Gwybodaeth reoli a ddarperir gan ysgolion yng Nghymru ar ddisgyblion sy'n bresennol mewn ysgolion a gynhelir o 6 Medi i 10 Rhagfyr 2021.
Nid y datganiad diweddaraf yn y gyfres: Presenoldeb disgyblion mewn ysgolion a gynhelir
Mae'r pennawd hwn yn cyflwyno gwybodaeth am ddisgyblion sy'n bresennol mewn ysgolion yn ystod y pandemig coronafirws (COVID-19) cyfredol.
Roedd y wybodaeth a gyhoeddwyd ar gyfer blwyddyn academaidd 2020/21 yn ymwneud â disgyblion a oedd yn bresennol yn gorfforol ar dir yr ysgol am o leiaf un sesiwn ysgol bob dydd. Caniataodd hyn inni fesur nifer y disgyblion a oedd â chysylltiad uniongyrchol â staff a disgyblion eraill yn yr ysgol yn ystod y pandemig hwn.
Ar gyfer y flwyddyn academaidd gyfredol 2021/22 hon, ac yn dilyn penderfyniadau polisi ar swigod ysgolion a hunan ynysu rydym wedi dychwelyd at y diffiniad o ddisgyblion sy'n mynychu ysgolion a ddefnyddir yn ein cyhoeddiadau ystadegol hanesyddol. Mae hyn yn golygu nad oes modd cymharu'r data ar gyfer y flwyddyn academaidd hon a'r un ddiwethaf yn llwyr.
Mae dadansoddiad o'r data ar gyfer wythnosau cyntaf tymor yr hydref yn awgrymu bod y mesur presenoldeb newydd cyfredol oddeutu 0.6 pwynt canran yn uwch na'r mesur ar gyfer disgyblion a oedd yn bresennol a ddefnyddiwyd yn ystod y flwyddyn academaidd flaenorol.
Mesur absenoldeb cysylltiedig â COVID-19
Rydym wedi gwella'r ffordd yr ydym yn mesur absenoldeb cysylltiedig â COVID-19 mewn ysgolion a dangosir y data newydd hwn ar gyfer 22 Tachwedd ymlaen. Bellach mae absenoldeb cysylltiedig â COVID-19 yn cael ei gofnodi o dan un cod newydd (cod “]”) ac fe'i diffinnir fel swm o:
- Disgyblion sy'n absennol o'r ysgol oherwydd eu bod yn sâl gyda COVID-19 (yn hanesyddol cofnodwyd hyn yng nghod “I”).
- Disgyblion sy'n dysgu o bell oherwydd COVID-19 (cod “[“).
- Disgyblion y cyfarwyddir iddynt fod yn absennol gan yr ysgol (cod “Y”).
Nid oes modd cymharu'r data a gyhoeddwyd gennym o'r blaen ar absenoldeb cysylltiedig â COVID-19 â'r data newydd hwn oherwydd nid oedd yn cynnwys y rhai a oedd yn sâl â COVID-19 ac felly maent wedi'u tynnu o'r datganiad hwn.
Mae'r codau cofrestr sy'n diffinio pa ddisgyblion sy'n cael eu cyfrif fel presenoldeb yn y Tabl 8 o'r daenlen sy'n cyd-fynd ag ef. Bellach mae holl absenoldeb cysylltiedig COVID-19 yn cael ei gofnodi o dan un cod (“]”) ac ni chesglir unrhyw ddata ar wahân am unrhyw un o'r tri rheswm dros absenoldeb sy'n ffurfio absenoldeb cysylltiedig â COVID-19.
Digwyddedd COVID-19 mewn plant oed ysgol
Mae effaith sylweddol ar dueddiadau presenoldeb gan nifer yr achosion COVID-19 a gadarnhawyd ymhlith plant oed ysgol. Mae'r data diweddaraf gan Iechyd Cyhoeddus Cymru yn dangos bod achosion yn cynyddu mwy yn y grŵp oedran hwn nag unrhyw grŵp oedran arall.
Cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ar 15 Medi 2021 y byddai GIG Cymru yn dechrau cynnig y brechlyn COVID-19 i bobl ifanc rhwng 12 a 15 oed o 4 Hydref 2021. Gall cyflwyno'r rhaglen frechu hon hefyd effeithio ar y ffigurau yn y datganiad hwn.
Prif bwyntiau
- Roedd cyfartaledd o 86.0% o ddisgyblion yn bresennol yn yr ysgol dros y wythnos 6 Rhagfyr i 10 Rhagfyr 2021, dim newid o’r wythnos flaenorol. Mae’r ffigwr dros yr wythnos 29 Tachwedd i 3 Rhagfyr wedi’i ddiwygio i lawr o 86.2%. Mae'r data dros dro ar gyfer y pythefnos diwethaf.
