Gwasanaethau rhoi'r gorau ysmygu y GIG: adroddiad ansawdd
Mae’r adroddiad hwn yn ymdrin â’r egwyddorion a’r prosesau cyffredinol sy’n arwain at gynhyrchiad ein hystadegau.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
Beth yw’r ystadegau hyn?
Mae’r ystadegau ynghylch ysmygwyr sy’n gwneud ymgais i roi’r gorau i ysmygu yn dangos, fesul Bwrdd Iechyd Lleol (BILl) yng Nghymru lle maent yn byw, o chwarter 1 (Ebrill i Fehefin) 2014/15:
- nifer yr ysmygwyr sy’n byw yng Nghymru a gafodd driniaeth gan y gwasanaethau rhoi’r gorau i ysmygu;
- amcangyfrif o nifer yr ysmygwyr sy’n byw yng Nghymru; a
- chanran yr ysmygwyr sy’n byw yng Nghymru a wnaeth ymgais i roi’r gorau i ysmygu drwy’r gwasanaethau rhoi’r gorau i ysmygu.
Yn ogystal, mae’r ystadegau yn dangos, fesul BILl yng Nghymru lle maent yn byw, nifer yr ysmygwyr sy’n byw yng Nghymru a gafodd driniaeth gan bob un o’r gwasanaethau rhoi’r gorau i ysmygu unigol.
Dangosir yr ystadegau fesul pob chwarter unigol a hefyd fesul chwarteri cronnol o fewn blwyddyn ariannol (Ebrill i Fawrth).
Dangosir ystadegau ynghylch smygwyr y cadarnhawyd drwy fonitro carbon monocsid (CO) eu bod wedi llwyddo i roi’r gorau i smygu, yn ôl ardal y BILl lle maent yn byw, o chwarter 1 (Ebrill i Fehefin) 2014/15 i chwarter 4 (Ionawr i Fawrth) 2019/20 ac o chwarter 1 (Ebrill i Fehefin) 2024/25 ymlaen:
- nifer a chanran yr ysmygwyr sy’n byw yng Nghymru a gafodd driniaeth ac y cadarnhawyd drwy fonitro carbon monocsid eu bod wedi llwyddo i roi’r gorau i’r ysmygu (drwy ddefnyddio monitor carbon monocsid) 4 wythnos ar ôl y dyddiad rhoi’r gorau i ysmygu.
- Yn ogystal, mae’r ystadegau yn dangos, fesul BILl yng Nghymru lle maent yn byw, nifer yr ysmygwyr sy’n byw yng Nghymru a gafodd driniaeth ac y cadarnhawyd drwy fonitro carbon monocsid eu bod wedi llwyddo i roi’r gorau i ysmygu 4 wythnos ar ôl y dyddiad rhoi’r gorau i ysmygu yn ôl pob un o’r gwasanaethau rhoi’r gorau i ysmygu unigol.
Dangosir yr ystadegau fesul pob chwarter unigol a hefyd fesul chwarteri cronnol o fewn blwyddyn ariannol (Ebrill i Fawrth). Oherwydd y risg trosglwyddo COVID-19 sy'n gysylltiedig â'r broses, ni chynhaliodd y Byrddau brofion dilysu CO o chwarter 1 2020/21 i chwarter 4 2023/24 ac yn ystod y cyfnod hwn ni chyhoeddwyd ystadegau sy'n ymwneud â dilysu CO. O chwarter 1 2024/25 mae pob BILl wedi ailddechrau dilysu CO ac felly ailddechrewyd cyhoeddi’r data hyn.
Diffiniadau
Ysmygwr
Y diffiniad o ysmygwr yw rhywun 16 oed neu drosodd sy’n ysmygu cynhyrchion tybaco o leiaf unwaith yr wythnos. Cynhyrchion tybaco a ysmygir yw unrhyw gynhyrchion sy’n cynnwys tybaco ac sy’n cynhyrchu mwg. Mae hyn yn cynnwys sigaréts (wedi’u rholio â llaw neu wedi’u teilwra), sigârs a phibau (gan gynnwys pibau shisha, hookah, narghile a hubble-bubble). Nid yw’n cynnwys unrhyw gynhyrchion sy’n cynnwys nicotin ac nad ydynt yn cynnwys tybaco, megis sigaréts electronig.
