Rebecca Evans AS, Y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol
Heddiw, mae Canghellor y Trysorlys wedi cyhoeddi canlyniad Adolygiad o Wariant Llywodraeth y DU ochr yn ochr â Chyllideb yr Hydref.
Yn ei ddatganiad, amlinellodd y Canghellor gynlluniau gwario Llywodraeth y DU ar gyfer y tair blynedd nesaf hyd ddiwedd 2024-25. Mae’r Adolygiad o Wariant yn digwydd ar adeg dyngedfennol, ar drothwy Uwchgynhadledd COP26 ac mewn hinsawdd economaidd heriol a chyfnod nas gwelwyd ei debyg. Daw hyn wrth inni barhau i ddelio â goblygiadau ymadael â’r Undeb Ewropeaidd a rheoli effeithiau parhaus Covid-19, ac wrth i deuluoedd a busnesau yng Nghymru wynebu cynnydd mewn prisiau a chostau byw.
Mae'r Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol (OBR) bellach yn fwy optimistaidd am y rhagolygon economaidd nag oedd hi adeg y Gyllideb ym mis Mawrth. Disgwylir i allbwn neu GDP gynyddu 6.5% eleni yn hytrach na 4.0%. Mae’r Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol o'r farn y caiff llai o niwed parhaol neu andwyol ei wneud i'r economi o ganlyniad i'r pandemig nag y disgwylid yn wreiddiol. Er hynny, mae'r niwed tebygol, sef 2.0% o GDP yn ôl yr amcangyfrif, yn sylweddol ac mae bron yn sicr mai’r rhai lleiaf cefnog mewn cymdeithas yn bennaf fydd yn ysgwyddo'r baich.
Pan fydd cam a naid y twf yn sgil y pandemig y tu ôl i ni, mae'r rhagolygon ar gyfer yr economi a safonau byw yn eithaf tila. Disgwylir i’r twf mewn cynhyrchiant fod yn 1.2% yn unig ar gyfartaledd dros y pum mlynedd nesaf. Y flwyddyn nesaf, disgwylir i incwm aelwydydd gynyddu 0.3% yn unig ar ôl cymryd chwyddiant i ystyriaeth. Dros y pum mlynedd nesaf, disgwylir i’r twf gwirioneddol yn incwm aelwydydd fod tua 1.0% ar gyfartaledd, unwaith eto'n llawer is na'r duedd hirdymor o fwy na 2.0%. Nid yw Cyllideb y Canghellor wedi darparu digon o gymorth i liniaru’r effaith ar deuluoedd yng Nghymru.
Cadarnhaodd y Canghellor gyllid refeniw ychwanegol o £314m a chyllid cyfalaf o £111m ar gyfer cyllideb Llywodraeth Cymru, i’w ddefnyddio ym mhum mis olaf y flwyddyn ariannol hon, ond gwrthododd adfer y Warant Covid gan ein hamddifadu o sicrwydd ynghylch ein sefyllfa ariannu.
Gan edrych i'r dyfodol, mae cyllid adnoddau Llywodraeth Cymru yn is mewn termau arian parod ym mhob un o flynyddoedd cyfnod yr Adolygiad o Wariant nag yn y flwyddyn bresennol. Mae hynny i’w briodoli, yn rhannol, i lefelau uchel o gyllid Covid eleni, ond mae'r cynnydd ar ôl 2022-23 hefyd yn fach iawn. Rhwng 2022-23 a 2024-25 mae cyllid adnoddau Llywodraeth Cymru yn cynyddu llai na hanner y cant mewn termau real. Mae’r cyllid cyfalaf cyffredinol yn gostwng mewn termau arian parod ym mhob un o flynyddoedd cyfnod yr Adolygiad o Wariant ac mae 11 y cant yn is yn 2024-25 nag yn y flwyddyn bresennol. Bydd cyllideb Llywodraeth Cymru yn 2024-25 bron £3bn yn is na phe bai wedi cynyddu yn unol â'r economi ers 2010-11.
