Lluniwyd yr adroddiad i gefnogi’r sector cyhoeddus yng Nghymru i wneud penderfyniadau gwell ar gyfer y tymor hir.
Dogfennau
Tueddiadau’r Dyfodol: 2017 , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 301 KB
Tueddiadau’r Dyfodol 2017: poblogaeth , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 818 KB
Tueddiadau’r Dyfodol 2017: iechyd , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 1 MB
Tueddiadau’r Dyfodol 2017: economi a seilwaith , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 2 MB
Tueddiadau’r Dyfodol 2017: newid hinsawdd , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 738 KB
Tueddiadau’r Dyfodol 2017: defnydd tir ac adnoddau naturiol , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 711 KB
Tueddiadau’r Dyfodol 2017: cymdeithas a diwylliant , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 2 MB
Manylion
Mae adroddiad Tueddiadau’r Dyfodol yn nodi’r prif dueddiadau cymdeithasol, economaidd, amgylcheddol, a diwylliannol a allai effeithio ar Gymru yn y dyfodol, yn ogystal â rhai o’r ffactorau a allai ddylanwadu ar gyfeiriad y tueddiadau hynny.
Mae’r adroddiad yn nodi tueddiadau’r dyfodol o dan chwe thema:
- poblogaeth
- iechyd
- economi a seilwaith
- y newid yn yr hinsawdd
- defnydd tir ac adnoddau naturiol
- cymdeithas a diwylliant
Mae tair elfen i’r adroddiad hwn:
- Rhan A: I ble y gallem fod yn mynd? Prif dueddiadau’r dyfodol sy’n effeithio ar Gymru
- Rhan B: Beth allai hyn ei olygu? Ffactorau dylanwadol wrth wraidd tueddiadau’r dyfodol a rhai effeithiau posibl yng Nghymru
- a hefyd nifer o sleidiau data sy’n berthnasol i’r gwahanol themâu.
Mae’r adroddiad yn annog y darllenydd i ystyried y tueddiadau ar y cyd, ac i ddechrau nodi a thrafod y cyfleoedd a’r heriau posibl a allai ddeillio ohonynt. Er i’r adroddiad gael ei ddiweddaru ar ddechrau pob Cynulliad, mae’r sleidiau data’n cael eu diweddaru yn fwy rheolaidd na hynny.
Fe gyhoeddwyd yr adroddiad yn 2017, a chafodd y sleidiau eu diweddaru ym mis Ebrill 2019. O dan Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015, mae dyletswydd gyfreithiol ar Weinidogion Cymru i gyhoeddi adroddiad Tueddiadau’r Dyfodol o fewn 12 mis i gynnal etholiad Cynulliad Cenedlaethol Cymru. Fe gyhoeddwyd yr adroddiad Tueddiadau’r Dyfodol cyntaf ym mis Mawrth 2017. Caiff yr adroddiad nesaf ei gyhoeddi yn 2021/22.
Diweddariadau sleidiau data
Er mwy sicrhau bod y sleidiau data’n gyfredol, cafodd nifer ohonynt eu diweddaru ym mis Ebrill 2019. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r prif Adroddiad Tueddiadau’r Dyfodol yng Nghymru, ond gwnaed y newidiadau canlynol i’r sleidiau atodol.
Newidiadau i ddata
Poblogaeth
- Cydrannau newid poblogaeth (sleid 13)
Mae’r thema poblogaeth yn defnyddio data o amcanestyniadau poblogaeth cenedlaethol sail-2016, a oedd yn amcanestyn twf ym mhoblogaeth Cymru dros y cyfnod 2016 i 2041. Mae’r amcanestyniadau poblogaeth cenedlaethol sail-2018 fwy diweddar yn amcanestyn gostyngiad yn y boblogaeth yn ystod yr un cyfnod; byddwn yn diweddaru’r thema hwn cyn gynted â phosibl.
Iechyd
- Newid mewn disgwyliad oes (sleid 7)
Sleid data newydd
Cymdeithas a diwylliant
- Cymdeithas a Diwylliant ar y galw am dai (sleid 19)
- Tlodi mewn gwaith (sleid 16)
- Amcanestyniad o nifer y siaradwyr Cymraeg (sleid 43)
Adnoddau ar-lein
Mae Rhaglen Tueddiadau’r Dyfodol yng Nghymru hefyd yn darparu adnodd ar-lein er mwyn ichi allu manteisio ar ragor o ymchwil a phecynnau cymorth sy’n ymdrin â’r dyfodol. Daw’r deunyddiau hyn o wahanol rannau o Gymru a’r tu hwnt. I gael defnyddio’r adnodd hwn neu i drafod unrhyw fater arall sy’n ymwneud â gwaith ar y dyfodol o fewn Llywodraeth Cymru, gan gynnwys cynigion i hwyluso cyfleoedd i fanteisio ar becynnau cymorth, hyfforddiant, a gweithdai, e-bostiwch: TueddiadaurDyfodol@llyw.cymru.