Cylch gorchwyl
Crynodeb o ddiben y grŵp a sut y bydd yn gweithio.
Cynnwys
Diben y Bwrdd
Bydd y Bwrdd Cynghori Cenedlaethol ar Roi Diwedd ar Ddigartrefedd yn rhoi cyngor i'r Gweinidog Newid Hinsawdd ar ddatblygu polisi mewn perthynas â'r sector Atal Digartrefedd a Chymorth Tai.
Prif ddiben y Bwrdd fydd rhoi cyngor arbenigol a thraws-sector i'r Gweinidog ar effeithiolrwydd yr ymateb polisi traws-lywodraethol o ran atal a mynd i'r afael â digartrefedd a darparu atebion effeithiol ynghylch cymorth tai.
Bydd y Bwrdd yn goruchwylio ac yn llywio'r gwaith o ddatblygu, cyflawni a rhoi ar waith y cynllun gweithredu sy'n deillio o'r argymhellion a wnaed gan y Grŵp Gweithredu ar Ddigartrefedd a bydd yn sicrhau bod yr agenda trawsnewid yn symud ymlaen mewn da bryd, fel y nodir yn strategaeth Llywodraeth Cymru ar gyfer atal a chael gwared ar ddigartrefedd.
Swyddogaeth y Bwrdd
Swyddogaeth y Bwrdd fydd:
- cynghori'r Gweinidog ar y cyfeiriad strategol ar gyfer datblygu polisi i atal a mynd i'r afael â digartrefedd a darparu atebion effeithiol ynghylch cymorth tai;
- cynghori'r Gweinidog ar farn y sector ynghylch effeithiolrwydd cyllid grant sy'n gysylltiedig ag atal digartrefedd yng nghyd-destun cyflawni eu hamcanion. Mae hyn yn cynnwys y Grant Cymorth Tai a'r Grant Atal Digartrefedd;
- datblygu mecanweithiau i allu gwrando ar farn a phrofiadau pobl sy'n defnyddio gwasanaethau cymorth tai, a'u defnyddio i lywio'r cyngor a ddarperir i'r Gweinidog;
- sicrhau bod cyngor yn ystyried Cynllun Gweithredu Cydraddoldebb Hiliol Llywodraeth Cymru a'i fod yn adlewyrchu natur amrywiol cymdeithas ac yn mynd i'r afael â'r anghydraddoldebau y mae rhai grwpiau yn eu hwynebu;
- ystyried data a thystiolaeth ymchwil a meincnodi cenedlaethol a rhyngwladol perthnasol, a'u defnyddio i lywio'r cyngor a ddarperir i'r Gweinidog;
- ystyried materion traws-lywodraethol a darparu cyngor ar draws Gweinidogion, sicrhau bod cyngor polisi yn ystyried ac yn cael ei weld drwy lens iechyd y boblogaeth; a
- darparu cyngor ad hoc a chyflawni darnau penodol o waith yn unol â chais y Gweinidog.
Statws y Bwrdd
- Corff cynghori yw’r Bwrdd ac o’r herwydd rhaid iddo gael ei rwymo gan ddisgwyliadau rhesymol corff o'r fath. Mae'n bwysig cydnabod nad oes gan y Bwrdd unrhyw bwerau na swyddogaethau statudol.
- Mae'r Bwrdd yn cynghori Llywodraeth Cymru o fewn y cylch gwaith y cytunwyd arno ar ei gyfer gan y Gweinidog Newid Hinsawdd. Bydd y Bwrdd yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf o bob cyfarfod i'r Gweinidog, gan gynnwys unrhyw gyngor i'w ystyried gan y Gweinidog.
- Caiff y Bwrdd benderfynu a ddylid sefydlu is-grwpiau a chyfethol aelodau yn ôl yr amgylchiadau. Caiff ddewis ffurfio is-grwpiau i edrych ar dasgau penodol, e.e. lle mae angen ffocws arbennig o ran polisi neu gyflawni ond nad oes angen i’r Bwrdd cyfan ganolbwyntio arno, neu ar feysydd gwaith trawsbynciol. Bydd y Bwrdd, mewn cytundeb â'r Cadeirydd, yn penderfynu sut i ddyrannu gwaith a chyfrifoldebau ychwanegol yn barhaus. Bydd pob is-grŵp/grŵp gorchwyl a gorffen yn adrodd i'r Bwrdd.
Trefniadau llywodraethu
- Penodir aelodau fel cynrychiolydd eu sector penodol fel yr amlinellir yn Atodiad 1.
- Disgwylir i’r Aelodau hysbysu’r Cadeirydd pan fo gwrthdaro buddiannau posibl yn ymwneud ag eitem benodol ar yr agenda.
- Er mwyn sicrhau dilyniant, dim ond mewn amgylchiadau eithriadol y caniateir i ddirprwyon ddod i gyfarfodydd. Bydd angen i'r Cadeirydd roi caniatâd ymlaen llaw i'r Aelodau enwebu dirprwy i fod yn bresennol ar eu rhan.
- Bydd yn ofynnol i draean o aelodau’r Bwrdd fod yn bresennol i fod yn gworwm.
- Bydd aelodaeth y Bwrdd yn cael ei hadolygu'n flynyddol i sicrhau ei fod yn addas i'r diben.
