Jane Hutt AS y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol
Heddiw, mae'n bleser gennyf gyhoeddi lansio ein Cynllun Gweithredu Strategol ar gyfer Urddas Mislif. Mae'r lansiad hwn yn cyflawni ymrwymiad yn y Rhaglen Lywodraethu. Mae’n un o’r nodau allweddol i’w cyflawni yn ein Cynllun i Hyrwyddo Cydraddoldeb rhwng y Rhywiau yng Nghymru ac mae'n brawf pellach o’n hymrwymiad i fod yn Llywodraeth ffeministaidd.
Yn 2014 cydnabu Cyngor Hawliau Dynol y Cenhedloedd Unedig fod diffyg rheoli iechyd mislif a’r stigma sy'n gysylltiedig â'r mislif yn cael effaith negyddol ar gydraddoldeb rhwng y rhywiau.
Yng Nghymru, mae 15% o ferched yn methu â fforddio nwyddau mislif, tra bod un o bob tair yn dweud eu bod yn ei chael hi'n anodd talu.[1] Yn fwy cyffredinol, ar draws y DU mae dros 52% o ferched yn eu harddegau wedi colli ysgol neu goleg am eu bod ar eu mislif, gydag un o bob 10 yn dweud nad oeddent yn mynd i'r ysgol am eu bod yn teimlo cywilydd eu bod ar eu mislif.[2]
Mae mynd i'r afael â thlodi mislif wedi bod yn flaenoriaeth i Lywodraeth Cymru ers tro. Ers 2018 rydym wedi buddsoddi bron i naw miliwn o bunnoedd i sicrhau bod plant a phobl ifanc a'r rhai sydd ar incwm isel yn gallu manteisio ar nwyddau mislif am ddim. Mae lansio’r Cynllun Gweithredu Strategol ar gyfer Urddas Mislif yn dangos ein huchelgais cynyddol, nid yn unig i ddileu tlodi mislif ond hefyd i symud tuag at urddas mislif i bawb yng Nghymru.
Mae'r Cynllun hwn yn amlinellu gweledigaeth eang ynghylch urddas mislif. Mae'r weledigaeth hon yn cynnwys rhoi terfyn ar unrhyw ymdeimlad o stigma a chywilydd sy'n gysylltiedig â’r mislif; normaleiddio profiad pobl; a hefyd yn cydnabod y gofid a ddioddefir gan y rhai sy’n cael mislif poenus, yn cael eu gwanychu gan eu mislif neu y mae’r mislif yn amharu ar eu bywydau.
Mae urddas mislif yn ystyried y cysylltiad rhwng y mislif a phroblemau iechyd ehangach, effaith amgylcheddol llawer o nwyddau, yr effaith ar y gweithle ac ar gymryd rhan mewn chwaraeon a gweithgareddau diwylliannol. Mae’r cynllun yn ceisio bod yn groestoriadol, gan ei fod yn ystyried urddas mislif ar gyfer y rhai sydd â nodweddion gwarchodedig ychwanegol ac yn ceisio darparu ar gyfer heriau ychwanegol neu ofynion diwylliannol. Mae urddas mislif a thlodi mislif yn faterion hawliau plant ac mae'r cynllun yn ystyried gwaith parhaus ysgolion a gwasanaethau pobl ifanc mewn perthynas â hynny.
Mae'r cynllun hefyd yn mabwysiadu agwedd gydol oes at urddas mislif, gan nodi meysydd cymorth a ddylent fod ar gael cyn y glasoed, drwy'r glasoed, yn ystod y perimenopos, y menopos a thu hwnt.
Hoffwn ddiolch i'n rhanddeiliaid, gan gynnwys y Ford Gron Urddas Mislif, sydd wedi cyfrannu at ddatblygu'r Cynllun hwn ac a fydd yn chwarae rhan hanfodol yn y gwaith o'i weithredu.
Mae cyflawni ein gweledigaeth ar gyfer urddas mislif yn gam pwysig o ran rhoi terfyn ar wahaniaethu ar sail rhyw ac, felly, tuag at weithredu Cydraddoldeb Rhwng y Rhywiau yng Nghymru. Mae pob un ohonom un ai’n cael mislif, wedi cael mislif, neu’n adnabod pobl sy’n eu cael, ond menywod, merched ac eraill sy’n cael mislif sy’n profi canlyniadau negyddol y mislif; effaith ar waith; absenoldeb o addysg neu roi terfyn ar gymryd rhan mewn chwaraeon.
Er mwyn sicrhau urddas mislif, mae angen ymgysylltu â dynion a bechgyn, menywod a merched a'r rhai sy'n hunaniaethu y tu hwnt i'r categorïau deuaidd hyn, i godi ymwybyddiaeth a dealltwriaeth ac i roi terfyn ar stigma. Mae'n sgwrs ac yn broses y mae angen i bawb fod yn rhan ohoni.
Mae'r ymgynghoriad ar y Cynllun Gweithredu Strategol ar agor tan 12 Ionawr 2022. Rwy'n annog pawb i ystyried y ddogfen a rhannu eu barn gyda ni wrth i ni weithio tuag at ein gweledigaeth ar gyfer urddas mislif.
[1] 2018, Plan International – cyfeirir at ferched 14-21 oed
[2] Ymchwil gan PHS