Polisi Awdurdod Cyllid Cymru ar gyfer cyhoeddi ystadegau swyddogol
Polisïau a gweithdrefnau sydd gennym ar waith ar gyfer cyhoeddi ystadegau swyddogol yn Awdurdod Cyllid Cymru.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
1. Uniondeb ein ystadegau swyddogol
Cydnabyddir ein hystadegau
Rydym yn enwi yng Ngorchymyn Ystadegau Swyddogol (Cymru) 2017 fel corff sy’n cynhyrchu ystadegau swyddogol yng Nghymru. Mae Deddf Ystadegau a Gwasanaethau Cofrestru 2007 yn diffinio ystadegau swyddogol.
Sut rydym yn ymgysylltu â system ystadegol y DU
Rydym yn cymryd rhan yn rhwydweithiau a phwyllgorau system Ystadegol y Deyrnas Unedig drwy'r Pennaeth Proffesiwn ar gyfer Ystadegau a Phrif Ystadegydd Llywodraeth Cymru.
Mae system ystadegol y DU yn ystyried yn gywirol Awdurdod Cyllid Cymru yn adran anweinidogol gyda gofynion defnyddwyr ar wahân sy’n wahanol i rai Llywodraeth Cymru.
Ein Cod Ymarfer
Rydym yn ddilyn y Cod Ymarfer Awdurdod Ystadegau'r Deyrnas Unedig ar gyfer Ystadegau.
Pwy sy'n gyfrifol am ein hystadegau
Mae ein Swyddog Arweiniol dros ystadegau yw ein Pennaeth Dadansoddi Data, Adam Al-Nuaimi.
Mae cyfrifoldebau'r Swyddog Arweiniol dros Ystadegau yn cael eu diffinio gan Awdurdod Ystadegau'r Deyrnas Unedig.
Mathau o gyhoeddiadau rydym yn eu rhyddhau
Datganiadau cyntaf
Dyma pan fyddwn yn rhyddhau ystadegau nad ydynt wedi bod yn gyhoeddus o'r blaen.
Dyma naill ai ein hadroddiadau chwarterol neu ein hadroddiadau blynyddol gyda setiau data, dadansoddiad a sylwebaeth. Rydym yn cyhoeddi'r rhain:
- dan ystadegau ac ymchwil ar LLYW.CYMRU
- ar wefan StatsCymru
Neu maent yn ddatganiadau dros dro, misol, data-yn-unig pan fyddwn yn cyhoeddi setiau data ar StatsCymru.
Bwletinau
Mae'r rhain yn rhoi dadansoddiad manwl o ddata sydd eisoes wedi'i gyhoeddi.
Mae ein datganiad ystadegol blynyddol ar gyfer Treth Trafodiadau Tir eisoes yn cynnwys dadansoddiad manwl. Dyma pam nad ydym wedi cynhyrchu na chyhoeddi unrhyw fwletinau hyd yn hyn.
Erthyglau
Pan nad yw ansawdd y data’n ddigon sylweddol eto ar gyfer ystadegau swyddogol, rydym yn defnyddio erthyglau er mwyn cyflwyno dadansoddiad.
Yn y fformat hwn, byddem yn aml yn cynnwys ystadegau swyddogol o dan ddatblygiad.
Er enghraifft, rydym wedi defnyddio erthyglau i egluro sut i ddefnyddio ein data cyhoeddedig ar gyfer ardaloedd lleol yng Nghymru.
Ceisiadau ad-hoc
Dyma pan fydd sefydliad allanol, anllywodraethol yn gofyn i ni gynhyrchu dadansoddiad nad yw ar gael ar hyn o bryd. Mae hefyd yn disgrifio pan fydd y llywodraeth yn gofyn am i ddadansoddiad gael ei wneud yn un cyhoeddus.
Rydym yn sicrhau bod y rhain ar gael yn rhad ac am ddim ac yn eu cyhoeddi o dan ystadegau ac ymchwil ar LLYW.CYMRU.