Gwasanaeth rhoi’r gorau i ysmygu
Dyma wasanaeth sy’n darparu cymorth ymddygiadol sy’n seiliedig ar dystiolaeth a chyngor i ysmygwyr sydd wedi’u cymell i geisio rhoi’r gorau i ysmygu. Mae hyn yn cynnwys y gwasanaeth arbenigol cenedlaethol dynodedig Helpa fi i Stopio (sef y gwasanaeth a oedd yn mynd dan yr enw Dim Smygu Cymru gynt), gwasanaethau lefel 3 ar gyfer rhoi’r gorau i smygu a ddarperir gan fferyllfeydd cymunedol, ac unrhyw wasanaethau mewnol a ddarperir mewn ysbytai a meddygfeydd yng Nghymru.
Elfennau hanfodol gwasanaeth rhoi’r gorau i ysmygu
- Darparu cymorth ymddygiadol
- Gwasanaeth a gefnogir gan y Gwasanaeth Iechyd Gwladol
- Mae ganddynt amser wedi’i neilltuo i ddarparu cymorth mewn grŵp a/neu gymorth unigol sy’n:
- darparu cyfres o sesiynau wedi’u cynllunio/amserlennu lle nodir dyddiad targed ar gyfer rhoi’r gorau i ysmygu a rhoddir cymorth drwy gydol yr ymgais i roi’r gorau i ysmygu, drwy gymorth ymddygiadol strwythuredig mewn sawl sesiwn
- cael ei ddarparu ar y cyd â chynnig o therapi fferyllol
- darparu sesiwn ddilynol ar gyfer y cleient un mis ar ôl y dyddiad rhoi’r gorau i ysmygu, lle cadarnheir hynny drwy fonitro carbon monocsid a chofnodir y canlyniadau
Nid yw ymyriadau byr, fel y disgrifir isod, yn cael eu hystyried yn wasanaeth rhoi’r gorau i ysmygu ac nid ydynt wedi’u cynnwys yn y data.
Ymyriadau byr
Cyngor ac anogaeth syml ac oportiwnistaidd i roi’r gorau i ysmygu a roddir i glaf, sydd fel arfer yn para rhwng 5 a 10 munud, ac a ddarperir gan amrywiaeth eang o weithwyr iechyd proffesiynol. Mae hyn yn cynnwys asesu ymrwymiad presennol claf i geisio rhoi’r gorau i ysmygu, darparu gwybodaeth am argaeledd therapi fferyllol a chymorth ymddygiadol, ac atgyfeirio at gymorth mwy dwys gan wasanaeth rhoi’r gorau i ysmygu.
Ysmygwr a gafodd driniaeth
Ysmygwr a gafodd driniaeth yw ysmygwr sy’n cael o leiaf un sesiwn driniaeth gyda chymorth gan gynghorydd rhoi’r gorau i ysmygu fel rhan o’i ymgais i roi’r gorau i ysmygu. Nid oes yn rhaid i ysmygwr gwblhau’r rhaglen rhoi’r gorau i ysmygu lawn i fod yn ysmygwr a gafodd driniaeth.
Ymgais i roi’r gorau i ysmygu
Ystyr hyn yw pan mae ysmygwr yn gwneud ymrwymiad pendant i roi’r gorau i ysmygu ar ddyddiad penodol. Y dyddiad rhoi’r gorau i ysmygu gwirioneddol yw’r dyddiad pan mae ysmygwr yn bwriadu rhoi’r gorau i ysmygu yn gyfan gwbl gyda chymorth gan gynghorydd rhoi’r gorau i ysmygu fel rhan o ymgais i roi’r gorau i ysmygu â chymorth gwasanaeth rhoi’r gorau i ysmygu. Mae ymgeisiau i roi’r gorau i ysmygu drwy wasanaethau fferyllfeydd cymunedol ac ysbytai bob amser yn cael eu pennu yn ystod y sesiwn rhoi’r gorau i ysmygu gyntaf. Mae’r gwasanaeth Helpa fi i Stopio (sef y gwasanaeth a oedd yn mynd dan yr enw Dim Smygu Cymru gynt) yn gosod nodau stopio yn ystod yr ail sesiwn rhoi’r gorau i smygu.
