Y diweddaraf am ystadegau teithio domestig Prydain Fawr
Bydd nifer o newidiadau yn helpu i ddiogelu'r arolygon yn y dyfodol ac yn rhoi mwy o gysondeb gyda gwybodaeth ar gyfer cyrchfannau eraill.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
Cefndir
Mae Arolwg Twristiaeth Prydain Fawr (GBTS) ac Arolwg Ymweliadau Undydd Prydain Fawr (GBDVS) yn arolygon defnyddwyr cenedlaethol sy’n mesur nifer a gwerth teithiau twristiaeth domestig dros nos a theithiau undydd domestig trigolion Prydain Fawr. Maent yn rhoi gwybodaeth fanwl am nodweddion y teithiau a’r ymwelwyr sy’n ymwneud â phob agwedd ar dwristiaeth, fel gwyliau, ymweliadau â ffrindiau a pherthnasau a theithiau at ddibenion busnes a dibenion eraill. Dyma’r arolygon mwyaf a mwyaf cynhwysfawr o deithiau domestig poblogaeth Prydain Fawr.
Er bod yr ystadegau teithio domestig wedi cael eu paratoi mewn ffordd eithaf tebyg ers 1989, mae’r dulliau o gynnal yr arolygon GBTS/GBDVS a’r wybodaeth sy’n cael ei chasglu drwy’r rhain wedi newid mewn ymateb i amgylchiadau sy’n newid. Cyn 2020, maent wedi gweithredu fel arolygon annibynnol ar wahân gyda GBTS yn cael ei gynnal fel arolwg wyneb yn wyneb parhaus yn y cartref ers 2006 a GBDVS yn cael ei gynnal fel arolwg ar-lein ers 2011.
Sut defnyddir yr wybodaeth
Mae'r arolygon yn darparu gwybodaeth at y dibenion canlynol.
- Darparu amcangyfrifon swyddogol o dwristiaeth ddomestig trigolion Prydain Fawr.
- Cadw golwg ar newidiadau mewn perfformiad cyrchfannau dros amser, gan gynnwys gwledydd Prydain Fawr, NUTS1, daearyddiaeth siroedd ac Awdurdodau Lleol.
- Darganfod tueddiadau yn y farchnad a newid yn anghenion ymwelwyr.
- Galluogi dadansoddi perfformiad yn ôl mathau perthnasol o deithiau.
- Galluogi dadansoddi ymddygiad o ran teithiau yn ôl segmentau marchnad a demograffig allweddol.
- Sicrhau bod modd cymharu data ar draws Prydain Fawr yn ei chyfanrwydd.
- Rhoi’r data perthnasol i Sefydliadau Rheoli Cyrchfannau ac awdurdodau lleol er mwyn iddynt allu asesu’r effaith economaidd.
- Darparu mewnbwn ystadegol i wahanol fodelau ar gyfer yr economi ymwelwyr gan gynnwys yr Is-gyfrif Twristiaeth.
- Darparu gwybodaeth ar gyfer adrodd mewn cyhoeddiadau swyddogol gan gyrff y DU a chyrff rhynglywodraethol fel UNWTO.
Mae’r wybodaeth o’r arolygon yn cael ei defnyddio gan lywodraeth y DU a’r llywodraethau datganoledig ac amrywiaeth eang o sefydliadau yn y sector cyhoeddus a’r sector preifat yn niwydiant twristiaeth y DU. Defnyddir yr wybodaeth a’r tueddiadau er mwyn deall y farchnad ddomestig yn well, gan helpu i lywio eu strategaethau, eu polisïau a’u gweithgareddau.
Crynodeb o newidiadau diweddar
Yn 2019/20, dechreuodd noddwyr arolygon GBTS a GBDVS; Croeso Cymru, Visit England a Visit Scotland adolygu cwmpas a dulliau’r arolygon, cyn cyhoeddi tendr am gontract newydd ar gyfer arolygon ymwelwyr domestig dros nos ac undydd.
