Cyfarfod y Fforwm Strategol ar Fuddsoddi Rhanbarthol yng Nghymru, 7 Hydref 2021: cofnodion
Cofnodion cyfarfod y Fforwm Strategol ar Fuddsoddi Rhanbarthol yng Nghymru, 7 Hydref 2021.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
1. Croeso (9:30)
Agorodd y Cadeirydd y cyfarfod a diolchodd i'r rhai a oedd yn bresennol am gadarnhau eu haelodaeth o'r Fforwm yn ffurfiol.
Nododd y Cadeirydd nad oedd y ceisiadau llwyddiannus i Gronfa Adnewyddu Cymunedol a Chronfa Chodi’r Gwastad Llywodraeth y DU yn hysbys o hyd oherwydd oedi parhaus, ond y byddai'r cyfarfod yn cynnwys diweddariadau gan Lywodraeth Cymru a Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru ar ddatblygiadau diweddar, yn ogystal â sesiynau ar ddarparu sgiliau a chymorth busnes yn y dyfodol, a'r wybodaeth ddiweddaraf am y gwaith sy'n digwydd gyda'r Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd (OECD).
2. Cylch Gorchwyl (9:35)
Diolchodd y Cadeirydd i'r aelodau am adolygu'r Cylch Gorchwyl drafft a ddosbarthwyd cyn y cyfarfod blaenorol. Ychwanegodd fod y sylwadau a gafwyd ychydig y tu hwnt i gwmpas presennol y Fforwm ond y byddent yn ddefnyddiol wrth lywio'r adolygiad o'r Fforwm a'i rôl yn y dyfodol ar ddiwedd y flwyddyn.
Ni chafwyd unrhyw sylwadau pellach a derbyniwyd y Cylch Gorchwyl gan yr aelodau a bydd yn cael ei gyhoeddi ar wefan Llywodraeth Cymru.
Cafodd cofnodion cyfarfod 14 Gorffennaf eu clirio hefyd gan yr aelodau i'w cyhoeddi.
3. Diweddariad Llywodraeth Cymru (9:40)
Nododd y Cadeirydd fod Gweinidog yr Economi wedi gwneud datganiad yn y Senedd ar 28 Medi a oedd yn ymdrin â negeseuon pwysig ynghylch Cronfa Ffyniant Gyffredin a Chronfa Chodi’r Gwastad y DU. Gwahoddwyd Peter Ryland (PR) i wneud sylwadau pellach ar safbwynt Llywodraeth Cymru o ran y cronfeydd hyn.
Dywedodd PR fod Llywodraeth y DU wedi newid eu hymagwedd yn ddiweddar ac wedi gofyn i’r Swyddfa Ystadegau Gwladol wneud gwaith ar ddangosyddion ac allbynnau ar gyfer y Gronfa Ffyniant Gyffredin (SPF).
Fodd bynnag, mae’r ffaith fod y gwaith hwn yn cael ei wneud mor hwyr yn peri pryder ac nid yw’r rhagolygon y bydd SPF llawn ar waith yn 2022-23 yn obeithiol iawn. Mae'n debygol y bydd y Gronfa Adnewyddu Cymunedol (CRF) beilot yn cael ei hymestyn y flwyddyn nesaf gan fod Llywodraeth y DU wedi gohirio cyhoeddi ceisiadau llwyddiannus am dri mis, ac o dan y cynlluniau presennol mae angen cwblhau prosiectau erbyn diwedd mis Mawrth 2022.
Dywedodd PR fod Gweinidog yr Economi wedi gwneud pwynt o estyn allan at yr Ysgrifennydd Gwladol newydd dros Godi’r Gwastad, Tai a Chymunedau, Michael Gove, yn ei ddatganiad yn y Senedd a’i fod hefyd wedi ysgrifennu ato i ofyn am gyfarfod cyn Adolygiad Gwariant y DU ar 27 Hydref. Mae Llywodraeth Cymru yn wirioneddol barod i gydweithio â Llywodraeth y DU ar sail parch at y setliad datganoli a phroses o wneud penderfyniadau ar y cyd.