Person sydd wedi rhoi’r gorau i ysmygu a gadarnhawyd drwy fonitro carbon monocsid
Caiff ysmygwr ei gyfrif yn ‘berson sydd wedi rhoi’r gorau i ysmygu a gadarnhawyd drwy fonitro carbon monocsid’ os:
- nad yw ef/hi wedi ysmygu un pwff ar sigarét mewn 2 wythnos
- cheir bod y carbon monocsid yn yr aer y maent yn ei anadlu allan, sy’n cael ei asesu yn ystod ymweliad dilynol â’r gwasanaethau rhoi’r gorau i ysmygu 4 wythnos ar ôl y dyddiad rhoi’r gorau i ysmygu dynodedig, yn llai na 10ppm pan brofir hynny drwy ddefnyddio monitor carbon monocsid
Gellir cynnal y prawf cadarnhau drwy fonitro carbon monocsid hyd at 3 diwrnod cyn neu uchafswm o 14 diwrnod ar ôl cyrraedd 4 wythnos ar ôl y dyddiad rhoi’r gorau i ysmygu, er mwyn osgoi unrhyw anawsterau o ran trefnu dyddiad addas i gynnal y prawf.
Amcangyfrif o nifer yr ysmygwyr sy’n byw yng Nghymru
Data ar roi'r gorau i ysmygu cyn 2017/18
Cyfrifwyd yr amcangyfrifon drwy gymhwyso’r cyfraddau ysmygu a nodwyd gan Arolwg Iechyd Cymru o ran oedolion i’r amcangyfrifon poblogaeth canol blwyddyn o ran pobl 16 oed a drosodd ar gyfer pob BILl yng Nghymru lle maent yn byw.
Data ar roi'r gorau i ysmygu o 2017/18
Mae Arolwg Cenedlaethol Cymru wedi disodli Arolwg Iechyd Cymru fel y ffynhonnell ar gyfer cael data ar ffordd o fyw sy'n gysylltiedig ag iechyd ymhlith oedolion. Felly, ar gyfer data ar roi'r gorau i ysmygu o 2017/18, cafodd yr amcangyfrif o nifer trigolion Cymru sy'n ysmygu ei gyfrifo drwy ddefnyddio'r cyfraddau ysmygu yn Arolwg Cenedlaethol Cymru ar gyfer oedolion yn yr amcangyfrifon poblogaeth canol blwyddyn ar gyfer pobl 16 oed a throsodd sy’n byw ym mhob un o Fyrddau Iechyd Lleol yng Nghymru. Lle bo modd, mae canran yr ysmygwyr yn seiliedig ar ddwy flynedd o ddata gyda'i gilydd, er mwyn cael maint sampl mwy a gwella manwl gywirdeb. Fodd bynnag, nid oedd hyn yn bosibl yn ystod y cyfnod pan oedd yr Arolwg Cenedlaethol yn cael ei addasu oherwydd pandemig y coronafeirws.
Oherwydd amseriad y canlyniadau, mae’r amcangyfrifon o nifer yr ysmygwyr sy’n oedolion yn rhai ar gyfer un flwyddyn cyn y data ar roi’r gorau i ysmygu. Er enghraifft, mae nifer amcangyfrifedig yr ysmygwyr a ddefnyddiwyd ar gyfer y data ar roi’r gorau i ysmygu 2021/22, yn seiliedig ar yr amcangyfrif o’r cyfraddau ysmygu yn yr arolwg ar gyfer 2020-21 a’r amcangyfrifon poblogaeth canol blwyddyn ar gyfer 2020.