Mae’r adolygiad wedi arwain at nifer o newidiadau a fydd yn helpu i ddiogelu’r arolygon yn y dyfodol a darparu mwy o gysondeb gyda gwybodaeth ar gyfer cyrchfannau eraill, gan gynnal dibynadwyedd a chadernid yr wybodaeth sy’n cael ei hadrodd.
Ceir rhestr o’r newidiadau hyn isod gyda rhagor o wybodaeth yn yr adrannau sy’n dilyn.
- Integreiddio’r arolygon mewn un arolwg cyfun.
- Newid y dulliau arolygu, gan ddefnyddio methodoleg ar-lein ar gyfer y ddau.
- Diffiniadau diwygiedig ar gyfer y prif fesurau ar gyfer teithiau.
- Cwestiynau wedi’u diweddaru a chasglu gwybodaeth yn well.
- Dulliau dilysu data wedi’u diweddaru a dulliau diwygiedig ar gyfer amcangyfrifon teithiau a gwariant.
- Adroddiadau gwell i ddiwallu anghenion defnyddwyr gan gynnwys bodloni gofynion hygyrchedd.
- Newid i ddynodiad amcangyfrifon yr arolwg.
Cyfiawnhad dros newid
Nododd yr adolygiad, a gynhaliwyd dan arweiniad noddwr, nifer o ffactorau a oedd, gyda’i gilydd, yn rhoi sail resymegol gref dros ddiweddaru dulliau a chynnwys y ddau arolwg domestig.
Roedd cyfuniad o gyfraddau ymateb is, costau gwaith maes uwch a’r nifer cyfyngedig o gyflenwyr a oedd yn cynnig arolwg omnibws addas yn y cartref yn golygu nad oedd yr arolwg a arferai gael ei gynnal wyneb yn wyneb ar gyfer GBTS yn ymarferol mwyach. Roedd hyn yn gyfle i gyfuno’r ddau arolwg yn arolwg cyfun ar-lein a oedd yn arwain at arbedion effeithlonrwydd o ran costau ac arolygon. Roedd hefyd yn golygu bod modd cymharu canlyniadau’r ddau arolwg yn well. Ar yr un pryd, cafwyd cyfle i ddatblygu’r holiadur er mwyn ei gwneud yn haws i ddefnyddwyr ei lenwi ac er mwyn cyd-fynd â newidiadau mewn ymddygiad teithio. Mae’r dull ar-lein yn cynnig hyblygrwydd i gasglu gwybodaeth ychwanegol dros amser i fodloni gofynion defnyddwyr sy’n newid. Rydym yn rhagweld y bydd yr arolwg newydd yn darparu gwybodaeth gyfoethocach am broffiliau teithiau a theithio, adroddiadau mwy amserol ar allbynnau a gallu dadansoddi a chwestiynu’r canlyniadau yn well.
Dull a sampl yr arolwg
Cyfunwyd y ddau arolwg yn un arolwg ar-lein. Mae hyn yn cynrychioli newid yn null yr arolwg ar gyfer GBTS, ond mae’r GBDVS yn parhau i gael ei gynnal yn yr un dull, sef ar-lein. Mae’r arolwg yn defnyddio holiadur newydd, gydag adrannau wedi’u rhannu ar broffiliau ymatebwyr a mynd ar deithiau yn gyffredinol. Caiff ymatebwyr eu cyfeirio i naill ai gwblhau’r adran fanwl ar deithiau undydd neu’r adran ar ymweliadau dros nos. Mae defnyddio’r un ffynhonnell sampl a holiadur yn rhoi cyfle i ddeall y berthynas yn well rhwng teithiau undydd ac aros dros nos
Daw’r sampl ar gyfer yr arolwg cyfun gan bum darparwr panel ar-lein sydd wedi’u hachredu gan ESOMAR ac mae’n cynnwys cwotâu ar gyfer newidynnau demograffig allweddol a rhanbarth preswylio er mwyn gwneud y sampl gyfan mor gynrychiadol â phosibl o boblogaeth Prydain Fawr. Y nod yw cynnal cadernid yr arolygon blaenorol, gyda’r targedau canlynol o ran nifer y cyfweliadau cyswllt.
