Mae Prif Weinidog Cymru Mark Drakeford wedi cael ei frechiad atgyfnerthu COVID-19 heddiw yng Nghanolfan Brechu Torfol Bayside ym Mae Caerdydd.
![Prif Weinidog Cymru yn cael pigiad atgyfnerthu COVID](/sites/default/files/styles/600x400/public/announcements/2021-11/First%20Minister%20receives%20Covid%20booster%20%281%29.jpg?itok=4RV9qkVZ)
Wrth siarad wedyn, dywedodd y Prif Weinidog:
"Hoffwn i ddiolch i holl staff a gwirfoddolwyr y Gwasanaeth Iechyd sydd wedi gweithio'n ddiflino dros y misoedd diwethaf, i sicrhau bod y rhaglen frechu wedi bod yn gymaint o lwyddiant yma yng Nghymru.
"Rwy'n annog pawb sy'n cael cynnig brechiad atgyfnerthu i ddod i'w hapwyntiadau.
"Mae'n rhaid inni wneud popeth o fewn ein gallu i gadw pawb yn ddiogel gan fod y coronafeirws yn dal gyda ni.”