Rebecca Evans, y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol
Mae'r Concordat ar Ystadegau yn nodi'r fframwaith y cytunwyd arno ar gyfer cydweithredu, cydweithio a sicrhau consensws mewn perthynas â llunio ystadegau, safonau ystadegol a'r proffesiwn ystadegau.
Heddiw, rydym yn cyhoeddi Concordat wedi’i ddiweddaru y cytunwyd arno rhwng Llywodraeth Cymru, Llywodraeth y DU (gan gynnwys Awdurdod Ystadegau'r Deyrnas Unedig a'r Swyddfa Ystadegau Gwladol) a llywodraethau'r Alban a Gogledd Iwerddon.
Bydd Llywodraeth Cymru yn parhau i weithio'n gadarnhaol gyda chydweithwyr ar draws y llywodraethau i gefnogi system ystadegol y DU, ochr yn ochr â bodloni anghenion lleol ar gyfer ystadegau yng Nghymru. Rydym wedi ymrwymo i'r budd cyffredin o hybu uniondeb ac annibyniaeth ystadegau swyddogol a glynu'n barhaus at safonau proffesiynol.