Heddiw, mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi cynllun gweithredu i ddiddymu tlodi mislif a sicrhau urddas mislif i bawb yng Nghymru.
Mae gwaith ymchwil yn dangos bod 15% o ferched rhwng 14 a 21 oed yng Nghymru heb fod wedi gallu fforddio nwyddau mislif ar ryw bwynt, fod siarad am y mislif yn destun embaras i bron i hanner merched Cymru, ac nad oedd dros chwarter merched y wlad yn gwybod beth i’w wneud pan ddechreuodd eu mislif – materion y mae Llywodraeth Cymru yn gweithio i fynd i’r afael â nhw.
Gan amlinellu amcanion y Cynllun Gweithredu Strategol ar gyfer Urddas Mislif – y mae’r ymgynghoriad arno ar agor bellach – dywedodd y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol, Jane Hutt:
“Mae’r mislif yn effeithio ar bob un ohonon ni – rydyn ni naill ai yn eu cael ein hunain neu’n nabod rhywun sy’n eu cael. Ddylai neb fod dan anfantais o achos eu mislif, a ddylai’r mislif byth fod yn rheswm i rywun fod ar ei golled o ran addysg, cyflogaeth na gweithgarwch cymdeithasol. Dylai nwyddau mislif o ansawdd fod ar gael i bawb, i’w defnyddio mewn ardal breifat sy’n ddiogel ac yn gwarchod urddas.
“Dyna pam ein bod ni’n lansio ein Cynllun Gweithredu Strategol ar gyfer Urddas Mislif heddiw; gan amlinellu gweledigaeth i ddiddymu tlodi mislif, rhoi terfyn ar y stigma o amgylch y mislif, a sicrhau urddas mislif yng Nghymru.”
Mae hyrwyddo cydraddoldeb rhwng y rhywiau a rhoi’r lle canolog i gydraddoldeb ym mhopeth a wnawn yn un o elfennau allweddol Rhaglen Lywodraethu Cymru.
Mae’r Cynllun yn berthnasol i sawl un o feysydd y Llywodraeth, gan gynnwys iechyd ac addysg, ac yn rhannu gweledigaeth i sicrhau y bydd Cymru, erbyn 2026, yn wlad lle mae’r mislif yn rhywbeth y mae pobl yn ei ddeall, ei dderbyn a’i normaleiddio’n llwyr; lle mae yna gydnabyddiaeth gyffredinol nad yw mislif yn ddewis, a bod nwyddau mislif yn eitemau hanfodol.
Aeth y Gweinidog yn ei blaen:
“Rydyn ni eisiau i nwyddau mislif fod ar gael mewn ffordd deg ledled Cymru ac, yn hollbwysig, rydyn ni am roi terfyn ar y stigma, y tabŵau a’r mythau sy’n bodoli ynghylch y mislif.
“Rydyn ni wedi ymrwymo i sicrhau nad yw unrhyw un yn teimlo cywilydd neu embaras ynghylch y mislif a bod pawb yn gallu siarad yn agored ac yn hyderus amdano.”
Mae Molly Fenton o Gaerdydd yn rhedeg ymgyrch Love Your Period sy’n edrych ar faterion sy’n codi ynghylch y mislif ac urddas mislif.
Dywedodd y ferch 19 oed, a enillodd Wobr Dewi Sant am ei gwaith yn ddiweddar:
“Mae Ymgyrch Love Your Period yn edrych ar bob problem sy’n ymwneud â’r mislif ac yn brwydro yn eu herbyn yn yr amgylchedd diogel y mae pawb yn ei haeddu, amgylchedd sy’n gynhwysol i bob rhywedd. Mae pobl wedi rhoi’r enw “chwaer fawr Cymru” imi o achos fy ngwaith i ddiddymu tlodi mislif a’r stigma, gan sicrhau ar yr un pryd bod pobl yn cael eu haddysgu ynghylch y mislif, rhywbeth sydd mor hanfodol, p’un a ydyn nhw’n cael mislif eu hunain neu beidio.