Data ar roi’r gorau i ysmygu o 2021/22 ymlaen
Yn 2020-21, addaswyd yr Arolwg Cenedlaethol oherwydd pandemig y coronafeirws (gyda chyfweliadau dros y ffôn yn lle cyfweliadau wyneb yn wyneb). Felly ni ddylid cymharu'r canlyniadau ar gyfer ysmygu o arolwg 2020-21 ymlaen â chanlyniadau rhifynnau blaenorol o Arolwg Cenedlaethol Cymru – gall y pwnc hwn fod yn sensitif i newidiadau o'r fath. Roedd yr amcangyfrifon ysmygu yr adroddwyd arnynt o dan yr arolwg diwygiedig yn is nag amcangyfrifon blaenorol, ond mae'n debygol bod hyn yn ganlyniad i'r newid yn yr arolwg. Bydd yr amcangyfrifon is o ysmygwyr sy’n byw yng Nghymru yn arwain at gyfran sy’n ymddangos yn uwch o ysmygwyr yn gwneud ymgais i roi'r gorau iddi yn ystod 2021/22, ac ni fydd hynny efallai'n adlewyrchu gwelliant gwirioneddol mewn perfformiad.
Data ar roi’r gorau i smygu gyfer 2024/25
Ni chynhaliwyd Arolwg Cenedlaethol Cymru yn ystod 2023-24. Felly, cyfrifwyd amcangyfrif o nifer y smygwyr sy’n byw yng Nghymru ar gyfer 2024/25 gan ddefnyddio'r un cyfraddau smygu o Arolwg Cenedlaethol Cymru a ddefnyddiwyd yn y flwyddyn flaenorol (2021-22 a 2022-23 gyda'i gilydd) ond gan eu cymhwyso i amcangyfrifon poblogaeth canol blwyddyn 2023 ar gyfer pobl 16 oed a hŷn.
Mae pob un o’r saith BILl yng Nghymru yn adrodd ynghylch y wybodaeth am gleifion sy’n byw yn ardaloedd y BILlau.
Ers 1 Hydref 2019, mae Dim Smygu Cymru wedi cael ei ail-frandio o dan yr enw Helpa fi i Stopio. O ganlyniad, dyma’r gwasanaethau unigol ar gyfer rhoi’r gorau i smygu sydd wedi eu cynnwys o drydydd chwarter 2019/20:
- Helpa fi i Stopio - cymunedol
- Helpa fi i Stopio - gwasanaethau lefel 3 mewn fferyllfeydd
- Helpa fi i Stopio - gwasanaethau mewn ysbytai
- Helpa fi i Stopio er lles y babi
- Gwasanaethau mewnol mewn meddygfeydd
Cyn trydydd chwarter 2019/20, roes y gwasanaethau unigol ar gyfer rhoi’r gorau i smygu fel a ganlyn:
- Dim Smygu Cymru
- Gwasanaethau lefel 3 mewn fferyllfeydd
- Gwasanaethau mewnol mewn ysbytai
- Gwasanaethau mewnol mewn meddygfeydd
- Gwasanaeth mamolaeth arbenigol (yr adroddir arno ar wahân ers chwarter cyntaf 2018/19)
Defnyddwyr a defnyddiau
Mae dealltwriaeth o’r tueddiadau o ran cyfraddau rhoi’r gorau i ysmygu a maint y gwaith a wneir mewn gwasanaethau rhoi’r gorau i ysmygu yn hollbwysig i’r rheiny sy’n ymwneud â chynllunio a gwneud penderfyniadau ar lefel genedlaethol a lleol.
Credwn mai’r canlynol yw prif ddefnyddwyr yr ystadegau hyn:
- gweinidogion a’u cynghorwyr
- Aelodau’r Cynulliad a Gwasanaeth Ymchwil yr Aelodau yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru
- swyddogion yn y Grŵp Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol yn Llywodraeth Cymru
- GIG Cymru
- awdurdodau lleol
- myfyrwyr, academyddion a phrifysgolion
- meysydd eraill Llywodraeth Cymru
- adrannau eraill y Llywodraeth
- sefydliadau’r trydydd sector
- y cyfryngau
- dinasyddion unigol
Defnyddir yr ystadegau mewn amrywiaeth o ffyrdd. Dyma rai enghreifftiau:
- rhoi cyngor i Weinidogion a briffio ynghylch y perfformiad diweddaraf ledled Cymru mewn perthynas â thargedau Fframwaith Cyflawni’r GIG
- asesu, rheoli a monitro perfformiad GIG Cymru mewn perthynas â’r targedau
- llywio prosiectau gwella gwasanaethau o ran meysydd i ganolbwyntio arnynt a chyfleoedd i wella ansawdd
- gwneud penderfyniadau ynghylch buddsoddi mewn gwasanaethau rhoi’r gorau i ysmygu yn y dyfodol
- gan Fyrddau Iechyd Lleol y GIG, er mwyn meincnodi eu hunain yn erbyn Byrddau Iechyd Lleol eraill
- helpu i benderfynu ynghylch y gwasanaeth y gall y cyhoedd ei gael gan GIG Cymru
Os ydych chi’n ddefnyddiwr ac nad ydych yn teimlo bod y rhestr uchod yn eich cynnwys chi’n ddigonol, rhowch wybod inni drwy gysylltu â ni: hss.performance@llyw.cymru.