Nododd PR fod Gweinidog yr Economi wedi cyfarfod â phartneriaid Addysg Uwch yn ddiweddar i drafod y materion hyn. Ychwanegodd, er y gallai fod potensial i ymgysylltu'n well â Llywodraeth y DU yn dilyn ad-drefnu Cabinet y DU, y bydd yr oedi wrth darparu'r cronfeydd hyn yn rhoi partneriaid cyflenwi yng Nghymru o dan bwysau gwirioneddol y flwyddyn nesaf.
Yn dilyn sylwadau PR, gwnaeth yr aelodau'r sylwadau canlynol:
- Mae Llywodraeth y DU wedi dweud wrth Brifysgolion y bydd ei dull o ariannu ymchwil yn seiliedig ar ymyriadau rhanbarthol ac agosach at y farchnad.
- Mae gan y trydydd sector bryderon ynghylch sut y gwneir penderfyniadau ar geisiadau i Gronfa Perchnogaeth Gymunedol Llywodraeth y DU. Credir y gallai penderfyniadau Llywodraeth y DU fod yn seiliedig ar wasgaru ar draws meysydd, yn hytrach nag ar sail teilyngdod. Hefyd, mae Llywodraeth y DU yn defnyddio ystadegau amddifadedd ar gyfer Lloegr, ond nid ar gyfer gwledydd datganoledig, felly mae anghysondeb yn y dull gweithredu. Mae tua 9% o'r ceisiadau a gyflwynwyd yn y rownd gyntaf wedi dod o Gymru, gan geisio £3.7m o gyllid.
- Gyda'i gilydd, mae cyrff trydydd sector cenedlaethol o bob gwlad yn y DU wedi ysgrifennu at Michael Gove i ofyn am ymgysylltu mwy strwythuredig ar yr SPF.
- Mae gan y trydydd sector gyfarfod wedi’i drefnu gyda Gweinidog yr Economi i drafod effaith dull Llywodraeth y DU o weithredu ar broses gyflawni’r trydydd sector yn y dyfodol.
4. Diweddariad Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (9:55)
Diolchodd y Cadeirydd i PR a gwahoddodd Tim Peppin (TP) i roi'r wybodaeth ddiweddaraf ar ran Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (CLlLC).
Dywedodd TP ei bod yn ymddangos yn debygol y byddai ceisiadau llwyddiannus i'r Gronfa Adnewyddu Cymunedol (CRF) a’r Gronfa Codi’r Gwastad (LUF) bellach yn cael eu cyhoeddi ym mis Tachwedd ar ôl Adolygiad o Wariant y DU.
Nododd TP fod rhai awdurdodau lleol wedi ysgrifennu at ymgeiswyr i ofyn am oblygiadau'r oedi ar gyflawni prosiectau arfaethedig. Ychwanegodd bod disgwyl y byddai'r CRF yn cael ei hymestyn am dri mis i fis Mehefin y flwyddyn nesaf.
Mae Llywodraeth y DU wedi creu tasglu gyda'r pedair Cymdeithas Llywodraeth Leol i drafod yr SPF. Cynhaliwyd dau gyfarfod hyd yma gyda Llywodraeth y DU yn gwrando ar adborth heb unrhyw wybodaeth newydd.
Dywedodd TP fod CLlLC wedi pwysleisio'r pwyntiau canlynol yng nghyfarfodydd y tasglu:
- Pwysigrwydd telerau ymgysylltu clir, a galw am gyfarfod grŵp o aelodau gwleidyddol, yn hytrach na swyddogion yn unig
- Pwysigrwydd penderfyniadau lleol, yn ffitio i strategaeth genedlaethol
- Yr angen am ymgysylltu priodol a chydgynhyrchu gwirioneddol wrth ddylunio'r SPF
- Yr angen am ymrwymiadau ariannu hirdymor
- Osgoi prosesau ymgeisio cystadleuol
- Pwysigrwydd cynnwys llywodraethau datganoledig
- Y dull a ffefrir fyddai un pot integredig
- Ffocws ar ganlyniadau ac eglurder ynghylch yr hyn yr ydym yn ceisio'i gyflawni gyda'r cyllid
Ychwanegodd TP fod Arweinwyr CLlLC wedi ysgrifennu at Michael Gove i ofyn am ymgysylltu cynnar ar yr SPF. Roedd CLlLC hefyd wedi cael gwahoddiad yn ddiweddar gan adrannau Llywodraeth y Deyrnas Unedig, DEFRA a DLUHC, i ddigwyddiad bord gron i drafod cyllid gwledig yng nghyd-destun yr SPF.