Arolwg | Prydain | Lloegr | Yr Alban | Cymru |
---|---|---|---|---|
GBDVS bob blwyddyn | 35,000 | 25,000 | 5,000 | 5,000 |
GBDVS bob mis | 2,696 | 1,924 | 384 | 384 |
GBTS bob blwyddyn | 60,000 | 42,000 | 9,000 | 9,000 |
GBTS bob mis | 4,616 | 3,232 | 692 | 692 |
Mae’r arolwg yn cael ei gynnal bob wythnos gyda’r un cyfnodau galw yn ôl a ddefnyddiwyd yn flaenorol. Mae ymatebwyr GBTS yn cael eu holi am deithiau dros nos yn ystod y 4 wythnos diwethaf ac ymatebwyr GBDVS yn cael eu holi am y teithiau undydd yn yr wythnos flaenorol.
Diffinio teithiau
Mae’r arolwg yn cynnwys cwestiynau newydd i helpu i gysoni mesurau allweddol teithiau, nosweithiau a gwariant gyda diffiniadau y cytunwyd arnynt yn rhyngwladol ar gyfer teithiau twristiaeth undydd a thros nos. Mae’r gwaith hwn yn parhau ond gall arwain at addasu’r diffiniadau o deithiau undydd a thros nos i eithrio teithiau sy’n rhan o drefn arferol bywyd bob dydd pobl. Bydd hyn yn golygu bod modd adrodd yn fwy cywir ar deithiau sy’n benodol i dwristiaeth ac yn ei gwneud yn haws cymharu â theithiau sy’n cael eu hadrodd gan gyrchfannau eraill gan ddefnyddio’r diffiniadau y cytunwyd arnynt yn rhyngwladol.
Gwybodaeth a gesglir
Roedd angen newid y set o gwestiynau, y sgript a thrywydd yr arolwg newydd ar gyfer y dull newydd cyfun o gynnal arolwg ar-lein. Mae’r holiadur wedi’i ailgynllunio i’w gwneud yn haws i ymatebwyr gwblhau’r arolwg a gwella dibynadwyedd y data a gesglir. Cyn belled ag y bo modd, mae cysondeb â’r wybodaeth a oedd yn cael ei chasglu’n flaenorol. Ond, mae cwestiynau newydd yn casglu gwybodaeth am deithiau y tu allan i’r DU, gwybodaeth fanylach am y gweithgareddau sy’n cael eu gwneud, gwybodaeth fanylach am ddulliau archebu ac amserlenni a gwybodaeth well am broffiliau ymatebwyr gan gynnwys nodweddion gwarchodedig.
Ceir rhestr o’r wybodaeth a gesglir yn atodiad A.
Amcangyfrif a phwysoli
Mae ansawdd y data a gesglir drwy’r arolwg yn cael ei sicrhau wrth brosesu er mwyn tynnu cofnodion annilys a chywiro unrhyw ddata sydd ar goll, data anghyflawn neu allanolion. Cyflwynwyd cynllun pwysoli diwygiedig i wella effeithlonrwydd, gan sicrhau bod y canlyniadau mor gynrychiadol â phosibl o boblogaeth Prydain Fawr. Fodd bynnag, mae defnyddio sampl ar-lein heb fod ar sail tebygolrwydd yn cyfyngu i ba raddau y mae’r ymatebion i’r arolwg yn wirioneddol gynrychioli poblogaeth gyfan Prydain Fawr, sy’n gyfyngiad ar bob arolwg sampl ar-lein.