Cryfderau a chyfyngiadau’r data
Cryfderau
- Mae’r wybodaeth yn cael ei phrosesu a’i chyhoeddi yn chwarterol (ar StatsCymru ac mewn pennawd ar wefan Llywodraeth Cymru) mewn ffordd drefnus i hwyluso mynediad a defnydd.
- Mae’r allbynnau yn canolbwyntio’n amlwg ar Gymru ac maent wedi’u datblygu i ddiwallu anghenion defnyddwyr mewnol ac allanol yng Nghymru. Darperir y wybodaeth fesul BILl a fesul gwasanaeth rhoi’r gorau i ysmygu unigol (lle bo’n berthnasol). Cyhoeddir ffigurau a chanrannau.
- Mae’r data yn galluogi defnyddwyr i asesu’r effaith y mae gwasanaethau rhoi’r gorau i ysmygu yn ei chael ar iechyd pobl yng Nghymru.
Cyfyngiadau
- Bwriedir gwybodaeth StatsCymru ar gyfer cynulleidfa fwy gwybodus, gan mai ychydig o esboniad a geir i alluogi defnyddwyr eraill i ddehongli’r data yn briodol. Rydym yn annog defnyddwyr i gyfeirio at yr adroddiad ansawdd hwn / pennawd i gael mwy o gefndir.
- Nid oes unrhyw ddata wedi’i fapio.
- Oherwydd y gweinyddiaethau datganoledig a’r gwahanol bolisïau a deddfwriaeth, mae llai o gyfle i wneud cymariaethau uniongyrchol â gweddill y Deyrnas Unedig.
- Ychydig o sylwebaeth sydd ar y prif ddata chwarterol.
- Nid yw rhai gwasanaethau rhoi’r gorau i ysmygu a ariennir yn lleol yn cael eu cynnwys gan y pedwar gwasanaeth y mae BILlau Cymru yn darparu data mewn perthynas â nhw.
- Mae’r nifer a amcangyfrifir o ysmygwyr sy’n byw yng Nghymru wedi’i seilio ar amcangyfrifon arolwg sy’n gallu amrywio dros amser oherwydd newidiadau yn yr arolwg. Mae gan hyn oblygiadau i amcangyfrifon o gyfran yr ysmygwyr sy'n gwneud ymgais i roi'r gorau iddi, gan y gallai hyn amrywio oherwydd bod yr amcangyfrifon ysmygu yn amrywio yn hytrach nag oherwydd unrhyw newid gwirioneddol.
Cylch prosesu data
Casglu data
Mae’r Gangen Polisi Tybaco yn Llywodraeth Cymru yn derbyn ffurflen rhoi’r gorau i ysmygu wedi’i llenwi gan bob un o’r BILlau bob chwarter. Mae’r safonau o ran y ffurflen wedi’u hadolygu a’u derbyn gan Fwrdd Safonau Gwybodaeth Cymru a’r Grŵp Hysbysiad Newid Safonau Data.
Dilysu a gwirio
Mae’r Is-adran Cyflawni a Pherfformio yn Llywodraeth Cymru, ar ran y Gangen Polisi Tybaco, yn lanlwytho’r data a dderbynnir yn chwarterol. Mae’r system prosesu data a ddefnyddir yn sicrhau nad oes data ar goll o’r ffurflenni. Yna, gwneir archwiliadau dilysu a gwirio yn chwarterol, gan gynnwys, er enghraifft, gwirio tueddiadau o ran y data ac unrhyw gwymp sylweddol mewn perfformiad mewn perthynas â thargedau Fframwaith Cyflawni’r GIG. Nodir unrhyw annormaleddau yn y data ac yna codir y rhain gyda’r BILlau, gan alluogi’r BILlau i wirio, cywiro neu wneud sylwadau ar eu data a darparu gwybodaeth am y cyd-destun lle bo’n berthnasol.
