Mewn datganiad i’r Senedd ynghylch sbeicio y prynhawn yma, amlinellodd y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol, Jane Hutt ddyhead pendant Llywodraeth Cymru i newid y naratif ar drais yn erbyn menywod, a sicrhau bod y ffocws ar y troseddwyr a’r unigolion sy’n cyflawni’r troseddau ofnadwy hyn.
Dywedodd y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol, Jane Hutt:
I ddechrau, gadewch i mi ddweud yn glir nad oes cyfrifoldeb ar fenywod i newid eu hymddygiad, y rhai sy’n cam-drin ddylai newid eu hymddygiad eu hunain. Nid cyfrifoldeb menywod yw’r troseddau hyn. Mae’r cyfrifoldeb i gyd ar ysgwyddau’r dynion sy’n eu cyflawni.
Yn ail, i’r rhai sy’n adnabod y troseddwyr. Os ydych chi’n adnabod neu’n gweld person sy’n cyflawni’r troseddau hyn mae dyletswydd foesol arnoch chi i hysbysu’r awdurdodau cyn gynted ag y bo’n ddiogel gwneud hynny.
Mae dyletswydd arnom ni i gyd yn ein cymunedau i herio ymddygiad amhriodol a chynnig cymorth pan fo’n ddiogel gwneud hynny. Mae hyn yn cynnwys grymuso dynion i drafod gyda dynion a bechgyn eraill i herio ymddygiad rhywiaethol a cham-drin ymysg eu ffrindiau, eu cydweithwyr a chymunedau i hyrwyddo diwylliant o gydraddoldeb a pharch.
Aeth y Gweinidog ymlaen i ddweud:
Rydyn ni’n deall pryderon gwirioneddol menywod a merched ifanc am eu diogelwch, yn arbennig mewn lleoliadau gyda’r nos. Dyna pam rydyn ni’n cryfhau ein Strategaeth Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (VAWDASV) i gynnwys trais ac aflonyddu yn erbyn menywod ar y stryd ac yn y gweithle yn ogystal â’r cartref.
Yn ei hanfod, mae’r strategaeth ddiwygiedig yn cydnabod bod trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol yn broblem gymdeithasol sydd angen ymateb cymdeithasol. Er mwyn mynd i’r afael â thrais gan ddynion, anghydraddoldeb rhwng y rhywiau a chasineb at fenywod, mae angen gweithredu ar ddau ben y sbectrwm; rhaid i ni gefnogi’r goroeswyr a dwyn y troseddwyr i gyfrif ond rhaid i ni hefyd sicrhau newid gwirioneddol mewn ymddygiad. Dyna sut fyddwn ni’n herio’r agweddau negyddol llechwraidd tuag at fenywod sy’n gallu arwain at weithredoedd fel sbeicio.
Drwy gydweithio fel cymuned, a sicrhau ein bod yn atal troseddwyr rhag cyflawni’r gweithredoedd ofnadwy hyn, gallwn weithio gyda’n gilydd i sicrhau mai Cymru yw’r man mwyaf diogel yn Ewrop i fenywod.