Mae Rebecca Evans, y Gweinidog Cyllid, wedi dweud bod Adolygiad o Wariant a Chyllideb yr Hydref Llywodraeth y DU yn cynnwys "bylchau amlwg yn y cyllid" lle nad yw San Steffan wedi buddsoddi yng Nghymru.
Yn yr Adolygiad o Wariant a gyhoeddwyd gan y Canghellor ddydd Mercher, nid oedd unrhyw fuddsoddiad newydd ar gyfer cynnal gwaith adfer ar safleoedd tomenni glo na chyllid ychwanegol sylweddol i gefnogi’r seilwaith rheilffyrdd yng Nghymru – blaenoriaethau y tynnwyd sylw atynt fel rhai hollbwysig gan Lywodraeth Cymru yn y misoedd cyn y gyllideb.
Pwysleisiodd Llywodraeth Cymru ei bod hithau yn canolbwyntio yn awr ar gyflwyno Cyllideb Llywodraeth Cymru ym mis Rhagfyr sy'n adeiladu Cymru gryfach, wyrddach a thecach.
Mae Adolygiad o Wariant Llywodraeth y DU yn nodi ei chynlluniau gwariant tan 2024/25. Ar 20 Rhagfyr, bydd Llywodraeth Cymru yn cyhoeddi ei Chyllideb ei hun gan amlinellu ei chynlluniau gwariant hithau dros y cyfnod hwnnw.
Dywedodd Rebecca Evans, Gweinidog Cyllid Llywodraeth Cymru:
"Nid yw'r Adolygiad o Wariant hwn gan Lywodraeth y DU wedi cyflawni dros Gymru. Mae blaenoriaethau cyllid hanfodol – fel adfer safleoedd tomenni glo yn y tymor hir a mwy o gyllid ar gyfer y seilwaith rheilffyrdd – wedi cael eu hanwybyddu’n llwyr.
"Mae’r Adolygiad o Wariant yn rhoi rhywfaint o sicrwydd ariannol inni yn y tymor canolig ac ychydig o fuddsoddiad ychwanegol, ond mae hyn yn cael ei wrthbwyso’n llwyr gan y pwysau rydyn ni’n ei wynebu yn y system ac yn sgil chwyddiant. Nid yw’r Gyllideb yn llwyddo i gwrdd â maint yr her sy’n wynebu teuluoedd, gwasanaethau cyhoeddus a’r economi yn ehangach o ganlyniad i’r pandemig.
“Mae bylchau amlwg yn y cyllid lle y dylai Llywodraeth y DU fod yn buddsoddi yng Nghymru ond y mae wedi dewis peidio â gwneud hynny – mae hynny’n ffaith. Nid yw’r trefniadau ar gyfer disodli Cronfeydd Strwythurol yr UE yn glir o hyd. Ond rydyn ni yn gwybod bod y trefniadau hynny ymhell o fodloni’r £375m y flwyddyn roedden ni yn ei dderbyn – dyma’r cronfeydd sy’n cefnogi sgiliau, busnesau a datgarboneiddio. Mae disgwyl i brosiect rheilffyrdd HS2 gael effaith negatif o £150m y flwyddyn ar economi Cymru, a gallai’r diffyg cymorth i ddod o hyd i ateb hirdymor ar gyfer tomenni glo Cymru arwain at bwysau ariannol ychwanegol o £60m y flwyddyn o leiaf.
"Nid yw'r mesurau cyfyngedig a gyhoeddwyd gan y Canghellor i helpu cartrefi sy'n mynd i’r afael â'r cynnydd mewn costau byw yn mynd yn ddigon pell o gwbl. Dylid cymryd camau pellach i dargedu cymorth ar gyfer teuluoedd incwm isel sy'n ei chael hi’n anodd cael dau ben llinyn ynghyd o ganlyniad i’r toriad i Gredyd Cynhwysol, y cynnydd mewn cyfraniadau Yswiriant Gwladol yn y dyfodol, a phrisiau ynni sy’n cynyddu’n gyflym.
"Er nad oes amheuaeth bod dewisiadau anodd o’n blaenau, rwy'n benderfynol o ddarparu Cyllideb sy'n adeiladu Cymru gryfach, wyrddach a thecach i bawb – gan helpu gwasanaethau cyhoeddus a'n heconomi i adfer o'r pandemig, a dod â ni’n agosach at fod yn genedl ddi-garbon."
Yn y cyfnod yn arwain at yr Adolygiad o Wariant, roedd Llywodraeth Cymru wedi dadlau'n gryf dros fuddsoddiad gan Lywodraeth y DU i ddiogelu tomenni glo er mwyn mynd i'r afael ag effeithiau newid yn yr hinsawdd a chefnogi gwaith adfer mewn cymunedau glofaol.
Cyn yr Uwchgynhadledd ar Ddiogelwch Tomenni Glo a gynhaliwyd ddoe, pwysleisiodd Prif Weinidog Cymru nad yw setliad cyllid Cymru yn cydnabod y costau sylweddol, hirdymor sy'n gysylltiedig â mater sy’n deillio yn ôl i’r cyfnod cyn datganoli.
Dywedodd y Gweinidog Cyllid:
"Drwy gydol y broses hon, rydyn ni wedi bod yn gwbl glir bod angen pecyn o fuddsoddiad ar gyfer cynnal gwaith adfer ar safleoedd tomenni glo. Nid ydym wedi cael y cyllid hwn. Rwyf wedi fy siomi’n fawr fod Llywodraeth y DU wedi troi ei chefn ar gymunedau y gwnaeth eu hymdrechion greu cyfoeth aruthrol i'r DU ac sy'n haeddu cymaint gwell gan Lywodraeth y DU."