Datganiad Llywodraeth Cymru ar Ddata Perfformiad a Gweithgarwch diweddaraf GIG Cymru a gyhoeddwyd heddiw.
"Er gwaethaf pwysau cynyddol yn ystod lefelau digynsail o alw a gweithgarwch, mae ein staff GIG gweithgar yn parhau i ddarparu lefelau uchel o ofal wrth drin cleifion yn ystod y pandemig.
"Mae lefelau gweithgarwch mewn gwasanaethau canser yn parhau i fod yn uchel gyda'r nifer uchaf ond un o gleifion yn cael gwybod nad oedd ganddynt ganser a'r trydydd nifer uchaf o gleifion sydd newydd gael diagnosis o ganser yn dechrau eu triniaeth ddiffiniol gyntaf.
"Mae amseroedd aros yn parhau'n uwch na’r lefelau cyn y pandemig ac mae amseroedd ymateb ambiwlansys yn parhau i fod yn is na'r lefelau targed. Fodd bynnag, er bod nifer y cleifion sy'n aros mwy na 36 wythnos yn parhau i fod yn uwch nag erioed, roedd canran uwch o gleifion yn aros llai na 26 wythnos ac roedd yr amser aros cyfartalog (canolrifol) ar gyfer triniaeth wedi gostwng ychydig o'i gymharu â'r mis blaenorol.
"Heddiw, fe wnaethon ni gyhoeddi cynlluniau i fuddsoddi bron i £25m mewn hyd at bedwar sganiwr PET-CT newydd ar draws Cymru i wella mynediad i'r dechnoleg ddiagnostig arloesol hon.
"Bydd sganwyr Tomograffeg Allyriant Positron a Tomograffeg Gyfrifiadurol newydd, a fydd wedi'u lleoli yng Nghaerdydd, Gogledd Cymru ac Abertawe, yn darparu capasiti ychwanegol y mae dirfawr ei angen i ateb y galw yn y degawd i ddod. Bydd hyn yn ei dro yn helpu i leihau amseroedd aros ac yn fwy cyfleus i gleifion.
"Rydym hefyd wedi rhoi £240m yn ychwanegol i'r GIG yn ddiweddar i gefnogi cynlluniau i adfer o bandemig Covid a lleihau amseroedd aros.
"Mae'r pwysau ar ein gwasanaethau brys yn parhau i fod yn uchel. Roedd nifer y derbyniadau i holl adrannau brys GIG Cymru a nifer cyfartalog y derbyniadau i adrannau achosion brys y dydd ym mis Awst 2021 ychydig yn is na'r mis blaenorol, ond roeddent yn dal yn uwch na'r llynedd.
"Roedd mwy o alwadau ambiwlans brys ym mis Awst 2021 nag mewn unrhyw fis Awst arall ers i ddata tebyg gael ei gasglu gyntaf ym mis Hydref 2015. Cyfran yr holl alwadau lle’r oedd bywyd yn y fantol (galwadau coch) oedd yr ail uchaf hefyd ers i arferion ateb galwadau gael eu diweddaru ym mis Mai 2019.
"Rydym wedi sicrhau bod £25m o gyllid ar gael i wella'r modd y darperir gwasanaethau gofal brys a gofal argyfwng. Mae gan y Pwyllgor Gwasanaethau Ambiwlans Brys hefyd gynllun cyflawni gweithredol gyda chamau i helpu i reoli’r galw am y gwasanaeth 999 yn y gymuned, cynyddu capasiti, gwella ymatebolrwydd, a gwella’r broses a ddefnyddir gan y criwiau ambiwlans i drosglwyddo claf. Mae cynlluniau hefyd i wella llif cleifion drwy system yr ysbyty ac allan i'r gymuned.
"Rydym yn annog pobl i ystyried yr opsiynau gorau o ran gofal, ac nid o reidrwydd fynd i'w hadran argyfwng leol. I gael gofal cywir, y tro cyntaf, gall pobl hefyd ddefnyddio'r gwasanaeth ar-lein 111 a'u fferyllydd lleol lle bo hynny'n briodol.