2. Arferion rhyddhau
2.1 Cyhoeddi ystadegau
Ymhle rydym yn cyhoeddi ein hystadegau
Rydym yn cyhoeddi ein datganiadau ystadegol o dan ystadegau ac ymchwil ar LLYW.CYMRU. Mae hyn yn unol â’r Cod Ymarfer ar gyfer Ystadegau.
Rydym yn rhestru ein cyhoeddiadau yn y dyfodol, ac mae hyn yn gweithredu fel ein cynllun gwaith ystadegau ar gyfer y dyfodol.
Nid ydym yn rhag-gyhoeddi ein hystadegau ar ‘hwb’ cyhoeddiadau Llywodraeth y DU.
Pa mor aml rydym yn cyhoeddi
Rydym yn cyhoeddi datganiadau ystadegol ar gyfer
- Treth Trafodiadau Tir: bob mis (data yn unig), bob chwarter ac yn flynyddol
- Treth Gwarediadau Tirlenwi: bob chwarter ac yn flynyddol
Pryd fyddwn yn cyhoeddi ein hystadegau
Rydym yn cyhoeddi dyddiad y datganiadau cyntaf, y bwletinau, a'r erthyglau ystadegol o leiaf 4 wythnos cyn cyhoeddi. Bydd hyn fel arfer 3 mis ymlaen llaw.
Rydym yn cyhoeddi ceisiadau ad hoc i'r Awdurdod Cyllid Cymru yn brydlon. Rydym yn gwneud hyn dim mwy na phythefnos ar ôl iddynt gael eu darparu. Mae’n gefnogi mynediad cyfartal i’r ein hystadegau.
Gellir gofyn am ystadegau gan Awdurdod Cyllid Cymru ar gyfer areithiau, cwestiynau’r Senedd, neu hysbysiadau i’r wasg. Ein nod yw cyhoeddi'r ystadegau hyn cyn iddynt gael eu defnyddio'n gyhoeddus neu'n fuan iawn wedi hynny.
2.2 Cynnwys
Mae ein Swyddog Arweiniol dros ystadegau yn penderfynu ar yr agweddau canlynol yr ein ystadegau swyddogol rheolaidd ac ad hoc:
- dulliau
- safonau a gweithdrefnau
- cynnwys ac amseriad
Mae hyn cynnwys ond heb eu cyfyngu iddynt:
- penderfynu ar yr angen am ystadegau swyddogol newydd
- rhoi’r gorau i ryddhau ystadegau swyddogol
- datblygu ystadegau swyddogol o dan ddatblygiad
2.3 Arferion cyhoeddi
Ymhle a phryd rydym yn cyhoeddi ein hystadegau
Rydym yn cyhoeddi ein datganiadau ystadegol yn rhad ac am ddim o dan ystadegau ac ymchwil ar LLYW.CYMRU 9.30y.b. ar y dyddiad a nodwyd. Maent ar gael yn Gymraeg ac yn Saesneg.
Sut rydym yn marcio’n hystadegau yn ddiogel?
Cyn i ni gyhoeddi ein hystadegau ar LLYW.CYMRU, rydym yn gwneud marc diogelwch ‘Swyddogol: Sensitif’. Mae hyn yn unol â Dosbarthiadau Diogelwch y Llywodraeth.
Pan fyddwn wedi cyhoeddi’n hystadegau, fe fyddan nhw yn lle hynny defnyddio’r Drwydded Llywodraeth Agored. Mae hyn yn golygu y gall pawb gael mynediad atynt, eu defnyddio neu eu rhannu heb unrhyw gyfyngiadau.
Ein dull o gyhoeddi data daearyddol
Rydym yn cyhoeddi ein hystadegau yn unol ag egwyddorion Polisi Daearyddiaeth Gwasanaeth Ystadegol y Llywodraeth (GSS). Mewn dadansoddiadau sydd wedi'i ddadansoddi yn ôl ardal, rydym yn cyhoeddi codau daearyddiaeth y GSS ochr yn ochr ag enwau'r ardaloedd a'r data perthnasol.