Cyhoeddi a diwygiadau
Mae’r ystadegau a gyhoeddir gan yr Is-adran Cyflawni a Pherfformio yn cael eu cynhyrchu drwy grynhoi’r wybodaeth a ddarperir gan y BILlau.
Bob chwarter, rydym yn cyhoeddi pennawd byr ar ffurf html ar ein gwefan, sy’n darparu dolen gyswllt â thablau StatsCymru a’r adroddiad ansawdd hwn. Mae’r wybodaeth a gyflwynir ar StatsCymru yn cael ei chynhyrchu drwy broses awtomatig.
Cyhoeddir y data ar gyfer y flwyddyn ariannol ddiweddaraf (12 mis – Ebrill i Fawrth) dros dro a gellir ei ddiwygio mewn diweddariadau yn y dyfodol. Gwneir hyn i alluogi BILlau i gyflwyno data diwygiedig wrth iddynt wneud gwaith dilysu pellach.
Os cyhoeddir data anghywir, sy’n annhebygol, byddai diwygiadau yn cael eu gwneud a byddid yn rhoi gwybod i ddefnyddwyr yn unol â threfniadau Llywodraeth Cymru ar gyfer diwygiadau, camgymeriadau a gohiriadau.
Datgelu a chyfrinachedd
Yn dilyn ein hasesiad risg datgelu, credwn fod y tebygolrwydd y gellid adnabod claf unigol o’r data rydym yn ei gyhoeddi yn isel iawn, heb fod gwybodaeth arall am y claf yn hysbys eisoes. Felly, nid yw gwerthoedd bach wedi’u hatal.
Rydym yn cydymffurfio â’r datganiad ynghylch cyfrinachedd a gweld data, a gyhoeddwyd i gydymffurfio â’r gofynion a nodwyd yn Egwyddor y Cod Ymarfer ar gyfer Ystadegau Swyddogol.
Ansawdd
Mae’r Is-adran Cyflawni a Pherfformio yn cydymffurfio â strategaeth ansawdd ac mae hyn yn unol ag Egwyddor 4 y Cod Ymarfer ar gyfer Ystadegau Swyddogol.
Yn benodol, mae’r rhestr isod yn manylu ar chwe dimensiwn y System Ystadegol Ewropeaidd a sut rydym yn cydymffurfio â nhw:
Perthnasedd
I ba raddau y mae’r cynnyrch ystadegol yn diwallu anghenion y defnyddiwr o ran cwmpas a chynnwys.
Defnyddir yr ystadegau yn fesur o berfformiad mewn perthynas â thargedau cenedlaethol ar gyfer GIG Cymru ac i fonitro perfformiad y BILl. Maent yn cyfrannu at asesu’r effaith y mae gwasanaethau rhoi’r gorau i ysmygu yn ei chael ar iechyd pobl yng Nghymru. Amlinellir defnyddiau’r data hwn, a’r rheiny sydd â diddordeb ynddo, uchod.
Rydym yn annog defnyddwyr yr ystadegau i gysylltu â ni i roi gwybod inni sut maent yn defnyddio’r data. Ni fyddai’n bosibl darparu tablau i ddiwallu anghenion yr holl ddefnyddwyr, ond mae’r tablau a gyhoeddir ar StatsCymru yn ceisio ateb cwestiynau cyffredin.
Rydym yn ymgynghori â’r prif ddefnyddwyr cyn gwneud newidiadau, a lle bo’n bosibl rydym yn cyhoeddi’r newidiadau ar y rhyngrwyd, mewn pwyllgorau a rhwydweithiau eraill i ymgynghori’n ehangach â defnyddwyr. Rydym yn ceisio ymateb yn gyflym i newidiadau o ran polisi er mwyn sicrhau bod yr ystadegau yn parhau’n berthnasol.
