Daeth yr ymgynghoriad i ben 31 Rhagfyr 2021.
Manylion am y canlyniad
Crynodeb o'r ymatebion , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 452 KB
Ymgynghoriad gwreiddiol
Rydym yn gofyn am eich barn ar y cynnig i ddiweddaru'r trothwyon enillion ar gyfer Gorchmynion Atafaelu Enillion fel eu bod yn cyd-fynd â’r lefelau incwm presennol.
Disgrifiad o'r ymgynghoriad
Mae awdurdodau lleol yn defnyddio Gorchmynion Atafaelu Enillion i gasglu treth gyngor sydd heb ei thalu.
Rydym yn cynnig diweddaru’r trothwyon enillion ar gyfer Gorchmynion Atafaelu Enillion. Bydd hyn yn sicrhau bod lefel yr enillion sy’n cael eu hystyried at ddibenion y dreth gyngor yn adlewyrchu’r lefelau incwm cyfredol.