Sut rydym yn cyhoeddi data’n agored
Rydym yn cyhoeddi ein setiau data’n agored ar StatsCymru ac o dan ystadegau ac ymchwil ar LLYW.CYMRU. Mae hyn yn golygu y gall unrhyw un ddefnyddio, ailddefnyddio neu ddosbarthu ein data fel y mynnon.
Sut rydym yn sicrhau bod ein hystadegau yn hygyrch
Rydym yn cyhoeddi ein hadroddiadau ystadegol ysgrifenedig ar ffurf HTML o dan ystadegau ac ymchwil ar LLYW.CYMRU.
Rydym yn bwriadu sicrhau bod ein taenlenni cyhoeddedig yn cyd-fynd â’r canllawiau ar hygyrchedd ystadegau ar gyfer pobl anabl sy’n cael eu datblygu gan Wasanaeth Ystadegol y Llywodraeth.
Asesiad ein hystadegau fel ystadegau swyddogol achrededig
Mae ein hystadegau yn ystadegau swyddogol achrededig. Ym mis Chwefror 2022, fe wnaeth y Swyddfa Rheoleiddio Ystadegau adolygu ac achredu’r ystadegau hyn yn annibynnol fel rhai sy’n cydymffurfio â safonau dibynadwyedd, ansawdd a gwerth yn y Côd Ymarfer ar gyfer Ystadegau. Gelwir ystadegau swyddogol achrededig yn Ystadegau Gwladol yn Neddf Ystadegau a’r Gwasanaeth Cofrestru 2007.
Ein dull o sicrhau ansawdd ein hystadegau
Rydym yn disgrifio ansawdd ein hystadegau yn ein tudalennau gwybodaeth allweddol am ansawdd ar gyfer:
2.4 Talgrynnu, datgelu a goruchafiaeth
Newidyn | Lefel y talgrynnu (i’r agosaf) |
---|---|
Nifer y drafodiadau | 10 |
Treth sy’n ddyledus | £100,000 (£0.1 miliwn) |
Gwerth yr eiddo (cydnabyddiaeth) | £1 miliwn |
Pwysau | 1,000 tunnell |
Rydym yn defnyddio'r talgrynnu yma ym mhob un o’n cyhoeddiadau oni bai ein bod yn nodi fel arall.
Rydym yn defnyddio y dulliau canlynol yn ein datganiadau ystadegol:
- rheolau datgelu: pan fydd amcangyfrif yn seiliedig ar lai na bump o drafodiadau (nifer y trafodiadau’n sero neu yn talgrynnu i sero), rydym yn atal yr amcangyfrif
- rheolau goruchafiaeth: os nifer bach o drafodiadau sy’n cyfrannu at cyfran mawr y gell, rydym yn atal y gwerth
Mae'r dulliau hyn, a rheolaethau eraill, yn ein helpu i liniaru'r risg o ddatgelu gwybodaeth am drethdalwyr unigol yn ddamweiniol yn ein hystadegau cyhoeddedig.
2.5 Symbolau
Symbol | Diffiniad |
---|---|
r | Mae’r gwerth hwn wedi ei ddiwygio yn y cyhoeddiad hwn. |
p | Mae’r gwerth hwn dros dro a bydd yn cael ei ddiwygio mewn cyhoeddiad yn y dyfodol. |
* | Mae’r gwerth hwn wedi cael ei atal yn y cyhoeddiad hwn achos:
|
~ | Yn cynrychioli gwerth sy’n talgrynnu i 0, ond sydd heb fod yn 0. |
3. Mynediad i ystadegau swyddogol cyn iddynt gael eu cyhoeddi
Cyn cyhoeddi ystadegau, mae rhai pobl angen mynediad at y systemau ystadegol sylfaenol, adroddiadau a data.
Mae ein Prif Swyddog Ystadegau yn goruchwylio rhannu ein hystadegau gyda’n cydweithwyr yn y rolau canlynol. Mae hyn cyn i ni gyhoeddi'r ystadegau gyda'r Drwydded Llywodraeth Agored.
