Mae'r ffilmio ar gyfer trydedd gyfres His Dark Materials yn mynd rhagddo ar hyn o bryd yn Wolf Studios Wales, gyda chymorth cyllid gan Cymru Greadigol.
Gyda nifer cynyddol o gynyrchiadau teledu'n dewis cael eu lleoli yng Nghymru dros yr haf, cafodd Dawn Bowden, Dirprwy Weinidog y Celfyddydau a Chwaraeon, daith tu ôl i'r llenni yn Wolf Studios Wales yn ddiweddar. Gwelodd â’i llygaid ei hun y manteision i economi Cymru, a’r twf mewn cyflogaeth leol, y mae’r ymchwydd ym myd cynhyrchu teledu wedi’i greu i'r sector creadigol yng Nghaerdydd a thu hwnt.
Wolf Studios Wales yw un o stiwdios pwrpasol mwyaf y DU a sefydlwyd yn 2017. Mae'n bencadlys i Bad Wolf Productions yn ogystal ag yn gartref i gydgynhyrchiad BBC / HBO His Dark Materials, cyfres ddrama bancio Industry ar HBO / BBC ac A Discovery of Witches ar Sky.
Mae His Dark Materials hanner ffordd drwy’r broses gynhyrchu ar hyn o bryd ac mae'n derbyn cyllid gan Cymru Greadigol yn gyfnewid am ymrwymiad i ddarparu cyfleoedd i hyfforddeion ar ffurf lleoliadau â thâl, a rolau eraill yn y diwydiant teledu. Mae’r rhain yn cael eu tracio a'u monitro i helpu i sicrhau llwybrau gyrfaoedd i'r holl hyfforddeion yn y dyfodol a thyfu cronfa barhaol o dalent teledu sydd ei hangen yn fawr yng Nghymru.
Mae gan His Dark Materials raglen hyfforddi bwrpasol a grëwyd gan Screen Alliance Wales, sy'n darparu hyfforddiant lefel uchel i 10 o hyfforddeion â thâl yng Nghymru, ar draws ystod o ddisgyblaethau, i gryfhau a diogelu'r diwydiant yn y dyfodol.
Mae hyn yn ychwanegol at y 56 o hyfforddeion sydd eisoes wedi cael lleoliadau gwaith â thâl gyda Bad Wolf dros y pedair blynedd diwethaf, a thros 17,000 o bobl ifanc ledled Cymru sydd wedi ymweld â'r stiwdios ac wedi cymryd rhan yng nghynlluniau allgymorth Screen Alliance Wales.
Dywedodd y Dirprwy Weinidog, Dawn Bowden AS
“Rwy'n falch iawn ein bod wedi gallu cefnogi trydedd gyfres His Dark Materials. Mae bod yn gartref i gynyrchiadau ar y raddfa hon yn meithrin ein henw da yn fyd-eang fel rhanbarth sydd â’r criw, y sgiliau, y gofod stiwdio a'r lleoliadau sy'n gallu gwasanaethu cynhyrchiad ar y raddfa fawr hon, ac sy'n cyd-fynd yn glir â strategaeth hirdymor Cymru Greadigol.
“Mae'r rhaglenni hyfforddi yn ffordd o sicrhau ein bod yn meithrin y doniau a'r sgiliau y bydd eu hangen yn y dyfodol ar y sector hwn sy’n tyfu. Yr hyfforddeion ar gynhyrchiad His Dark Materials heddiw fydd y cyfarwyddwyr, y cynhyrchwyr a’r bobl greadigol ar gyfer BBC, S4C, Sky, HBO, Netflix, Amazon a Disney am flynyddoedd i ddod. Mae'n wych gweld sut y bydd His Dark Materials 3 yn parhau i adeiladu ar 6 blynedd drawiadol gyntaf Bad Wolf yng Nghymru o ran datblygu’r criw a chwmnïau’r gadwyn gyflenwi.
Dywedodd Cyd-sylfaenydd Bad Wolf, Jane Tranter:
“Mae cefnogaeth barhaus gan Cymru Greadigol yn hanfodol i feithrin y dalent ym maes cynhyrchu teledu sydd ei hangen i gadw Cymru ar flaen y gad o ran cynhyrchu teledu yn y DU. Mae'r cyfnod twf presennol ym maes cynhyrchu teledu yn dibynnu'n drwm ar allu cyflenwi criwiau ar gyfer cynyrchiadau o'r raddfa hon. Heb ymrwymiad cadarn i ddatblygu'r genhedlaeth nesaf o bobl greadigol, gallai'r cyfnod twf presennol golli ei fomentwm yn hawdd. Gyda chymorth gan Cymru Greadigol rydym wedi ymrwymo i gynlluniau talent, adeiladu cymuned greadigol a sylfaen gynhyrchu hirdymor gynaliadwy yng Nghaerdydd sy’n cynnig manteision i economi Cymru gyfan.
Bydd His Dark Materials 3 yn cael ei ryddhau ar y BBC yn y DU ac ar HBO yn rhyngwladol yn ddiweddarach yn 2022.