Yr economi sylfaenol
Yr economi sylfaenol yw’r rhan o’n heconomi sy’n creu a dosbarthu’r nwyddau a’r gwasanaethau yr ydym yn dibynnu arnynt ar gyfer bywyd bob dydd.
Mae enghreifftiau o’r economi sylfaenol yn cynnwys:
- gwasanaethau gofal ac iechyd
- bwyd
- tai
- ynni
- adeiladu
- twristiaeth
- manwerthwyr y stryd fawr
Yr economi sylfaenol ar gyfer iechyd a gwasanaethau cymdeithasol
Mae rhaglen yr economi sylfaenol yn ystyried sut yr ydym yn gwario arian yng Nghymru a sut y gallwn wneud penderfyniadau gwell o ran sut i’w wario. Mae mwy na hanner cyllideb Llywodraeth Cymru yn cael ei wario ar iechyd a gwasanaethau cymdeithasol. Hoffem sicrhau ein bod yn gwario’r arian hwn mewn ffordd a fydd o fudd i’n pobl a’n heconomi.
Mae rhaglen yr economi sylfaenol yn canolbwyntio ar:
- y nwyddau neu’r gwasanaethau uniongyrchol a brynwn (e.e. bwyd i ysbytai)
- y gweithlu a gyflogwn yn uniongyrchol
- sut mae lleoliad a chydleoliad ein gwasanaethau yn effeithio ar gymunedau a sut y gallant gael mynediad at wasanaethau
Mae’n edrych ar sut a lle y gallwn gynhyrchu nwyddau a gwasanaethau a all helpu economi Cymru a chefnogi ein poblogaeth. Drwy wario ein cyllidebau yng Nghymru, byddwn yn cefnogi cwmnïau o Gymru sy’n darparu swyddi a hyfforddiant mewn cadwyn gyflenwi leol. Mae cadwyni cyflenwi lleol hefyd yn well i’n hamgylchedd ac yn fwy gwydn i newidiadau byd-eang.
Fel cyflogwr, hoffem sicrhau bod gan bobl leol gyfleoedd i hyfforddi a chael gwaith yn GIG Cymru a’r sector gofal cymdeithasol ar bob lefel. Bydd hyn o fudd i’n cymunedau ymhellach.
Wrth ystyried y gwerth y gall ein gwariant ei ychwanegu at gymunedau, gallwn hefyd effeithio ar leoliad gwasanaethau a sut y gellir lleoli gwasanaethau gwahanol gyda’i gilydd i’w gwneud yn fwy hygyrch.
Rydym yn gweithio gyda rhanddeiliaid a chyflenwyr i gyflawni uchelgais rhaglen yr economi sylfaenol i flaenoriaethu gwario ein cyllidebau yng Nghymru.