- Roedd 3.6% o ddisgyblon yn absennol oherwydd rheswm hysbys cysylltiedig â COVID-19 dros y wythnos 6 Rhagfyr i 10 Rhagfyr 2021. Amcangyfrif newydd yw hwn sy'n cynnwys disgyblion sy'n sâl â COVID-19 ac nad yw'n gymharol i unrhyw ddata a gyhoeddwyd gennym o'r blaen ar absenoldeb cysylltiedig â COVID-19.
- Roedd cyfartaledd o 3.6% o ddisgyblon oedran cynradd a 3.6% o ddisgyblion oedran uwchradd yn absennol oherwydd rheswm hysbys cysylltiedig â COVID-19 rhwng 6 Rhagfyr a 10 Rhagfyr 2021.
- Dros yr wythnos 6 Rhagfyr i 10 Rhagfyr 2021 nid oedd llawer o wahaniaeth rhwng canran y merched a'r bechgyn a oedd yn bresennol yn yr ysgol. Mae hyn yn wahanol o gymharu â'r patrwm a welir yn ein cyhoeddiadau hanesyddol, lle mae bechgyn wedi cael cyfraddau presenoldeb is.
- Ymhlith disgyblion oedran ysgol statudol dros yr wythnos 6 Rhagfyr i 10 Rhagfyr 2021, roedd canran y disgyblion a oedd yn bresennol ar eu huchaf ar gyfer disgyblion ym Mlwyddyn 4 (88.1%) ac yn isaf ar gyfer Blynyddoedd 9 (84.0%).
- Y rheswm mwyaf cyffredin dros sesiynau a gollwyd yn ystod yr wythnos rhwng 6 Rhagfyr i 10 Rhagfyr 2021 oedd salwch (cod “I”), gyda 5.6% o sesiynau wedi’u colli oherwydd y rheswm hwn. Mae'r data yn y tabl hwn yn gyfrif o sesiynau ysgol hanner diwrnod a gollwyd ac nid yw'n gyfrif o ddisgyblion.
Ansawdd
Mae adroddiad ansawdd yn cael ei ddatblygu a bydd yn cael ei gyhoeddi cyn gynted â phosibl.
Mae'r data hwn yn wybodaeth reoli a dynnir o systemau gwybodaeth rheoli ysgolion unwaith yr wythnos. Mae'n cynnwys disgyblion a oedd yn bresennol mewn ysgolion meithrin, cynradd, canol, uwchradd ac arbennig a gynhelir ac mae'n cynnwys disgyblion o bob oed. Mae hefyd yn cynnwys rhai disgyblion o Unedau Cyfeirio Disgyblion.
Nid yw'r data hwn wedi cael yr un lefel o sicrwydd ansawdd ag ystadegau swyddogol a gall y data gael ei ddiwygio yn y dyfodol. Dylai'r ffigurau ar gyfer y pythefnos diweddaraf gael eu trin fel rhai dros dro. Mae'r ffigurau cynharach yn derfynol ac ni allant newid.
Cymharoldeb
Mae'r 4 gwlad yn cyhoeddi data rheolaidd ar bresenoldeb yn yr ysgol. Nid ydym yn cynghori gwneud cymariaethau rhwng y cenhedloedd oherwydd gwahaniaethau mewn dulliau casglu data a chyflwyniad a diffiniadau.
Cefndir a chyd-destun
Canllawiau coronafeirws i ysgolion.
Statws Ystadegau Gwladol
Nid yw’r ystadegau hyn yn Ystadegau Gwladol. Cynhyrchwyd yr ystadegau hyn yn gyflym mewn ymateb i ddatblygiadau cenedlaethol a lleol.
Amserlen gyhoeddi dros gyfnod y Nadolig 2021
Cyhoeddir rhifyn olaf y gyfres hon ar gyfer 2021 ar 22 Rhagfyr a bydd yn cynnwys data hyd at ddiwedd tymor ysgol yr Hydref 2021.
Cyhoeddir rhifyn nesaf y gyfres hon ar 12 Ionawr 2022 a bydd yn cynnwys data ar gyfer wythnos gyntaf tymor ysgol newydd y Gwanwyn.
Ni fydd unrhyw gyhoeddiad yn y gyfres hon dros wyliau ysgol y Nadolig.
Data
Setiau data ac adnoddau rhyngweithiol
Presenoldeb disgyblion mewn ysgolion a gynhelir: 6 Medi i 10 Rhagfyr 2021 , math o ffeil: ODS, maint ffeil: 60 KB
Cyswllt
Llinell Ymholiadau Cyffredinol
Rhif ffôn: 0300 025 5050
E-bost: ystadegau.ysgolion@llyw.cymru
Rydym yn croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg.
Cyfryngau
Rhif ffôn: 0300 025 8099
Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.