Rebecca Evans AS, Y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol
Cafodd y Fframwaith Safonau Moesegol i Gymru ei sefydlu gan Ran 3 o Ddeddf Llywodraeth Leol 2000 i hyrwyddo a chynnal safonau uchel o ymddygiad moesegol gan aelodau a swyddogion yr awdurdodau perthnasol yng Nghymru. Mae ‘awdurdod perthnasol’ yn golygu cyngor sir neu gyngor bwrdeistref sirol (sef prif gyngor), cyngor cymuned, awdurdod tân ac achub, ac awdurdod Parc Cenedlaethol yng Nghymru.
Mae’r Fframwaith yn cynnwys deg o egwyddorion cyffredinol fel sail i ymddygiad aelodau (sef egwyddorion sy’n deillio o Saith Egwyddor Bywyd Cyhoeddus yr Arglwydd Nolan). Maent wedi eu cynnwys yng Ngorchymyn Ymddygiad Aelodau (Egwyddorion) (Cymru) 2001. Ar ben hynny, mae Gorchymyn Awdurdodau Lleol (Cod Ymddygiad Enghreifftiol) (Cymru) 2008 (“Cod Ymddygiad Enghreifftiol”) yn darparu ar gyfer set o safonau gofynnol y gellir eu gorfodi mewn perthynas â sut y dylai aelodau ymddwyn, wrth gyflawni eu swyddogaethau swyddogol ac (mewn rhai achosion) o ran eu gweithgareddau yn eu bywyd personol. Mae hefyd yn cynnwys darpariaethau sy’n ymwneud â datgan a chofrestru buddiannau. Gan mwyaf, mae’r Fframwaith wedi parhau heb ei newid, er i nifer o newidiadau gael eu gwneud i wella sut mae wedi gweithredu yn ystod yr ugain mlynedd diwethaf.
Cynhaliwyd adolygiad annibynnol o’r Fframwaith gan Richard Penn rhwng mis Ebrill a mis Gorffennaf 2021 i asesu a yw’n parhau i fod yn addas ar gyfer ei ddiben. Roedd yr adolygiad yn rhoi ystyriaeth i’r gofynion deddfwriaethol newydd a nodwyd yn Neddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 a chyd-destun y polisïau cydraddoldeb ac amrywiaeth presennol. Hoffwn ddiolch i Richard Penn a’r holl randdeiliaid a gymerodd ran yn yr adolygiad hwn.
Mae’r Adroddiad terfynol, a gafodd ei gyhoeddi heddiw, yn dod i’r casgliad bod y trefniadau presennol yn addas ar gyfer eu diben, ond mae’n argymell gwneud rhai newidiadau i’r Fframwaith, gan gynnwys y Cod Ymddygiad Enghreifftiol. Byddaf yn ystyried yr argymhellion i ddiwygio’r Cod Ymddygiad Enghreifftiol yn y tymor byr. Bydd unrhyw newid i’r ddeddfwriaeth yn destun ymgynghoriad technegol.
Bydd camau gweithredu i roi sylw i argymhellion eraill yn cael eu datblygu mewn partneriaeth â rhanddeiliaid allweddol yn y tymor canolig a’r tymor hirach.