Y Panel Adolygu Ffyrdd cyfarfod: 30 Medi 2021
Chrynodeb o drafodaeth y cyfarfod.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
Yn bresennol
Cadeirydd: Lynn Sloman (LS)
Llywodraeth Cymru: Rob Kent-Smith (RKS), Matt Jones (MJ)
Trafnidiaeth Cymru: Natasha McCarthy (NMC)
Cymorth Technegol (Arcadis): Janice Hughes (JHU), Matt Fry (MF).
Aelodau’r Panel:
- Julie Hunt (JH)
- Glenn Lyons (GL)
- Geoff Ogden (GO)
- John Parkin (JP)
- Andrew Potter (AP)
- Helen Pye (HP)
- Eurgain Powell (EP).
Ymddiheuriadau:
- Llywodraeth Cymru: Scott Walters (SW)
Cyflwyniad
Agorodd y Cadeirydd y cyfarfod. Cynhaliwyd trafodaeth â’r Panel Adolygu Ffyrdd i gytuno ar gofnodion Cyfarfod cyntaf y Panel Adolygu Ffyrdd.
Polisïau a phrosesu gwerthuso gresennol ac arfaethedig Llywodraeth Cymru
Bu trafodaeth o dan arweiniad yr Ysgrifenyddiaeth ynghylch polisïau a phrosesau gwerthuso presennol ac arfaethedig Llywodraeth Cymru a oedd yn cynnwys:
- Arolygiad WelTAG sy’n cael ei arwain gan Lywodraeth Cymru ar hyn o bryd.
- Amcanion a meini prawf newydd arfaethedig ar gyfer buddsoddi gan Lywodraeth Cymru yn y ‘Metros’ (h.y. buddsoddi mewn seilwaith trafnidiaeth rhanbarthol yn y De-ddwyrain, y Gorllewin a’r Gogledd.
- Sefyllfa Cymru o ran Sero-net, gan gynnwys y blaenoriaethau disgwyliedig.
- Llwybr Newydd, Strategaeth Drafnidiaeth Cymru.
- Gweithredu terfyn cyflymder diofyn o 20mya
Data ar gynlluniau unigol
Rhoddodd yr Ysgrifenyddiaeth ddiweddariad ar y gwaith o goladu a dosbarthu gwybodaeth mewn perthynas â chynlluniau sydd o fewn y cwmpas y cytunwyd arno ar gyfer yr Adolygiad o Ffyrdd.
Trafododd y Panel y gofynion data llinell sylfaen ar gyfer cynlluniau sydd o fewn cwmpas yr adolygiad. Bydd yr Ysgrifenyddiaeth yn parhau i arwain y gwaith o gasglu’r data.
Trafodaeth ynghylch y cynlluniau sydd o fewn y cwmpas
Rhoddodd yr Ysgrifenyddiaeth ddiweddariad llafar ynghylch ymateb Llywodraeth Cymru i gais y Panel i ehangu cwmpas yr adolygiad mewn rhai ardaloedd.
Rhoddodd yr Ysgrifenyddiaeth eglurhad ynghylch statws presennol yr A40 rhwng Llanddewi Felffre a Redstone Cross a’i haddasrwydd i gael ei hystyried o fewn cwmpas yr Adolygiad o Ffyrdd, yn dilyn cysylltiadau a wnaed gyda’r Panel a’r Cadeirydd.
Trafodaethau â rhanddeiliad
Rhoddodd yr Ysgrifenyddiaeth ddiweddariad ar y gwaith o fapio rhanddeiliad a gynhaliwyd hyd yn hyn, a gwnaethant drafod cynlluniau cychwynnol ar gyfer trafod â rhanddeiliaid.
Mae cynlluniau ar gyfer trafod â rhanddeiliaid yn ystod y misoedd nesaf yn cynnwys mapio sefydliadau allweddol, trafod â hyrwyddwyr cynlluniau ac ymweld â safleoedd lle mae hynny’n ymarferol. Nododd y Cadeirydd y byddai ymweld â’r safle yn Llanbedr o werth penodol wrth ystyried a ddylid cymeradwyo’r cynllun.
Datblygu’r meini prawf ar gyfer asesiad adolygu ffyrdd
Bu trafodaeth am y drafft cyntaf o’r meini prawf ar gyfer yr asesiad adolygu ffyrdd. Roedd y dull wedi cael ei strwythuro i ddod â blaenoriaethau Strategaeth Trafnidiaeth Cymru a phroses WelTAG at ei gilydd.
Adolygiad cyflym o gynllun Llanbedr
Rhoddodd y Gadeirydd ddiweddariad ar gynnydd yr adolygiad cyflym o Gynllun Mynediad yr A496.
Ni chymerodd Helen Pye ran yn y drafodaeth ynghylch Llanbedr oherwydd gwrthdaro rhwng y mater hwn a’i rôl gyda Pharc Cenedlaethol Eryri.
Y cyfarfod nesaf
Cynhelir y cyfarfod nesaf ar 20 Hydref.