Pwy sydd angen mynediad at ystadegau cyn iddynt gael eu cyhoeddi
- Mae ystadegwyr a dadansoddwyr yn dadansoddi’r data a chadw y systemau ystadegol.
- Mae cyfieithwyr yn cyfieithu’r dadansoddiad ysgrifenedig.
- Mae cydweithwyr cyfathrebu gynhyrchu deunydd briffio i'r wasg neu gynlluniau trin cyfathrebu ar gyfer yr ystadegau.
- Mae staff diogelwch a TG yn angen mynedu systemau lle y data yn storio. Maent yn sicrhau nad yw’r data’n agored i fygythiadau allanol, ond heb iddynt gael mynediad i'r data.
- Mae rheolwyr y we yn cyhoeddi’r datganiadau ystadegol a’r setiau data ar LLYW.CYMRU ac StatsCymru.
Ar gyfer y cydweithwyr hyn sydd angen mynediad at ystadegau cyn iddynt gael eu cyhoeddi, rydym yn sicrhau eu bod yn llofnodi cytundeb, gweler atodiad B.
Rydym hefyd yn rhoi mynediad cynnar i dîm o ystadegwyr Cyllid a Thollau EM ar gyfer nifer fach o'n ffigurau. Mae Cyllid a Thollau EM yn defnyddio’r ffigurau hyn yn eu cyhoeddiad: ‘Ystadegau Trafodiadau Eiddo Msiol ar gyfer y Deyrnas Unedig’.
Rydym yn lleihau y nifer o bobl sy’n cael mynediad i ystadegau cyn eu cyhoeddi.
Sut rydym yn rheoli i ystadegau ar eu ffurf derfynol (mynediad cyn-rhyddhau)
Rydym yn rhoi ystadegau ar eu ffurf derfynol i swyddogion 24 awr cyn eu rhyddhau. Mae lle penderfynwyd bod hynny’n ofynnol ar gyfer eu rôl gan ein Swyddog Arweiniol dros Ystadegau. Mae pob un o’r swyddogion sy'n derbyn y mynediad cyn-rhyddhau hwn yn llofnodi'r cytundeb yn atodiad B.
Ar ein gwefan, rydym yn cyhoeddi a diweddaru yn rheolaidd rhestr o’r rheini a chael fynediad i’r ystadegau.
Rydym yn defnyddio peirianwaith rhannu diogel i ddarparu mynediad cyn-rhyddhau fel system SharePoint Awdurdod Cyllid Cymru neu e-bostio ar draws rhwydweithiau diogel.
4. Ymgysylltu â’n defnyddwyr
Rydym wedi nodi’r rhanddeiliaid hyn sydd wedi dangos diddordeb yn ein hystadegau:
- Bwrdd a staff Awdurdod Cyllid Cymru
- Cyfoeth Naturiol Cymru
- Senedd Cymru, y Pwyllgor Cyllid yn benodol
- Llywodraeth Cymru, Trysorlys Cymru yn benodol
- Cyllid a Thollau Ei Mawrhydi (CThEM)
- Y Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol
- Y Swyddfa Ystadegau Gwladol
- Cyllid yr Alban
- Y Gofrestrfa Tir
- Asiantaeth y Swyddfa Brisio
- awdurdodau lleol
- Parciau Cenedlaethol
- academia
- Y cyfryngau a’r wasg
- cyfreithwyr a thrawsgludwyr
- aelodau'r cyhoedd a threthdalwyr
Byddwn yn parhau i ymgysylltu a chydweithio gyda rhanddeiliaid hyn i wella ein cyhoeddiadau.
Yn gweithio cyd â grwpiau defnyddwyr ystadegau treth a thai yng Nghymru, byddwn yn ystyried y ffordd orau o ymgysylltu â’n defnyddwyr a chanfod eu blaenoriaethau ar gyfer gwella ein hystadegau.
Rydym yn hapus i unrhyw ddefnyddwyr neu ddarpar ddefnyddwyr gysylltu â ni: data@acc.llyw.cymru.
