Yn y canllaw hwn
1. Crynodeb
Mae'r Gronfa Cymorth Dewisol yn cynnig dau grant gwahanol nad oes angen i chi eu talu yn ôl.
Taliadau Cymorth mewn Argyfwng (EAP)
Grant i helpu â chostau hanfodol, megis bwyd, nwy, trydan, dillad neu deithio mewn achos o argyfwng os ydych:
- yn wynebu caledi ariannol difrifol
- wedi colli eich swydd
- wedi gwneud cais am fudd-daliadau ac yn aros am eich taliad cyntaf
Ni allwch ei ddefnyddio i dalu biliau parhaus nad ydych yn gallu fforddio eu talu.
Taliadau Cymorth i Unigolion (IAP)
Grant i’ch helpu chi, neu rywun yr ydych yn rhoi gofal iddo, i fyw'n annibynnol yn ei gartref neu eiddo yr ydych chi neu'r unigolyn yn symud iddo.
Beth y gallwch ddefnyddio'r grant ar ei gyfer
Bydd y grant yn darparu:
- oergell, peiriant golchi a 'nwyddau gwyn' eraill
- dodrefn i'r cartref megis gwelyau, soffas a chadeiriau