Rydym wedi gostwng y terfynau cyflymder i 50mya i leihau llygredd nitrogen deuocsid (NO2).
Beth ydyn ni’n ei wneud
Rydym wedi cyhoeddi Cynllun Ansawdd Aer sy’n amlinellu’r mesurau rydym yn eu cyflwyno er mwyn gwella ansawdd yr aery ng Nghymru a sicrhau cydymffurfiaeth â therfynau nitrogen deuocsid (NO2) statudol.
Rydym wedi cyflwyno terfynau cyflymder o 50mya mewn 5 ardal yng Nghymru er mwyn gwella ansawdd yr aer ac rydym yn cymryd camau i wneud yn siŵr bod gyrwyr yn cadw atyn nhw.
Pam ydyn ni’n gwneud hyn
Mae dyletswydd gyfreithiol arnon ni i gydymffurfio â’r terfynau llygredd aer i warchod iechyd pobl. Mae Sefydliad Iechyd y Byd yn dweud mai llygredd aer yw’r risg amgylcheddol mwyaf i iechyd.
Mae allyriadau cerbydau yn un o brif achosion lefelau NO2 ar y ffyrdd. Mae asesiadau rheolaidd wedi nodi lefelau NO2 uwchben y terfyn cyfreithiol mewn sawl lleoliad ar y draffordd a'r rhwydwaith cefnffyrdd. Rhaid i ni weithredu i leihau llygredd ar ochr y ffordd yn y lleoliadau hyn.
Rydym yn deall y gallai terfynau cyflymder is fod yn amhoblogaidd. Fodd bynnag, rydym yn gwybod eu bod yn debygol o fod y ffordd gyflymaf a mwyaf effeithiol o leihau lefelau NO2.
Sut mae lefelau NO2 yn cael effaith ar ein hiechyd?
Gall anadlu aer sydd â lefelau uchel o NO2:
- lidio eich llwybrau anadlu
- gwaethygu afiechydon fel asthma
- achosi peswch, gwichian neu ei gwneud hi'n anodd i chi anadlu
- achosi i chi ddatblygu salwch difrifol fel clefyd y galon, canser yr ysgyfaint ac asthma
- cynyddu eich risg o ddal heintiau anadlol.
Gallwch weld rhagor o wybodaeth am lygredd aer ac iechyd ar y wefan Ansawdd Aer yng Nghymru.
Pam 50mya?
Mae'r terfyn cyflymder is yn seiliedig ar ymchwil ar gyfer cerbydau ysgafn sy'n dangos bod allyriadau ar eu hisaf ar gyflymder hyd at 50mya.
Beth ydyn ni wedi’i wneud hyd yn hyn
- ostwng rhai terfynau cyflymder i 50mya
- gosod arwyddion newydd i dynnu sylw at y terfynau cyflymder
- gosod camerâu cyflymder cyfartalog i fonitro cyflymder y traffig
Gwnaethon ni hyn ar y ffyrdd canlynol:
- A483 rhwng cyffyrdd 5 a 6 Wrecsam
- A494 rhwng ffin Cymru/Lloegr a Chyfnewidfa Dewi Sant, Glannau Dyfrdwy
- A470 rhwng Glan-bad a Phont-y-pridd
- M4 rhwng cyffyrdd 41 a 42 Port Talbot
- M4 rhwng cyffyrdd 25 a 26 Casnewydd
Gorfodi
Rhaid i yrwyr gadw at y terfyn cyflymder i'n helpu i wella ansawdd yr aer.
Er bod y rhan fwyaf o bobl wedi cydymffurfio â'r terfyn cyflymder is mae Cyngor Cenedlaethol Penaethiaid yr Heddlu (NPCC) wedi nodi bod pobl yn dal i yrru ar gyflymder uwch.
Er mwyn mynd i'r afael â hyn, mae'r terfyn cyflymder o 50mya yn cael ei orfodi mewn 5 lleoliad ar y rhwydwaith traffyrdd a chefnffyrdd gyda chamerâu cyflymder cyfartalog.
Mae'r camerâu'n wyrdd, yn hytrach na'r melyn safonol, i ddangos eu bod yn mesur cyflymderau ar gyfer dibenion ansawdd aer.
Mesur llygredd
Rydym yn asesu ansawdd aer gan ddefnyddio sawl dull gwahanol yn barhaus. Mae'r data'n ein helpu i ddeall i ba raddau rydym yn cwrdd â therfynau NO2 cyfreithiol.
Rydym yn cyhoeddi adroddiadau sy'n cynnwys y data a gofnodwyd lle mae lefelau NO2 wedi mynd y tu hwnt i'r terfynau cyfreithiol. Mae dolenni i'r adroddiadau hyn yn yr adran Mwy o Wwybodaeth isod.
Rydym yn bwriadu cyhoeddi diweddariad i'n Cynllun Ansawdd Aer a byddwn yn ymgynghori ar gynigion i weithredu mewn dau leoliad pellach ar y rhwydwaith traffyrdd a chefnffyrdd.
Rydym hefyd yn ystyried a allai mesurau eraill ein helpu i sicrhau cydymffurfiaeth barhaus â chyfyngiadau NO2.
Cyflwyno cyfyngiadau cyflymder o 50mya mewn ardaloedd eraill
Mae asesiad parhaus wedi dangos dau leoliad arall lle mae lefelau NO2 yn rhy uchel. Dyma nhw:
- Cyfnewidfa A470 Coryton i Gyfnewidfa Nantgarw
- Cyffordd 43 Llandarcy i gyffordd 44 yr M4 Lon Las
Rydym yn ymchwilio i gamau y gellir eu cymryd i gefnogi cydymffurfiaeth ar frys yn y lleoliadau hyn hefyd.
Gall hyn gynnwys terfynau cyflymder is os yw tystiolaeth yn cefnogi eu cyflwyno yma hefyd
Mwy o wybodaeth
Mae gwybodaeth fanylach am sut rydym yn mynd i'r afael ag ansawdd aer o amgylch ffyrdd i'w gweld yn y dogfennau hyn::
- Cynllun atodol Llywodraeth Cymru i gynllun y DU ar gyfer taclo crynodiadau o nitrogen deuocsid ar ymylon ffyrdd 2017 (Cynllun Ansawdd Aer)
- Mynd i'r afael â chrynodiadau nitrogen deuocsid ar ymylon ffyrdd yng Nghymru
- Mynd i'r afael â lefelau nitrogen deuocsid wrth ochr y ffordd yng Nghymru (WelTAG Cam 3)
- Data interim ar grynodiadau NO2 ar gyfer yr adroddiad traffyrdd a chefnffyrdd
- Data blynyddol ar grynodiadau NO2 ar gyfer traffyrdd a chefnffyrdd: Adroddiad 2018 i 2019
- Data blynyddol ar grynodiadau o NO2 ar gyfer traffyrdd a chefnffyrdd: 2020 i 2021
Cysylltwch â ni
I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â: Transport.AirQuality@llyw.cymru