Gallai hyn fod i drafod:
- ymholiadau am ein hystadegau
- ceisiadau am ddata
- materion ansawdd yn ein hystadegau
- unrhyw bryderon
5. Diwygiadau
Diwygiadau yw’r hyn sy’n digwydd pan fydd gwerth yn cael ei newid ar ôl iddo gael ei gyhoeddi y tro cyntaf.
Rydym yn adolygu ein hystadegau yn rheolaidd ar sail sydd wedi’i chynllunio. Mae hyn yn cynnwys ddiweddaru ein hamcangyfrifon dros dro cychwynnol ar ôl i ffurflenni treth ychwanegol neu ddiwygiedig gael eu cyflwyno. Efallai y byddwn hefyd yn gwneud diwygiadau heb eu cynllunio er mwyn cywiro unrhyw wallau a ddarganfyddir.
Pan fydd tabl neu elfen o dabl yn cael ei ddiwygio, byddem yn nodi gan ddefnyddio'r canlynol:
- pan fydd tabl cyfan yn cael ei ddiwygio, byddem yn nodi drwy roi ‘diwygiedig’ neu ‘revised’ ar ddiwedd y teitl
- pan fydd y data ar gyfer rhes neu golofn benodol yn cael ei ddiwygio, (naill ai’n rhannol neu ar draws yr holl eitemau), bydd y symbol ‘r’ yn cael ei ychwanegu at y golofn/colofnau neu res/resi i ddangos eu bod wedi cael eu diwygio
- pan fydd cell unigol yn cael ei diwygio, bydd y symbol ‘r’ yn cael ei roi wrth ymyl y gwerth
Diwygiadau wedi’u cynllunio
Gan fod ein hystadegau’n seiliedig ar systemau data byw, mae adolygiadau wedi’u cynllunio yn cael eu cynnal mewn perthynas â'r Dreth Trafodiadau Tir a'r Dreth Gwarediadau Tirlenwi. Gyda diwygiadau wedi’u cynllunio, mae amcangyfrifon yn cael eu diweddaru ar ôl i ffurflenni treth ychwanegol neu ddiwygiedig gael eu cyflwyno.
Mae amcangyfrifon cyntaf o ddata y bwriedir eu diwygio yn y dyfodol yn cael eu labelu’n rhai dros dro.
Bydd gwerthoedd sydd wedi’u marcio yn rhai dros dro yn defnyddio’r un strwythur gan newid (p) a dros dro am (r) a diwygiedig.
Mae’r cyfieithiadau Cymraeg a dderbynnir ar gyfer y symbolau a’r ystyron hyn yn isod. Nid yw’r symbolau’n cael eu cyfieithu i osgoi'r angen am nifer o symbolau yn y tablau dwyieithog.
Saesneg | Cymraeg |
---|---|
Provisional (p) | Tymhorol neu dros dro (p) |
Revised (r) | Diwygiedig (r) |
Y Dreth Trafodiadau Tir - amseriad a diwygiadau sydd wedi’u cynllunio
Gellir newid ffurflenni’r Dreth Trafodiadau Tir hyd am sawl blynedd ar ôl dyddiad dod-i-rym y trafodiad, sef y dyddiad cwblhau fel arfer. Gellir cyflwyno ffurflenni treth newydd hyd at 30 diwrnod ar ôl y dyddiad dod-i-rym yn ddi-gosb, ac efallai ar ôl hynny hefyd. Gan ein bod yn cyhoeddi ystadegau yn ôl y dyddiad dod i rym, rydym felly’n adolygu data ar gyfer y misoedd diweddar ar sail sydd wedi’i chynllunio.
