Ym mis Awst, cyhoeddodd Rebecca Evans, y Gweinidog dros Gyllid a Llywodraeth Leol, y byddwn ni’n gweithio gyda Llywodraeth y DU i gynnwys awdurdodau contractio Cymru o fewn Bil Diwygio Caffael y DU.
Ers hynny mae Tîm Diwygio Caffael, Llywodraeth Cymru wedi bod yn gweithio gyda'i gymheiriaid yn Llywodraeth y DU i ddeall manylion Bil Diwygio Caffael y DU yn llawn er mwyn helpu i sicrhau ei fod yn adlewyrchu anghenion Cymru.
Mae Bil Diwygio Caffael y DU yn cael ei ddatblygu i amserlenni tebyg i Fil Partneriaeth Gymdeithasol a Chaffael Cyhoeddus (Cymru) Llywodraeth Cymru. Gwyddom fod datblygu'r ddau Fil ar yr un pryd yn ddryslyd.
Mae Bil y DU yn canolbwyntio ar y prosesau sylfaenol sy'n sail i gaffael felly bydd yn newid prosesau a gweithdrefnau caffael a bydd yn disodli’r rheoliadau presennol (Rheoliadau Contractau Cyhoeddus, Rheoliadau Contractau Consesiwn a Rheoliadau Contractau Cyfleustodau).
Nod y Bil Partneriaeth Gymdeithasol a Chaffael Cyhoeddus yw sicrhau bod canlyniadau sy'n gyfrifol yn gymdeithasol yn cael eu cyflawni o'n gwaith caffael; bydd yn golygu y bydd y rhai sy'n ymwneud â chaffael a rheoli contractau yn canolbwyntio ar ganlyniadau cymdeithasol, amgylcheddol, economaidd a diwylliannol, gan gynnwys gwaith teg.
Mae timau’r Bil Diwygio Caffael a’r Bil Partneriaeth Gymdeithasol a Chaffael Cyhoeddus yn cydweithio'n agos i sicrhau bod cyn lleied o gam-alinio â phosibl rhwng y ddau Fil a'u bod yn ategu ei gilydd lle bynnag y bo modd.
Os oes gennych unrhyw gwestiynau, e-bostiwch: TimDiwygiorBrosesGaffael@llyw.cymru