“Mae ein prosiectau yn cynnwys: casgliadau i’r digartref, darparu nwyddau y mae modd eu hailddefnyddio i staff y GIG drwy gydol y pandemig, cymorth LGBTQIA+, a llinell gymorth i rieni yn ogystal â phlant. Rydyn ni hefyd wedi helpu i addysgu am y mislif mewn ysgolion cynradd ar draws Caerdydd, gan helpu pob ysgol i ganfod y ffordd orau o ddefnyddio Cynllun Urddas Mislif Llywodraeth Cymru gyda’u set unigryw nhw o ddisgyblion.
“Mae cam nesaf Llywodraeth Cymru i helpu i sicrhau urddas mislif, ei chynllun gweithredu, i’w groesawu’n fawr, a dw i am ofyn i bawb gyfrannu eu sylwadau i’n helpu i lywio dyfodol Cymru mewn maes sydd wir yn effeithio ar bawb.”
Mae Anna Cooper, 28, o Wrecsam yn ymgyrchydd ym maes endometriosis ac iechyd mislif. Mae ganddi fag stoma a chathetr o achos effeithiau ehangach endometriosis, cyflwr sy’n gysylltiedig â’r mislif. Dywedodd:
“Mae’n eithriadol bwysig ein bod ni’n chwalu’r tabŵ ynghylch y mislif a lles mislif. Fe ges i ddiagnosis 2 wythnos cyn fy mhen-blwydd yn 18, ond roedd pobl wedi bod yn dweud wrtha i o oed cynnar bod angen imi galedu a bod mislif poenus yn rhan o fod yn fenyw.
“Mae normaleiddio mislif poenus yn niweidiol a pheryglus. Fe ges i ddiagnosis cam 4 pan oeddwn i’n dal i fod yn fy arddegau, ac eto cafodd y peth ei ddiystyru yn ystod yr arddegau cynnar. Fe wnaeth fy athrawon, fy ffrindiau a’r gweithwyr meddygol proffesiynol ddiystyru’r peth. Wnaeth neb ddweud wrtha i na ‘nysgu i ynghylch beth yw mislif arferol neu beth yw’r arwyddion bod rhywbeth o’i le. Dyma pam fy mod i’n credu mor gryf mewn addysgu pob disgybl am les mislif er mwyn iddyn nhw fod yn ymwybodol o beth y mae angen iddyn nhw fod ar eu gwyliadwriaeth amdano o ran iechyd mislif. Mae’n bwysig ein bod ni’n rhoi blaenoriaeth i’n hiechyd mislif gymaint ag unrhyw ran arall o’n hiechyd corfforol.
“Fel cymdeithas, mae angen inni stopio gwneud i fenywod deimlo ei bod hi’n arferol dioddef poen difrifol adeg eu mislif. Dyw hi ddim yn iawn ein bod ni’n normaleiddio poen. Dyna pam mae addysg lles mislif yn hollbwysig i genedlaethau’r dyfodol. Mae angen inni roi terfyn ar y stigma er mwyn lleihau’r nifer sy’n dioddef yn dawel am flynyddoedd.”
Wrth gloi, amlinellodd y Gweinidog hefyd bwysigrwydd y cynllun gweithredu a’i ymrwymiad i gynnwys pob cymuned yn y gwaith o greu Cymru decach, fwy cyfartal:
“Mae ymdrech benodol wedi’i gwneud yn y cynllun yma i fod yn groestoriadol, gan ystyried urddas mislif y rheini sydd â nodweddion gwarchodedig ychwanegol, ac i wneud darpariaeth ar gyfer heriau ychwanegol neu ofynion diwylliannol. Mae’n hanfodol bwysig ein bod ni nawr yn clywed oddi wrth amrywiaeth mor eang â phosibl o bobl Cymru.
“Dw i’n awyddus i sicrhau ein bod ni’n estyn allan at fenywod, pobl ifanc, pobl hŷn, pobl nad ydyn nhw’n ddeuaidd, pobl ryngrywiol a phobl draws, pobl anabl, pobl o wahanol grefyddau, a phobl Dduon, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig, er mwyn i’r cynllun ystyried yr holl gwestiynau sy’n gysylltiedig â’r mislif.
“Rydyn ni eisiau sgwrs genedlaethol a chynhwysol am effaith y mislif ar holl gwrs bywyd person, a hynny er mwyn lleihau’r effaith yma, rhoi terfyn ar y stigma a normaleiddio’r mislif.”
I ddilyn y sgwrs yng Nghymru, chwiliwch am #MislifPositif #TakeActionPeriod