Rydym wedi gweld bod angen sicr am ystadegau amserol. Mae hyn ar ôl cael adborth gan ein defnyddwyr a CThEM a arferai gyhoeddi ystadegau’n ymwneud â’r maes hwn,
Felly, rydym yn cyhoeddi’r amcangyfrifon canlynol ar gyfer y Dreth Trafodiadau Tir:
- amcangyfrifon misol: cyhoeddi setiau data ar StatsCymru
- amcangyfrifon chwarterol a blynyddol: cyhoeddi datganiad ystadegol ar ein gwefan yn ogystal â setiau data wedi’u diweddaru ar StatsCymru, gyda sylwebaeth berthnasol
Amseru o fewn y mis ar gyfer tynnu data Treth Trafodiadau Tir
Rydym yn tynnu data o’n systemau am hanner nos ar drydydd dydd Llun y mis, sef yr hyn a elwir yn ‘ddyddiad cau’. Bydd hyn yn cynnwys data hyd at ddiwrnod olaf y mis blaenorol.
Math o ddatganiad | Pryd rydym yn cyhoeddi |
---|---|
Ystadegau misol (data’n unig) | Ddydd Gwener yr un wythnos ag y tynnir y data |
Ystadegau chwarterol | Ddydd Iau yr wythnos ar ôl tynnu’r data |
Ystadegau blynyddol (gyda setiau data manwl yn ôl daearyddiaeth) | Rydym yn tynnu'r data am hanner nos ar y trydydd dydd Llun o Fehefin, ar ôl i'r flwyddyn ariannol berthnasol ddod i ben. Lle bo modd, rydym yn sicrhau bod dyddiad cyhoeddi ein hystadegau Treth Trafodiadau Tir blynyddol yn cyd-fynd â dyddiad ein hadroddiad a'n cyfrifon blynyddol. Cyhoeddir yr adroddiadau hyn ddechrau mis Gorffennaf fel arfer. |
Wrth gynllunio’r amserlen hon, gwnaethom ystyried y canlynol:
- pa ddyddiau yw’r rhai mwyaf cyffredin ar gyfer dychwelyd ffurflenni i ni
- faint o amser mae’n ei gymryd i ffurflen gael ei chyflwyno (i leihau diwygiadau)
- amseriad a chynnwys ffurflenni treth y mae angen i ni eu hanfon at adrannau eraill y llywodraeth i'w cynnwys yn eu cyhoeddiadau. Mae hyn yn cynnwys CThEM, y Swyddfa Ystadegau Gwladol a Thrysorlys Cymru (o fewn y Llywdraeth Cymru)
- lefel y datgrynhoi yn y data, er mwyn osgoi cyhoeddi gwerthoedd sydd wedi’u hatal
- amserlenni ar gyfer cyhoeddiadau CThEM a Chyllid yr Alban sy’n darparu ystadegau tebyg
- yr amser sydd ei angen ar ein hystadegwyr ni i gynhyrchu datganiadau data’n unig, neu sylwebaeth ystadegol
Ein dull yw cyhoeddi amcangyfrifon cychwynnol sy’n cael eu diwygio wedyn pan ddaw rhagor o ddata i’r amlwg.
Treth Gwarediadau Tirlenwi: amseriad a diwygiadau wedi’u cynllunio
Mae gweithredwyr y safleoedd tirlenwi yn cyflwyno'r eu data i ni bob chwarter. Mae pob gweithredwr safle tirlenwi yn cytuno ar gyfnod cyfrifyddu chwarterol gyda ni ar gyfer dychwelyd ffurflen y dreth gwarediadau tirlenwi. Rydym yn derbyn bob ffurflen erbyn diwrnod gwaith olaf y mis yn dilyn diwedd y cyfnod cyfrifyddu.
Mae Cyllid a Thollau EM yn cyhoeddi data ar gyfer Treth Dirlenwi’r DU yn ôl mis. Ond, gyda nifer llai o weithredwyr yng Nghymru, nid ydym yn gallu cyhoeddi data misoedd unigol heb ddatgelu ffurflenni treth ar gyfer nifer bach o weithredwyr.
Gan fod gweithredwyr y safleoedd tirlenwi yn cyflwyno'r data i ni bob chwarter, rydym yn cyhoeddi’r data bob chwarter.
