Rebecca Evans AS, y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol
Heddiw, cyhoeddais Diweddariad ar y Fframwaith Polisi Trethi Llywodraeth Cymru a’n Cynllun Gwaith Polisi Trethi 2021-2026. Gyda’i gilydd, mae’r ddwy ddogfen hyn yn amlinellu ein blaenoriaethau strategol ar gyfer datblygu polisi trethi yn ystod tymor y Senedd hon, a sut y byddwn yn gweithio gyda’n partneriaid i’w cyflawni.
Cefnogwyd ein Fframwaith Polisi Trethi cyntaf (2017) yn eang. Mae’n amlinellu’r fframwaith cyfreithiol sy’n sail i’n pwerau trethu datganoledig ynghyd ag egwyddorion treth Llywodraeth Cymru.
Mae ein Diweddariad ar y Fframwaith Polisi Trethi (2021) yn cydnabod y cynnydd a wnaed gennym wrth ddatblygu polisi trethi yng Nghymru ers cyflwyno Deddf Cymru 2014 ac mae’n ceisio adeiladu ar hyn. Yn y Diweddariad ar y Fframwaith Polisi Trethi rydym yn achub ar y cyfle i leoli ac integreiddio polisi trethi yng nghyd-destun polisi strategol cenedlaethol ehangach Llywodraeth Cymru. Yn ogystal â hyn, rydym yn amlinellu ‘ein dull o ymdrin â threthi’, sef y ffordd benodol yr ydym ni yng Nghymru yn datblygu a chyflawni polisi trethi gyda’n partneriaid.
Mae ein dull o ymdrin â threthi yn adlewyrchu ein hymrwymiad i barhau i gydweithio i gyd-greu a chyd-gyflawni ein hamcanion o ran polisi trethi. Mae’n egluro sut y byddwn yn sicrhau ein bod yn parhau i ymgorffori ystyriaethau o ran cynaliadwyedd, tegwch a chydraddoldeb yn y ffordd yr ydym ni’n ysgwyddo a chyflawni ein blaenoriaethau.
Mae’r Cynllun Gwaith Polisi Trethi yn ymestyn dros dymor y Senedd hon. Mae hyn yn unol â’n hymrwymiad i fod yn dryloyw ac ymgysylltu. Mae amlinellu ein blaenoriaethau o ran polisi trethi yn fodd o roi gwybodaeth i randdeiliaid a sicrhau eu bod yn gallu gweithio gyda ni wrth ddatblygu a chyflawni blaenoriaethau o ran polisi trethi Llywodraeth Cymru, gan adeiladu ar yr ymrwymiadau sydd wedi’u hamlinellu yn y Rhaglen Lywodraethu.
Byddaf yn adrodd ar gynnydd yn erbyn y cynllun gwaith yn flynyddol drwy’r Adroddiad ar Bolisi Trethi a gyhoeddir law yn llaw â’r Gyllideb Ddrafft.