Neidio i'r prif gynnwy
Ardduniadol

Rydym wedi adeiladu rhan newydd o'r A487 i'r gogledd o Fachynlleth, gan gynnwys pont newydd ar draws Afon Dyfi.

Statws:
Wedi ei gwblhau
Rhanbarth / Sir:
Powys
Dyddiad dechrau:
gwanwyn 2021
Dyddiad gorffen:
Ionawr 2024
Cost:
£46 miliwn (mae costau’n cael eu hadolygu yng ngoleuni pwysau chwyddiant)
Cyhoeddwyd gyntaf:
31 Gorffennaf 2018
Diweddarwyd ddiwethaf:

Trosolwg

Pam aethom ni ati

Mae pont Pont-ar-Ddyfi dros 200 mlwydd oed, ac nid oedd wedi'i chynllunio i gario'r traffig presennol. Roedd y ffordd ar gau yn aml oherwydd llifogydd cyson, gan orfodi gyrwyr i fynd ar ffordd osgoi am hyd at 30 milltir.

Roedden ni eisiau:

  • ei gwneud hi'n haws croesi Afon Dyfi
  • ei gwneud yn haws i gael swyddi, gofal iechyd ac addysg
  • sicrhau bod pobl yn dal i allu cyrraedd Machynlleth hyd yn oed pan fydd glaw trwm a llifogydd
  • gwneud yr A487 yn fwy diogel
  • helpu i atal llifogydd
  • ei gwneud hi'n haws i bobl gerdded, beicio ac olwynio ar draws y bont.

Beth wnaethom ni

Fe wnaethom adeiladu ffordd gerbydau sengl newydd 1.2km gan ymuno â'r A487 presennol i'r de-ddwyrain o bont Pont-ar-Ddyfi.

Mae'r ffordd newydd yn croesi Afon Dyfi tua 480m i fyny'r afon o'r bont bresennol. 

Nid yw'r A487 presennol i'r de o bont Pont-ar-Ddyfi bellach yn ffordd Llywodraeth Cymru a bydd yn cael ei chynnal gan awdurdodau lleol.

Dechreuodd y gwaith adeiladu yng ngwanwyn 2021, a daeth i ben ym mis Chwefror 2024. 

Roedd y gwaith yn cynnwys:

  • ffordd gerbydau sengl 1.2km gan ddechrau ar ymyl ogleddol Machynlleth, gan groesi gorlifdir Afon Dyfi, ac ail-ymuno â'r A487 i'r de
  • llwybr teithio llesol defnydd a rennir 2.5m o led dros Bont Newydd Dyfi i annog cerdded, beicio ac olwynio dros y bont newydd 
  • bwndiau llifogydd i amddiffyn Parc Eco Dyfi a'r ffordd o dan y rheilffordd
  • cyfleusterau pwmpio dŵr wyneb brys a fydd yn cyfyngu ar lifogydd o dan y rheilffordd a Bythynnod Dyfi
  • gwaith tirlunio, plannu coed a dychwelyd y tir o dan y draphont yn gaeau gwyrdd
  • paratoadau i gyfeirio gwasanaeth cyfleustodau (e.e. nwy, dŵr, trydan, band eang / llinellau ffôn ac ati)
  • pob elfen strwythur concrit a gwaith dur y bont
  • cwblhau gwaith gwella draenio o flaen Bythynnod Dyfi
  • gwaith cynnal a chadw ar yr hen ffordd cyn iddi gael ei throsglwyddo i ofal awdurdod lleol.

Fideo awyrol o'r gwaith ar bont Ddyfi newydd:

Cyhoeddiadau

Adroddiadau, datganiadau amgylcheddol a chynlluniau

Help a chymorth

Gofyn cwestiwn ynghylch y prosiect neu adrodd am broblem

Dysgwch fwy

Os oes gennych unrhyw bryderon neu gwestiynau, cysylltwch â’r Swyddog Cysylltu â’r Cyhoedd ar 0330 041 4651. Croesawir galwadau yn Gymraeg.