chafodd ei magu yn Hong Kong. Ar hyn o bryd, mae’n gweithio mewn materion llywodraeth rhyngwladol sy’n cynnwys cysylltiadau’r sectorau cyhoeddus a phreifat â sefydliadau amlochrog a sefydliadau datblygu.
Mae’n astudio o bell ar gyfer MA mewn Diplomyddiaeth Fyd-eang yn SOAS, lle bydd pwnc arfaethedig ei thesis yn ymwneud â chynrychiolaeth gwladwriaethau is-genedlaethol/gweinyddiaethau datganoledig mewn sefydliadau amlochrog.