Cywirdeb
Gellir rhannu cywirdeb yn gamgymeriad samplu a chamgymeriad heb samplu. Mae camgymeriad heb samplu yn cynnwys meysydd fel camgymeriad o ran cwmpas, camgymeriad o ran peidio ag ymateb, camgymeriad o ran mesur a chamgymeriad o ran prosesu.
Mae hwn yn gasgliad data sefydledig yn seiliedig ar 100% o’r data, h.y. nid sampl.
Ar gyfer y rhan fwyaf o chwarteri, mae’r holl BILlau yn gallu darparu data, ac felly nid oes angen amcangyfrif y ffigurau. Lle defnyddir amcangyfrifon, oherwydd nad yw BILl yn gallu darparu data ar gyfer chwarter penodol, amlinellir hyn yn glir yn y data.
Nid ydym wedi ymchwilio i gamgymeriadau heb samplu eto. Fodd bynnag, gallai camgymeriadau prosesu ddigwydd pan mae clercod mewn ysbytai yn mewnbynnu data yn anghywir i’w system weinyddol a gallai camgymeriadau mesur ddigwydd oherwydd bod staff mewn ysbytai yn dehongli diffiniadau yn wahanol. I leihau camgymeriadau heb samplu, darperir safonau a chyfarwyddyd ar gyfer pob ffurflen ddata i geisio sicrhau bod BILlau yn cyflwyno gwybodaeth yn unol â’r diffiniadau a’r fanyleb a gytunwyd. Mae’r safonau yn ymwneud â’r casgliad data hwn wedi’u hadolygu a’u derbyn gan Fwrdd Safonau Gwybodaeth Cymru. Lle mae camgymeriad heb samplu yn effeithio’r data, rydym yn darparu gwybodaeth lawn i ddefnddwyr i ganiatáu iddynt wneud penderfyniadau ar sail gwybodaeth ynghylch ansawdd yr ystadegau, yn enwedig os oes cyfyngiadau.
Mae ein holl allbynnau yn cynnwys gwybodaeth am gwmpas, amseru a daearyddiaeth.
Mae gweithdrefnau sicrhau ansawdd ar waith i ddeall ac esbonio newidiadau yn y data ac i wirio bod y system gyfrifiadurol yn cyfrifo’r ystadegau a gyhoeddir yn gywir.
Os cyhoeddir data anghywir, sy’n annhebygol, byddai diwygiadau yn cael eu gwneud a byddid yn rhoi gwybod i ddefnyddwyr yn unol â threfniadau Llywodraeth Cymru ar gyfer diwygiadau, camgymeriadau a gohiriadau.
Amseroldeb a phrydlondeb
Mae amseroldeb yn cyfeirio at faint o amser sydd wedi mynd heibio rhwng cyhoeddi’r data a’r cyfnod y mae’n cyfeirio ato. Mae prydlondeb yn cyfeirio at yr oedi rhwng y dyddiadau cyhoeddi a fwriadwyd a’r dyddiadau cyhoeddi gwirioneddol.
Mae’r holl allbynnau yn cydymffurfio â’r Cod Ymarfer drwy gyhoeddi’r dyddiad cyhoeddi ymlaen llaw ar y dudalen I’w cyhoeddi cyn hir. At hynny, pe bai’r angen yn codi i ohirio allbwn, byddai hyn yn dilyn trefniadau Llywodraeth Cymru ar gyfer diwygiadau, camgymeriadau a gohiriadau.
Rydym yn cyhoeddi data cyn gynted ag y bo’n ymarferol ar ôl diwedd pob chwarter ac yn unol ag anghenion defnyddwyr.
Hygyrchedd ac eglurder
Hygyrchedd yw pa mor hawdd ydyw i’r defnyddwyr gyrchu’r data, sydd hefyd yn adlewyrchu’r fformat(iau) y mae’r data ar gael ynddo/ynddynt ac argaeledd gwybodaeth ategol. Mae eglurder yn cyfeirio at ansawdd a digonolrwydd y metadata, eglurhadau a chyngor cysylltiedig.