Sicrhau ansawdd
O ystyried y newidiadau i’r arolygon, mae’r noddwyr wedi gofyn am adolygiad annibynnol gan Wasanaeth Dulliau a Chynghori y Swyddfa Ystadegau Gwladol, a oedd yn edrych yn fanwl ar ddull yr arolwg newydd, dyluniad y sampl a’r dull amcangyfrif a phwysoli.
Roedd y prif argymhellion yn awgrymu rhagor o ddadansoddi er mwyn: cefnogi’r dulliau pwysoli ac amcangyfrif, gwirio am ragfarn bosibl yn y ffynonellau sampl ac egluro i ddefnyddwyr beth yw effaith y newidiadau i ddulliau’r arolwg a chyfyngiadau’r data sy’n deillio o hynny. Mae’r gwaith hwn yn parhau ond disgwylir iddo gael ei gwblhau cyn diwedd 2021.
Adrodd
Roedd COVID-19 wedi arwain at ohirio dechrau’r arolwg newydd yn 2020, ond casglwyd data rhwng mis Gorffennaf a mis Rhagfyr 2020. Cafwyd bwlch arall yn y broses o gasglu data rhwng mis Ionawr a mis Mawrth 2021 oherwydd cyfyngiadau COVID-19 ar lefel genedlaethol. Ond, mae’r gwaith o gasglu data wedi ailddechrau’n llwyr ers mis Ebrill 2021.
Gan mai ychydig iawn o ddata sydd ar gael ar gyfer 2020, rydym yn cynnig trin y cyfnod fel treial ac rydym yn ystyried pa ddata y gellid eu cyhoeddi sy’n ddefnyddiol, os o gwbl. Bydd yr adroddiad llawn ar ganfyddiadau’r arolwg newydd yn seiliedig ar ddata a gasglwyd o fis Ebrill 2021 ymlaen.
Mae'r adroddiad hwn wedi dirwyn i ben a bydd data yn y dyfodol yn cael eu hadrodd fel rhan o gyfres gyfunol o'r enw 'Ystadegau twristiaeth Prydain Fawr'. Bydd data ar gyfer ymweliadau dros nos yn 2021 yn cael eu cyhoeddi ym mis Hydref 2022 a bydd data ymweliadau dydd 2021 yn cael eu cyhoeddi ym mis Rhagfyr 2022.
Mae'r newid hwn o ganlyniad i gyfuniad o newid methodolegol cynlluniedig a’r amharu a fu ar gasglu data a achoswyd gan gyfyngiadau teithio sy'n gysylltiedig â COVID-19.
Rydym yn cynhyrchu set newydd a gwell o amcanion adrodd, gan gynnwys adroddiadau misol a blynyddol gwell i’w cyhoeddi gan y cyrff noddi a dangosydd data newydd i alluogi defnyddwyr i ddadansoddi’r data eu hunain.
Cymaroldeb
Mae’r newidiadau sylweddol i ddull yr arolwg a’r wybodaeth sy’n cael ei chasglu o’r arolygon yn debygol o arwain at newid sylweddol yn y mesurau teithio a gwariant a gofnodwyd. Hefyd, mae unrhyw newidiadau mewn ymddygiad o ran teithio o ganlyniad i COVID-19 yn effeithio ymhellach ar hyn. Bydd hyn yn cyfyngu ar ein gallu i gymharu canlyniadau’r arolwg newydd â data GBTS a GBDVS a gofnodwyd ar gyfer 2019 a’r blynyddoedd sydd i ddod. Felly, rydym yn argymell mai 2021 yw dechrau cyfres newydd o dueddiadau. Fodd bynnag, bydd adroddiadau a data ar gyfer yr arolygon cyn 2019 yn parhau i fod ar gael drwy wefannau noddwyr yr arolwg. Byddwn hefyd yn ystyried a oes modd ailgalibradu canlyniadau’r arolwg newydd gyda’r arolwg blaenorol.
