Eluned Morgan, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
Heddiw, rwy’n cyhoeddi ein diweddariad diweddaraf ynghylch y rhaglen frechu COVID-19. Mae’n bleser gennyf gadarnhau bod ein hymgyrch pigiadau atgyfnerthu nawr ar y gweill i ddiogelu’r bobl fwyaf agored i niwed, ochr yn ochr â’r brechlynnau cyntaf ar gyfer unigolion 12-15 oed. Mae rhai o’r unigolion 12 i 15 oed sydd fwyaf agored i niwed eisoes wedi dechrau cael y brechlyn a bydd pob bwrdd iechyd wedi dechrau cyflwyno’r rhaglen yn eu hardaloedd yr wythnos hon. Bydd pob unigolyn 12 i 15 oed yn cael gwahoddiad drwy lythyr i gael y brechlyn a bydd y rhan fwyaf yn cael apwyntiadau mewn canolfannau brechu torfol. Ein nod yw rhoi’r brechlyn i bob unigolyn 12-15 oed erbyn diwedd hanner tymor mis Hydref.
Rwy’n ymwybodol bod rhai pobl yn ardal Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda wedi derbyn llythyrau yn ddiweddar gydag apwyntiad ar gyfer cael y brechlyn atgyfnerthu COVID-19 a'r dos cyntaf o’r brechlyn i bobl ifanc 12-15 oed. Roedd y llythyrau hynny yn gofyn iddynt fynd i ganolfan frechu sydd y tu allan i’w hardal leol eu hunain. Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda wedi cadarnhau, ar yr amod eich bod wedi derbyn llythyr apwyntiad, y gallwch fynd i’ch canolfan frechu agosaf ar adeg sy'n gyfleus i chi, hyd yn oed os nad y ganolfan honno o reidrwydd fydd wedi ei henwi yn eich llythyr.
Bydd ein Gwasanaeth Iechyd Gwladol yn gweithio’n galed bob amser i sicrhau nad oes neb yn cael ei adael ar ôl, a chynnig y brechlyn unwaith eto i’r rheini nad ydynt wedi’i gael. Mae rhaglen frechu COVID-19 ar agor ac mae ar gael i bawb yng Nghymru sy’n 12 oed a hŷn. Y brechlyn yw ein gobaith gorau o ddiogelu rhag coronafeirws.