Diwygiadau heb eu cynllunio oherwydd camgymeriadau
Os bydd camgymeriad yn cael ei ganfod mewn datganiad ystadegol cyhoeddedig, bydd ein Pennaeth Dadansoddi Data yn:
- ystyried pa mor sylweddol ydy’r camgymeriad
- yn cymryd y camau priodol
Math o wall | Camau gweithredu |
---|---|
Bach (fel gwall argraffyddol) | Byddwn yn diweddaru ac yn cyhoeddi'r datganiad ystadegol ar y wefan. Ni chymerir unrhyw gamau pellach. |
Sylweddol ond gellir ei gywiro ar unwaith | Byddwn yn diweddaru ac yn cyhoeddi'r datganiad ystadegol ar y wefan gan nodi'r diwygiad. Byddwn yn hysbysu defnyddwyr o'r diwygiad trwy e-bost a’r cyfryngau cymdeithasol. |
Sylweddol ac ni ellir ei gywiro ar unwaith | Efallai y byddwn yn tynnu'r datganiad dros dro oddi ar LLYW.CYMRU a StatsCymru wrth i ni baratoi'r diweddariad. Byddwn yn ychwanegu nodyn atodol i'r wefan mewn achosion o’r fath. |
Pan nodir diwygiad oherwydd gwall, byddwn yn rhyddhau'r ystadegau diwygiedig i'r un cynulleidfaoedd a chan ddefnyddio'r un cyfryngau.
6. Storio a rheoli data
Mae ein Pennaeth Dadansoddi Data yn gyfrifol am reoli’r pob data wedi’u storio. Mae’n gan cynnwys:
- paratoi a chadw metadata
- asesu dulliau sicrhau ansawdd yn unol â'r canllawiau sy’n gysylltiedig â'r Cod Ymarfer ar gyfer Ystadegau
- dogfennu'r systemau a ddefnyddir i storio data
- darparu mynediad i'r ased data mewn modd sydd mor fanwl ag sy'n ymarferol a dibynadwy bosibl:
- mewn fformat defnyddiol a hyblyg i'r defnyddiwr
- yn amodol ar gyfyngiadau cyfreithiol a rhai cyfrinachedd
- rheoli’r baich ar gyflenwyr y asedau data:
- sicrhau bod y manylder sy’n ofynnol yn gymesur ac yn angenrheidiol
- osgoi gorfod ail-wneud ceisiadau
Hefyd, mae ein Pennaeth Dadansoddi Data yn gwarchod uniondeb a diogelwch y ddata yn unol â deddfwriaeth trethdalwr a diogelu data, a pholisïau mewnol. Mae’n gan gynnwys:
- storio a throsglwyddo gwybodaeth yn ddiogel
- prosesu teg o wybodaeth bersonol
- asesu yn rheolaidd y risgiau ar gyfer adnabod trethdalwyr unigol yn y ddata a’r allbynnau ystadegol cysylltiedig
- unrhyw gamau lliniaru i leihau’r risgiau hynny
Mewn ein datganiadau rheolaidd, rydym yn diwygio amcangyfrifon sydd wedi cael eu cyhoeddi’n flaenorol. Mae hyn yn digwydd wrth i ffurflenni treth gael eu diwygio neu wrth i ffurflenni treth newydd gael eu cyflwyno.
Y setiau data a gyflwynir ar StatsCymru fydd y fersiwn ddiweddaraf bob tro o'r ystadegau. Byddem yn dileu y fersiwn flaenorol o’r ystadegau. Bydd fersiynau archif ar gael ar gais drwy gysylltu â ni. E-bost data@acc.llyw.cymru
7. Cwynion
Rydym yn gwerthfawrogi unrhyw adborth ac unrhyw ymholiadau a gawn.
Ein nod yw:
- darparu ymatebion proffesiynol ac amserol
- bod yn agos-atoch-chi a pharod i helpu
- darparu gwybodaeth sy’n berthnasol, yn gywir ac yn gyfredol
Os bydd gennych gŵyn am ystadegau Awdurdod Cyllid Cymru, gallwch gysylltu â ni. Gweler ein canllawiau ar sut i wneud cwyn a sut rydym yn ymateb.