Neidio i'r prif gynnwy

Y Gwir Anrh Mark Drakeford AS, y Prif Weinidog

Cyhoeddwyd gyntaf:
28 Hydref 2021
Diweddarwyd ddiwethaf:

Ar 18 Hydref, gan gynrychioli Llywodraeth Cymru, aeth y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol a minnau i gyfarfod rhynglywodraethol rhwng y pedair gwlad o dan gadeiryddiaeth Prif Weinidog Llywodraeth y DU. Roedd y cyfarfod hwn yn gyfle i drafod yr heriau cyffredin sy’n eu hwynebu yn sgil COVID yng nghyd-destun pwysau ehangach y gaeaf, a Chynhadledd y Cenhedloedd Unedig ar Newid Hinsawdd (COP26) yn Glasgow.

Cyhoeddwyd datganiad yn dilyn y cyfarfod: https://www.gov.uk/government/publications/prime-minister-led-engagement-with-the-devolved-administrations

Ar ddechrau’r cyfarfod, siaradodd Prif Weinidog y DU am farwolaeth drasig Syr David Amess. Ailadroddais innau y teimladau a fynegwyd gan y Prif Weinidog ac yn ystod y cyfarfod cafwyd munud o dawelwch.

Yn ystod yr eitem ar yr agenda ar heriau COVID cyffredin, soniais am yr effeithiau economaidd parhaus a’r goblygiadau yn deillio o brinder yn y gadwyn gyflenwi, a soniais am yr effeithiau ar sectorau yng Nghymru, gan gynnwys y diwydiant dur. Tynnais sylw hefyd at brinder llafur yn y sector gofal cymdeithasol, a gofynnais i weithwyr gofal cymdeithasol gael eu rhoi hefyd ar y rhestr o alwedigaethau lle ceir prinder er mwyn helpu i fynd i'r afael ag anawsterau recriwtio, gan nodi, yn y tymor hir, y bydd angen i’r llywodraethau gydweithio ar recriwtio a chadw staff yn y Gwasanaeth Iechyd Gwladol ac ym maes gofal cymdeithasol. Galwais am gydweithio parhaus fel pedair gwlad ar frechlynnau a phrofion, a dywedais fod mesurau gwyliadwriaeth ar gyfer teithwyr sy'n dychwelyd yn parhau i fod yn hanfodol i ddiogelu Cymru.

Pwysais ar y Prif Weinidog am sicrwydd y byddai’r archwiliad cyhoeddus i COVID ar gyfer y DU gyfan yn ymchwilio i gamau gweithredu Llywodraeth Cymru a phrofiadau pobl o Gymru. Fel ymateb, cadarnhaodd y Prif Weinidog y byddai gan yr ymchwiliad ddimensiwn gwirioneddol Gymreig a siaradodd am bwysigrwydd yr ymchwiliad i’r DU gyfan. Fel yr wyf wedi dweud yn gwbl glir eisoes, rhaid i'r ymchwiliad ystyried y camau a gymerwyd yng Nghymru ac ymchwilio’n briodol i gynnig yr atebion y mae hawl gan deuluoedd iddynt ynghylch y ffordd y cafodd penderfyniadau eu gwneud ar eu rhan.

Mewn perthynas â’r eitem ar COP26, yng nghyd-destun hinsawdd sy'n newid, galwais ar Lywodraeth y DU, drwy ei Hadolygiad Cynhwysfawr o Wariant a gyhoeddir yn fuan, i ddarparu cyllid ychwanegol i fynd i’r afael â gwaddol y tomenni glo o’r cyfnod cyn datganoli. Gofynnais iddynt sicrhau bod y tomenni hynny yn ddiogel wrth inni wynebu tywydd gynyddol eithafol o ganlyniad i newid hinsawdd. Mae hwn bellach yn fater tyngedfennol. Mae gan y tomenni glo hanes trasig ac mae’r bygythiad – sy’n cynyddu yn sgil newid hinsawdd – yn un gwirioneddol i bobl a chymunedau ar draws Cymru. Diolch i ymdrechion y cymunedau hyn, crëwyd cyfoeth a daethpwyd â budd economaidd anhygoel i'r DU dros y canrifoedd a aeth heibio – mae hawl ganddynt ddisgwyl cyllid hirdymor gan y DU i fynd i’r afael â'r safleoedd hyn.