Dynodiad
Mae’r ystadegau GBTS a GBDVS a gyhoeddwyd yn flaenorol wedi’u dynodi’n Ystadegau Swyddogol, sy’n adlewyrchu eu pwysigrwydd i ddefnyddwyr ac ansawdd y dulliau a’r allbynnau. Oherwydd y newidiadau sylweddol i’r ystadegau, byddant yn cael eu dynodi’n Ystadegau Arbrofol er mwyn gallu datblygu arolygon ymhellach, sicrhau ansawdd a sicrhau bod amcanion yr arolwg newydd yn diwallu anghenion defnyddwyr. Mae hon yn weithdrefn safonol ar gyfer unrhyw newid mewn Ystadegau Swyddogol a’r nod yw dychwelyd at ddynodiad Ystadegau Swyddogol o fewn dwy flynedd.
Rhagor o wybodaeth
Arolwg Twristiaeth Prydain Fawr
Arolwg Ymweliadau Undydd Prydain Fawr
Ochr yn ochr â’r amcanion adrodd newydd, bydd noddwyr yr arolwg yn cyhoeddi Adroddiadau Ansawdd Cefndirol ar gyfer yr arolygon newydd, gan nodi rhagor o fanylion am ddulliau’r arolwg, gweithdrefnau sicrhau ansawdd a chanllawiau i ddefnyddwyr yr arolygon.
Yn y cyfamser, i gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â:
David Stephens
Uwch-reolwr Ymchwil a Deall
Croeso Cymru
E-bost: ymchwiltwristiaeth@llyw.cymru
Atodiad 1: cwestiynau'r arolwg
Arolwg Twristiaeth Prydain Fawr
- Teithiau dros y 4 wythnos diwethaf ym Mhrydain Fawr
- Pa mor rheolaidd aed ar y daith
- Diben y daith
- Cyfnod aros
- Y math o leoliad yr arhoswyd yno
- Math o lety
- Cyfuniad a maint y parti
- Namau ar unigolion yn y parti a oedd yn teithio
- Cludiant i’r gyrchfan ac o amgylch y gyrchfan
- Gweithgareddau manwl a gyflawnwyd
- Pwysigrwydd gweithgaredd wrth benderfynu ar y daith
- A oedd yn rhan o daith pecyn
- Faint ymlaen llaw archebwyd y daith
- Sianel archebu
- Dadansoddiad o’r gwariant fesul categori
Arolwg Ymweliadau Undydd Prydain Fawr
- Cymryd rhan mewn gweithgareddau hamdden yr wythnos diwethaf
- Pa mor rheolaidd aed ar y daith undydd
- Teithiau undydd sy'n cynnwys gweithgareddau penodedig
- Am ba hyd wnaeth y teithiau barhau – gan gynnwys/heb gynnwys amser teithio
- Y math o leoliad yr ymwelwyd ag ef
- O ble ddechreuodd y daith ee, o’r cartref
- Cyfuniad a maint y parti
- Namau ar unigolion yn y parti a oedd yn teithio
- Y prif gludiant a ddefnyddiwyd
- Gweithgareddau manwl a gyflawnwyd
- Amser a dreuliwyd yn teithio yn ystod y daith
- Dadansoddiad o’r gwariant fesul categori
Demograffeg
- Rhywedd
- Rhanbarth preswylio
- Oedran
- Lefel galwedigaeth
- Plant ar yr aelwyd
- Statws priodasol
- Perchnogaeth car
- Amser a dreulir ar-lein
- Cyrhaeddiad addysgol
Grwpiau gwarchodedig
- Grŵp ethnig
- Namau/cyflyrau iechyd
- Cyfeiriadedd rhywiol
Teithio allan
Teithiau y tu allan i’r DU yn ystod y 4 wythnos diwethaf yn ôl diben yr ymweliad