5. Darparu cymorth sgiliau, cyflogadwyedd a busnes yn y dyfodol (10:10)
Diolchodd y Cadeirydd i TP a chyflwynodd Huw Morris (HM) a Duncan Hamer (DH) o Lywodraeth Cymru i roi'r wybodaeth ddiweddaraf am ddarparu cymorth sgiliau, cyflogadwyedd a busnes yn y dyfodol.
Dywedodd HM fod Llywodraeth Cymru yn wynebu cyllideb ac amgylchedd gwleidyddol heriol.
Yn y cyfnod 2014-2020, roedd Llywodraeth Cymru wedi cyfrannu tua £681m i gyfateb i £435m o gyllid Ewropeaidd ar draws Prentisiaethau a chymorth cyflogadwyedd, ac wedi darparu’r strategaeth a'r cyllid sylfaenol o ran cyflogadwyedd a sgiliau.
Mae bylchau yn y ddarpariaeth sgiliau drwy raglenni'r Adran Gwaith a Phensiynau a'r Ganolfan Byd Gwaith, ac ar ôl i’r cynlluniau a ariennir gan yr UE ddod i ben bydd angen i Lywodraeth Cymru ddiwallu’r anghenion. Mae hyn yn arbennig o wir o ran y bobl sydd bellaf o'r farchnad lafur ac yn wynebu'r heriau mwyaf o ran cael gwaith.
Ychwanegodd HM fod cyfraddau diweithdra isel a chyfraddau uchel o swyddi gwag hefyd yn her benodol.
Dywedodd EM y bydd Llywodraeth Cymru yn lansio strategaeth gyflogadwyedd newydd yn y flwyddyn newydd ac erbyn hynny bydd y sefyllfa gyllidebol, cynlluniau Adran Gwaith a Phensiynau’r DU yn y dyfodol ac effaith cyllid yr UE yn dod i ben yn raddol o 2022/23 yn gliriach. Bydd y strategaeth gyflogadwyedd yn cael ei datblygu'n agos gyda phartneriaid yng Nghymru.
Dywedodd DH fod heriau mawr, tebyg yn wynebu Busnes Cymru a’r nawdd i Fanc Datblygu Cymru. Ar gyfer Busnes Cymru, bydd bwlch cyllido o £25m pan ddaw cyllid yr UE i ben ac nid oes eglurder o hyd ynghylch a fydd rhaglenni cenedlaethol yn cael eu cefnogi drwy'r SPF.
Mae Busnes Cymru yn gweld cynnydd yn y galw ar ôl y cyfnod clo am gymorth cychwyn busnes a chymorth i fusnesau bach a chanolig. O ran yr adnoddau Covid y ceisiwyd amdanynt gan fusnesau, cefnogwyd 80 y cant o geisiadau gan Busnes Cymru. Nododd DH hefyd eu bod wedi bod yn gweithio'n agos gyda llywodraeth leol fwy nag erioed o'r blaen mewn ymateb i bandemig Covid a’u bod yn croesawu'r dull hwn wrth symud ymlaen.
Nododd Rachel Garside-Jones (RGJ) y bydd Gweinidog yr Economi yn amlinellu gweledigaeth, yn ogystal â'r cyfleoedd a'r risgiau ar gyfer datblygu economaidd ar ôl Covid a Brexit mewn Uwchgynhadledd Economaidd a gynhelir ar 18 Hydref. Bydd yr Uwchgynhadledd yn cael ei dilyn gan ddatganiad llafar yn y Senedd y diwrnod canlynol.
Mewn ymateb i'r diweddariadau gan HM a DH, gwnaeth yr aelodauy sylwadau canlynol:
- Ymholiad am gynlluniau wrth gefn ar gyfer Busnes Cymru os na all Llywodraeth Cymru gael mynediad at gyllid SPF.
- Datganiad y bydd Ffederasiwn y Busnesau Bach yn cefnogi Llywodraeth Cymru yn ei hymdrechion i sicrhau cyllid i gynnal gwasanaeth Busnes Cymru yn llawn.
- Holi a all llywodraeth leol helpu i lenwi'r bwlch cyllid.
- Mae prifysgolion yn cynnig cymorth sylweddol i dyfu busnesau, ac maent yn allweddol i oroesiad busnesau, ond bydd colli cyllid yr UE yn effeithio arnynt hwythau hefyd.