- Nid oes tâl am aelodaeth. Bydd unrhyw dreuliau teithio a chynhaliaeth yr eir iddynt gan aelodau annibynnol a defnyddwyr gwasanaeth y Bwrdd yn cael eu had-dalu gan yr Is-adran Polisi Tai.
- Defnyddir fideo gynadledda a/neu gynadledda sain i hwyluso gwell presenoldeb a lleihau amser teithio. Byddwn yn sicrhau y byddwn yn cyd-fynd â gofynion Safonau'r Gymraeg ac yn sefydlu dewis iaith ar gyfer cyfrannu.
Amlder y Cyfarfodydd
Bydd y bwrdd yn cyfarfod o leiaf bedair gwaith y flwyddyn, gan gynnwys diwrnod cynllunio ar ddechrau'r flwyddyn i gytuno ar raglen waith y Bwrdd. Cynhelir cyfarfodydd ychwanegol yn ôl yr angen.
Trefniadau'r Ysgrifenyddiaeth
Bydd yr Is-adran Polisi Tai yn Llywodraeth Cymru yn darparu cymorth gweinyddol ac ysgrifenyddol i'r Bwrdd a bydd yn gweithredu fel pwynt cydgysylltu canolog ar gyfer rhaeadru a dosbarthu deunyddiau ar gyfer cyfarfodydd a dogfennau eraill. Bydd y Cadeirydd yn pennu'r agenda, gan gynnwys y papurau sy'n ofynnol, ar gyfer pob cyfarfod, gan ystyried unrhyw awgrymiadau neu geisiadau gan aelodau unigol.
Atodiad 1: Aelodaeth y Bwrdd
Grŵp/Sector a gynrychiolir |
Sefydliad |
Enw’r aelod a theitl swydd |
---|---|---|
Cadeirydd Annibynol |
Crisis |
Matt Downie, Prif Weithredwr |
Aelodau Annibynnol (x 3) |
Enwebu drwy Fynegi Diddordeb |
Richard Eynon Shubha Sangal Versha Sood |
Eiriolaeth Digartrefedd |
Shelter Cymru |
Ruth Power, Prif Swyddog Gweithredol |
Corff Cynrychioliadol ar gyfer Darparwyr Cymorth Digartrefedd a Chymorth sy'n Gysylltiedig â Thai yng Nghymru |
Cymorth Cymru |
Katie Dalton, Cyfarwyddwr |
Darparwyr Cymorth Digartrefedd y Trydydd Sector a Chymorth sy'n Gysylltiedig â Thai yng Nghymru |
Hafan Cymru |
Sian Morgan, Prif Swyddog Gweithredol |
Darparwyr Cymorth Digartrefedd y Trydydd Sector a Chymorth sy'n Gysylltiedig â Thai yng Nghymru |
Digartref |
Wendy Hughes, Prif Swyddog Gweithredol |
Hyrwyddo Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol ym maes Tai |
Tai Pawb |
Alicja Zalesinska, Cyfarwyddwr |
Corff Cynrychioliadol ar gyfer Cymdeithasau Tai a’r Sector Tai Cymdeithasol yng Nghymru |
Cartrefi Cymunedol Cymru (CCC) |
Clarissa Corbisiero, Dirprwy Brif Weithredwr a Chyfarwyddwr Polisi a Materion Allanol |
Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig |
Clwyd Alyn |
Clare Budden, Prif Weithredwr |
Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig |
Wales a West |
Shayne Hembrow, Dirprwy Brif Weithredwr |
Y Sector Rhentu Preifat |
NRLA Cymru |
Douglas Haig, Cyfarwyddwr |
Defnyddwyr Gwasanaethau (x2) |
I’w cadarnhau. Cymorth Cymru i ddarparu cynrychiolydd |
I’w cadarnhau |
Corff Cynrychiolwyr Llywodraeth Leol yng Nghymru |
CLlLC |
Naomi Alleyne, Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol a Thai |
Comisiynydd Llywodraeth Leol |
Arweinyddiaeth Tai Cymru |
Sam Parry, Cadeirydd |
Comisiynydd Llywodraeth Leol
|
Cyngor Sir y Fflint
Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
|
Martin Cooil, Rheolwr Tai a’r Gwasanaethau Atal
Arweinydd Cefnogi Tai a Gosod Adeiladau Lleol |
Y Comisiynydd Iechyd |
Bwrdd Cynllunio Ardal Caerdydd a’r Fro |
Fiona Kinghorn, Cadeirydd |
Cyfiawnder Troseddol – Rheoli Troseddwyr |
Gwasanaeth Carchardai a Phrawf Ei Mawrhydi |
Chris Jennings, Cyfarwyddwr Gweithredol |
Cyfiawnder Troseddol – yr Heddlu (ee Diogelwch Cymunedol) |
Heddlu Gwent |
Prif Gwnstabl Pam Kelly |
Gwasanaeth Ieuenctid
|
Cyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent a Grŵp Prif Swyddogion Ieuenctid |
Joanne Sims, Rheolwr Gwasanaeth – Pobl Ifanc a Phartneriaethau |
Gwasanaethau Cymdeithasol |
Cymdeithas Cyfarwyddwyr Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru |
Jonathan Griffiths, Llywydd |
Iechyd y Cyhoedd |
Iechyd Cyhoeddus Cymru |
Josie Smith, Pennaeth y Rhaglen Camddefnyddio Sylweddau |