Eluned Morgan AS, Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
Mae cyflenwi a dosbarthu Cyfarpar Diogelu Personol o ansawdd uchel i weithwyr iechyd a gofal cymdeithasol rheng flaen yn parhau’n rhan gwbl hanfodol o’n hymateb i’r pandemig COVID-19.
Mae’r datganiad hwn yn nodi carreg filltir arwyddocaol yn ymdrechion Partneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru a Llywodraeth Cymru, gan fod dros un biliwn o eitemau o Gyfarpar Diogelu Personol bellach wedi cael eu dosbarthu ar draws gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol ers mis Mawrth 2020.
Wrth inni gynllunio ar gyfer y gaeaf, ac wrth i COVID-19 barhau i roi pwysau ar ein systemau iechyd a gofal cymdeithasol, gall ein cydweithwyr mewn iechyd a gofal cymdeithasol hyderu yn y ffaith y bydd y sefyllfa yn dal yn sefydlog o ran darparu Cyfarpar Diogelu Personol. Drwy gydol y gaeaf, bydd Partneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru yn cynnal cyflenwad wrth gefn o Gyfarpar Diogelu Personol sy’n ddigon i bara dim llai nag 16 o wythnosau, yn seiliedig ar y cyfraddau cyflenwi yr oedd angen eu cynnal pan oedd y pandemig yn ei anterth.
Hefyd gellir rhoi sicrwydd i bobl Cymru, a’n cydweithwyr yn y sectorau iechyd a gofal cymdeithasol, y byddwn yn cynnal lefel y cymorth gyda’r cyfarpar hwn. Mae’r Rhaglen Lywodraethu yn golygu ein bod wedi ymrwymo i barhau i ddarparu’r cyfarpar am ddim i weithwyr iechyd a gofal cymdeithasol cyhyd ag y bo angen gwneud hynny mewn ymateb i’r pandemig. Wrth gyflawni’r ymrwymiad, rydym eisoes wedi ymestyn y cytundeb lefel gwasanaeth, a bydd Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru yn hwyluso’r cyflenwad o Gyfarpar Diogelu Personol i’r sector gofal cymdeithasol hyd at fis Mawrth 2022. Bydd y trefniadau hyn, a’r trefniadau i gyflenwi’r cyfarpar am ddim i wasanaethau Gofal Sylfaenol yn ehangach, yn cael eu hadolygu’n barhaus.
Hefyd mae swyddogion Llywodraeth Cymru yn parhau i weithio’n agos gydag Iechyd Cyhoeddus Cymru i fonitro ac adolygu’r canllawiau ar gyfer Atal a Rheoli Heintiau a sicrhau bod Cyfarpar Diogelu Personol yn cael ei ddefnyddio’n briodol mewn lleoliadau iechyd a gofal cymdeithasol.
Rhoddir gwybod am unrhyw ddiweddariadau a diwygiadau a wneir i’r canllawiau, cyn gynted â phosibl drwy ein rhwydweithiau priodol. Fodd bynnag, rydym yn annog gweithwyr iechyd proffesiynol i sicrhau eu bod yn ymwybodol o’r canllawiau diweddaraf, a’u bod yn gyfarwydd â nhw. Mae’r canllawiau ar gael yn Canllawiau Iechyd Cyhoeddus Cymru i weithwyr proffesiynol iechyd a gofal cymdeithasol | LLYW.CYMRU