- Ymholiad am y datblygiadau diweddaraf o ran bargeinion arloesi arfaethedig y DU.
- Sylw y bydd cynlluniau Llywodraeth y DU ar gyfer yr SPF yn creu patrwm daearyddol o awdurdodau lleol a fydd yn gwrthdaro â'r dull rhanbarthol sydd wedi'i ddatblygu yng Nghymru ac sydd hefyd yn cael ei ddefnyddio ar gyfer y Bargeinion Dinesig a Thwf.
Mewn ymateb i'r sylwadau hyn, gwnaed y pwyntiau canlynol.
- Mae achos cryf dros gadw Busnes Cymru yn un gwasanaeth cymorth cenedlaethol. Mae'r sefyllfa'n ansicr o ystyried yr amgylchedd ariannol a gwleidyddol. Er y bydd cyllid yr UE yn dod i ben ym mis Medi 2023, gallai elfennau y mae angen eu caffael gymryd 12-18 mis.
- Mae angen dosbarthu cyllid arloesi'r DU yn fwy teg. Dangoswyd graffig yn dangos lledaeniad mwy cyfartal cyllid arloesi yng Nghymru drwy gynlluniau Llywodraeth Cymru (Sêr Cymru) o'i gymharu â chynlluniau Llywodraeth y DU (Innovate UK).
- Ystyrir bod Cyd-bwyllgorau Corffororedig yn ffordd ymlaen o ran integreiddio cyfranogiad lleol mewn dulliau rhanbarthol o ddatblygu economaidd.
- Nododd aelod llywodraeth leol bwysigrwydd cynllunio cynnar a gwaith cydweithredol / rhanbarthol gan lywodraeth leol i i helpu i fynd i'r afael â'r bylchau sy'n dod i'r amlwg.
- Cadarnhawyd y gall cyllid yr UE barhau tan ddiwedd mis Medi 2023, ond nid y tu hwnt hynny oherwydd amserlenni gwario’r Comisiwn Ewropeaidd.
6. Yr wybodaeth ddiweddaraf am brosiect OECD (10:40)
Diolchodd y Cadeirydd i HM a DH ac am sylwadau'r aelodau. Cyflwynodd Sheilah Seymour (SS) i roi'r wybodaeth ddiweddaraf ac i ateb cwestiynau am brosiect dwy flynedd newydd Llywodraeth Cymru gyda'r OECD. Nododd fod papur ar y gwaith hwn wedi'i ddosbarthu cyn y cyfarfod ac y bydd hefyd yn cael ei gyhoeddi ar y wefan.
Codwyd y pwyntiau canlynol gan yr aelodau:
- Y potensial i'r prosiect ystyried gweithio trawsffiniol, gan gynnwys effeithiau a chanlyniadau.
- Y cyfle i CLlLC gyfrannu at y prosiect.
- Ymholiad am gyfnod dwy flynedd y prosiect o ystyried cyflymder y newid.
- Y posibilrwydd y gellid ymgysylltu â Llywodraeth y DU drwy’r gwaith.
Wrth ymateb, gwnaeth SS y sylwadau canlynol:
- Mae'n gamau cynnar i'r prosiect, ond bydd y potensial ar gyfer elfennau trawsffiniol yn cael ei archwilio gyda'r OECD, a bydd CLlLC yn cael ei gynnwys fel un o nifer o randdeiliaid y bydd yr OECD yn awyddus i glywed eu barn.
- Mae dwy flynedd yn gyfnod safonol ar gyfer prosiectau o'r fath, ond bydd canfyddiadau ac adroddiadau interim ar gael a all gefnogi Gweinidogion yn gynharach.
- Codwyd y gwaith hwn gyda Llywodraeth y DU drwy ohebiaeth gan Weinidogion. Y gobaith yw y bydd Llywodraeth y DU yn fwy agored i ymgysylltu'n wirionedd gan fod Ysgrifennydd Gwladol newydd yn ei swydd.
7. Unrhyw fater arall a sylwadau i gloi (10:50)
Ni nodwyd unrhyw faterion eraill gan yr aelodau.