Nid yw'r cynnydd bach yn y cyllid y mae Llywodraeth y DU yn ei ddarparu yn bodloni maint yr her yr ydym yn ei hwynebu i fynd i'r afael â'r argyfwng mewn costau byw sydd ar y gorwel ac i fuddsoddi mewn adferiad ar gyfer gwasanaethau cyhoeddus, cymunedau a theuluoedd yng Nghymru. Er i'r Canghellor sôn am ‘gyfnod o optimistiaeth’, mae’r cyllid hanfodol ar gyfer y blaenoriaethau yr oedd Llywodraeth Cymru wedi nodi eu bod yn allweddol i Gymru, ac a oedd yn rhoi sylw i’r argyfwng hinsawdd, wedi’i fwrw o’r neilltu. Roedd angen i'r Gyllideb hon fanylu ynghylch sut y bydd cynlluniau gwario cyhoeddus Llywodraeth y DU yn helpu i fynd i'r afael â’r argyfyngau hinsawdd a natur. Testun siom, ar drothwy COP26, yw bod y Canghellor yn hytrach wedi dewis torri trethi ar danwydd ffosil a’i fod wedi methu â chefnogi trydaneiddio rheilffyrdd Cymru na darparu'r cynllun y mae mawr ei angen i helpu'r diwydiant dur i gyflawni ei gyfran o dargedau sero-net.
Does dim cyfiawnhad dros amharodrwydd Llywodraeth y DU i weithio gyda ni a darparu cyllid i gefnogi’r gwaith hirdymor o adfer ac addasu tomenni glo yng Nghymru. Un o effeithiau hirdymor gorffennol diwydiannol y DU yw’r tomenni hyn. Pan gytunwyd ar drefniadau cyllido Cymru yn 1999, nid oedd yr angen i weithio i ddelio â’r effaith hon yn sgil newid yn yr hinsawdd yn hysbys ac ni wnaed darpariaeth ar ei chyfer. Roedd gan Lywodraeth y DU gyfle i ddangos ei bod yn cefnogi’r cymunedau hynny y gwnaeth eu hymdrechion greu cyfoeth helaeth i’r DU. Yn hytrach, mae wedi dewis troi ei chefn arnyn nhw.
Mae’r Canghellor yn rhoi â’r naill law ac yn cymryd ymaith â’r llall. Er iddo gyhoeddi cymorth ar gyfer hyfforddiant a sgiliau, mae’r Adolygiad o Wariant yn cadarnhau bod Cymru yn colli
£375m o gyllid rhanbarthol blynyddol sy’n hanfodol i gefnogi prentisiaethau, sgiliau a busnesau. Mae cyhoeddiad y Canghellor o £120m drwy’r Cronfeydd Codi’r Gwastad yn cyfateb i 7% yn unig o gyfanswm y cyllid, o'i gymharu â’r 24% o gyllid cymwys o gronfeydd Strwythurol yr UE yr oedd Cymru'n arfer ei gael. Mae’n llawer llai na’r cyllid disodli llawn a addawyd i ni er mwyn mynd i’r afael ag anghydraddoldeb. Bydd ffermwyr a chymunedau gwledig Cymru yn colli £106m o leiaf o ran y cyllid a roddir yn lle cyllid yr UE dros gyfnod yr Adolygiad o Wariant, a hynny ar ben y £137m na ddarparodd Llywodraeth y DU ar ei gyfer y flwyddyn ariannol hon.
Rydym yn parhau i lwyr wrthwynebu’r defnydd gormesol o’r pwerau cymorth ariannol yn Neddf Marchnad Fewnol y DU i gyflwyno cyllid mewn meysydd sydd wedi’u datganoli. Hanfod datganoli yw bod penderfyniadau’n cael eu gwneud gan y rhai a etholwyd gan bobl yng Nghymru, yn agos at y cymunedau y maen nhw’n eu gwasanaethu sy’n deall eu hanghenion a’u hamgylchiadau orau ac sy’n atebol i’r Senedd am eu penderfyniadau. Mae’n hynod o siomedig bod Llywodraeth y DU wedi penderfynu bwrw ymlaen doed a ddelo â’r polisïau cynhennus ac aneffeithlon hyn.