Mae’r ystadegau yn cael eu cyhoeddi’n chwarterol fel pennawd ar ein gwefan ac ar StatsCymru mewn modd hygyrch, trefnus a gyhoeddwyd ymlaen llaw, ar wefan Llywodraeth Cymru am 9:30am ar y dyddiad cyhoeddi. Mae ffrwd RSS yn hysbysu defnyddwyr cofrestredig ynghylch y cyhoeddiad hwn. Ar yr un pryd, mae’r penawdau yn cael eu cyhoeddi ar yr Hwb Cyhoeddi Ystadegau Gwladol. Rydym hefyd yn rhoi cyhoeddusrwydd i’r allbynnau ar Twitter. Mae’r holl allbynnau ar gael i’w lawrlwytho am ddim.
Mae data manwl ar gael ar yr un pryd â’r pennawd ar wefan StatsCymru a gellir ei drin ar-lein neu’i lawrlwytho i daenlenni er mwyn ei ddefnyddio all-lein.
Rydym yn ceisio defnyddio iaith glir yn ein holl allbynnau ac maent yn cydymffurfio â pholisi hygyrchedd Llywodraeth Cymru. At hynny, mae ein holl benawdau yn cael eu cyhoeddi yn y Gymraeg a’r Saesneg. Gellir cael rhagor o wybodaeth ynghylch yr ystadegau drwy gysylltu â’r staff perthnasol a nodir yn y pennawd neu drwy e-bostio hss.performance@llyw.cymru.
Cymharedd
I ba raddau y gall data gael ei gytuno dros amser a maes.
Lle ceir rhybudd ymlaen llaw ynghylch newidiadau yn y dyfodol, caiff y rhain eu cyhoeddi ymlaen llaw yn unol â threfniadau Llywodraeth Cymru.
Mae gwybodaeth debyg ar gael o rannau eraill o’r Deyrnas Unedig ond nid yw’r data yn gwbl gymaradwy o ganlyniad i ddiffiniadau a safonau lleol ym mhob ardal – gweler Cydlyniad isod.
Mae safonau a diffiniadau a gytunwyd yng Nghymru yn rhoi sicrwydd bod y data yn gyson ar draws yr holl BILlau.
Cydlyniad
I ba raddau y mae data sy’n deillio o ffynonellau neu ddulliau gwahanol, ond sy’n cyfeirio at yr un ffenomenon, yn debyg.
Bob chwarter, mae’r data yn cael ei gasglu o’r un ffynonellau ac yn cydymffurfio â’r safon genedlaethol. Lle mae newidiadau i ddiffiniadau neu gwmpas, rydym yn nodi hyn yn glir ar dudalen y pennawd ac yn ychwanegu rhybuddion priodol at y data.
Mae gwledydd eraill yn y Deyrnas Unedig hefyd yn mesur perfformiad gwasanaethau rhoi’r gorau i ysmygu. Fodd bynnag, mae’r allbynnau yn wahanol mewn gwahanol wledydd oherwydd eu bod wedi’u cynllunio i helpu i fonitro polisïau sydd wedi’u datblygu ar wahân gan bob llywodraeth. Byddai angen ymchwilio ymhellach i gadarnhau a yw’r gwahaniaethau o ran diffiniad yn cael effaith sylweddol ar gymharedd y data.
Lloegr
Yn Lloegr, mae’r ystadegau yn cael eu cyhoeddi’n chwarterol gan Digidol y GIG.
Yr Alban
Yn yr Alban, mae’r ystadegau yn cael eu cyhoeddi’n flynyddol gan Information Services Division (ISD) Scotland.
Gogledd Iwerddon
Yng Ngogledd Iwerddon, mae’r ystadegau yn cael eu cyhoeddi’n flynyddol gan yr Adran Iechyd.
Lledaenu
Mae’r holl ddata o ansawdd digonol, yn dilyn y gwirio a amlinellwyd uchod, i gyfiawnhau ei gyhoeddi. Mae’r holl ddata gwirioneddol a ddarperir yn cael ei gyhoeddi ar ein gwefan ryngweithiol, StatsCymru.
Gwerthuso
Anfonwch eich adborth ynghylch yr ystadegau a’r adroddiad ansawdd hwn i hss.performance@llyw.cymru.
Lluniwyd gan: Yr Is-adran Cyflawni a Pherfformio, Y Grŵp Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Llywodraeth Cymru
Y dyddiad adolygu diwethaf: Ionawr 2024