Diolchodd y Cadeirydd i'r Aelodau am eu presenoldeb a’u cyfraniadau. Cynhelir y cyfarfod nesaf ym mis Tachwedd yn dilyn Adolygiad o Wariant Llywodraeth y DU ar 27 Hydref. Anfonir nodyn dyddiadur at yr aelodau pan fydd dyddiad y cyfarfod wedi’i gadarnhau.
Atodiad A: rhestr o mynychwyr
Cadeirydd
Huw Irranca-Davies AS
Aelodau
Sefydliad |
Enw |
---|---|
CBI Cymru |
Nick Speed, Cyfarwyddwr Materion Cyhoeddus, BT |
Prifysgolion Cymru |
Amanda Wilkinson, Cyfarwyddwr |
Colegau Cymru |
Lisa Thomas, Pennaeth Coleg Merthyr Tudful |
Banc Datblygu Cymru |
Rob Hunter, Pennaeth Strategaeth |
Partneriaeth De-ddwyrain Cymru |
Nicola Somerville, Pennaeth Datblygu Busnes a Thwf Cynhwysol, Bargen Ddinesig Prifddinas-Ranbarth Caerdydd |
Partneriaeth Tyfu Canolbarth Cymru |
Y Cynghorydd Ellen ap Gwynn, Arweinydd Cyngor Ceredigion |
Cyfoeth Naturiol Cymru |
Alan Hunt, Uwch Gynghorydd Arbenigol |
Y Trydydd Sector (Menter Gymdeithasol) |
Derek Walker, Prif Weithredwr, Canolfan Cydweithredol Cymru |
Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru |
Tim Peppin, Cyfarwyddwr Adfywio a Datblygu Cynaliadwy Lowri Gwilym, Rheolwr Tîm - Ewrop ac Adfywio |
Siambrau Masnach |
Sarah Smith, Cyfarwyddwr Marchnata a Digwyddiadau |
Ffederasiwn Busnesau Hunangyflogedig a Bach Cymru |
Ashley Rogers, Cyfarwyddwr, Gill and Shaw |
Grahame Guilford and Company Ltd |
Grahame Guilford |
Partneriaeth y Trydydd Sector |
Matthew Brown, Cyfarwyddwr Gweithrediadau, Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru |
Prifysgol Caerdydd |
Kevin Morgan, Athro Llywodraethiant a Datblygu, Prifysgol Caerdydd |
Partneriaeth Gogledd Cymru |
Y Cynghorydd Dyfrig Siencyn, Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru |
Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru |
Harriet Barnes, Cyfarwyddwr Polisi a Chyllid |
Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol |
Yr Athro Rachel Ashworth, Deon a Phennaeth Ysgol Fusnes Caerdydd, Prifysgol Caerdydd |
Mynychwyr o Lywodraeth Cymru
Enw |
Rôl ac adran |
---|---|
Peter Ryland |
Prif Weithredwr, WEFO |
Rachel Garside Jones |
Dirprwy Gyfarwyddwr – Polisi Economaidd, yr Economi, Sgiliau a Chyfoeth Naturiol |
Sioned Evans |
Cyfarwyddwr – Busnes a Rhanbarthau, yr Economi, Sgiliau a Chyfoeth Naturiol |
Huw Morris |
Cyfarwyddwr Grŵp – SHELL, Yr Economi, Sgiliau a Chyfoeth Naturiol |
Rhodri Griffiths |
Prif Swyddog Rhanbarthol, y Canolbarth a'r Gorllewin – Yr Economi, Sgiliau a Chyfoeth Naturiol |
Duncan Hamer |
Dirprwy Gyfarwyddwr – Busnes a’r Rhanbarthau, Yr Economi, Sgiliau a Chyfoeth Naturiol |
John Hughes |
Pennaeth Buddsoddi Rhanbarthol, Yr Economi, Sgiliau a Chyfoeth Naturiol |
Sue Price |
Pennaeth Rheoli Rhaglen (ERDF), WEFO |
Alison Sandford |
Pennaeth Gwaith Partneriaeth, WEFO |
Sheilah Seymour |
Pennaeth Ymchwil a Dadansoddi, WEFO |
Mike Richards |
Rheolwr Cyfathrebu, WEFO |
Geraint Green |
Pennaeth Rheoli Rhaglenni (ESF ac ETC), WEFO |
Tracy Welland |
Pennaeth Gweithredu Strategol, WEFO |