Mae’r penderfyniad i godi’r cyfyngiadau ar gyflogau yn y sector cyhoeddus yn rhoi rhyw gymaint o gymorth i’n gweithwyr yn y sector cyhoeddus wedi wynebu heriau anferth yn y 19 mis diwethaf ac wedi gweithio’n eithriadol o galed i gynnal gwasanaethau hanfodol. Fodd bynnag, pan ystyrir y toriad i Gredyd Cynhwysol, effaith chwyddiant a'r cyfraniadau Yswiriant Gwladol uwch, ni fydd llawer o weithwyr y sector cyhoeddus yn well eu byd, ac mewn termau real maent gryn dipyn yn dlotach nag yr oedden nhw ddegawd yn ôl. Byddwn yn mynd ati gyda llywodraeth leol ac undebau llafur yng Nghymru i weithio tuag at ein hymrwymiad hirsefydlog i wella tegwch trefniadau cyflogau.
Mae disgwyl i HS2 gael effaith negyddol o £150m y flwyddyn ar economi Cymru. Er mwyn gallu cyflawni sero-net, mae angen inni symud yn gyflym i drydaneiddio'r rheilffordd yn llawn i Abertawe a thrydaneiddio prif linell reilffordd y Gogledd, er mwyn sicrhau y gallwn gyrraedd y targedau uchelgeisiol yr ydym ni a Llywodraeth y DU wedi ymrwymo iddynt. Mae diffyg unrhyw brosiectau mawr newydd a ariennir gan Lywodraeth y DU yn yr Adolygiad o Wariant, ynghyd â'r setliad tynn iawn sydd gan Lywodraeth Cymru dros y blynyddoedd nesaf o ran ei chyllideb gyfalaf, yn atgyfnerthu'r neges nad yw'r cyhoeddiad heddiw yn cyfateb i faint yr her sydd o'n blaenau – i gyrraedd sero-net ac adeiladu’r economi ar ôl Covid.
Rydym ni fel Llywodraeth Cymru yn parhau i ganolbwyntio ar gyflwyno ein cynlluniau ar gyfer adferiad drwy fuddsoddi, yn seiliedig ar anghenion pobl Cymru. Byddwn yn cyhoeddi Cyllideb Llywodraeth Cymru ar 20 Rhagfyr, gan geisio darparu’r setliad tecaf posibl i wasanaethau cyhoeddus Cymru er mwyn sicrhau Cymru fwy llewyrchus, gwyrdd a chyfiawn.
Bydd darparu gwasanaethau cyhoeddus yn dal yn un o'r blaenoriaethau allweddol yn ein cyllideb arfaethedig. Mae’r ddogfen Gwella Iechyd a Gofal Cymdeithasol yng Nghymru: (COVID-19: Edrych tua’r Dyfodol) yn crynhoi’r dull system gyfan yr ydym yn ei fabwysiadu ar gyfer Iechyd a Gofal Cymdeithasol i ddangos cyfeiriad clir ar gyfer ailadeiladu gwasanaethau allweddol.
Byddwn yn parhau i roi ein Rhaglen Lywodraethu ar waith i fynd i'r afael ag effaith y pandemig ar blant a phobl ifanc, adeiladu 20,000 o gartrefi carbon isel i'w rhentu'n gymdeithasol, a darparu'r Warant Ieuenctid. Byddwn hefyd yn cyhoeddi ein Strategaeth Seilwaith a Buddsoddi newydd i Gymru, sy'n cynnwys ymyriadau i gyflawni sero-net.
Caiff y datganiad ei gyhoeddi yn ystod y toriad er mwyn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i aelodau. Os bydd aelodau eisiau i mi wneud datganiad pellach neu ateb cwestiynau ynglŷn â hyn pan fydd y Senedd yn dychwelyd, byddwn yn hapus i wneud hynny.