Heddiw (dydd Mercher 22 Medi), mae’r Gweinidog Iechyd Eluned Morgan wedi amlinellu cynllun hirdymor i wella gwasanaethau strôc yng Nghymru.
Strôc yw'r pedwerydd prif achos marwolaeth yng Nghymru ac mae'n gallu cael effaith hirdymor sylweddol ar oroeswyr strôc. Ar hyn o bryd, mae tua 70,000 o oroeswyr strôc yn byw yng Nghymru, ac amcangyfrifir bod 7,400 o bobl yn cael strôc bob blwyddyn.
Mae’r datganiad ansawdd newydd ar gyfer strôc yn gosod gweledigaeth ar gyfer gwasanaethau strôc yng Nghymru yn y dyfodol. Cafodd ei ddatblygu gyda’r Grŵp Gweithredu ar gyfer Strôc, sy’n rhoi arweiniad i’r Llywodraeth, a gyda rhanddeiliaid allweddol, gan gynnwys y Gymdeithas Strôc yng Nghymru.
Mae’n amlinellu sut y bydd gwasanaethau’n newid i wella ansawdd y gofal a lleihau amrywiadau ledled Cymru. Er enghraifft, drwy fuddsoddi mewn deallusrwydd artiffisial gallwn helpu i gefnogi diagnosis o strôc, gan felly wella gofal cleifion a sicrhau canlyniadau gwell.
Y camau nesaf fydd llunio cynllun cyflawni a bydd Dr Shakeel Ahmad, arweinydd clinigol cenedlaethol Cymru ar gyfer strôc, yn goruchwylio’r gwaith hwnnw.
Bydd Dr Ahmad hefyd yn cefnogi byrddau iechyd i ddatblygu rhwydwaith o ganolfannau strôc cynhwysfawr sy'n gweithio ar draws ffiniau i wella gofal o driniaeth acíwt i gymorth adsefydlu.
Mae gweithio gyda sefydliadau a grwpiau perthnasol yn rhan hollbwysig o’r cynllun newydd i fynd i’r afael â meysydd megis iechyd y cyhoedd, atal, adsefydlu, gofal i’r rhai sy’n ddifrifol wael neu ar ddiwedd oes, yn ogystal â chydweithio â gwasanaethau cyflyrau eraill megis cardiofasgwlaidd, niwrolegol a diabetes.
Dywedodd y Gweinidog Iechyd Eluned Morgan:
Gall strôc newid bywydau pobl yn sydyn iawn, nid yn unig i’r person sydd wedi cael y strôc ond i’w deulu hefyd. Gyda'r cymorth arbenigol cywir, gall pobl wella'n dda. Fel Llywodraeth, rydym wedi ymrwymo o hyd i wella'r gefnogaeth i oroeswyr strôc a'u helpu i ailadeiladu eu bywydau.
Hoffwn ddiolch i bawb sydd wedi cyfrannu at y datganiad ansawdd. Rhaid gweithio mewn partneriaeth ym maes gofal strôc ac rwy’n falch iawn y bydd Dr Ahmad yn goruchwylio’r gwaith pwysig hwn.
Edrychaf ymlaen at weithio’n agos gyda'r holl randdeiliaid allweddol yn y blynyddoedd i ddod i gyflawni’r ymrwymiadau a nodir yn y datganiad ansawdd pwysig hwn.
Dywedodd arweinydd clinigol cenedlaethol Cymru ar gyfer strôc, Dr Shakeel Ahmad:
Mae’r Datganiad Ansawdd yn nodi gweledigaeth uchelgeisiol i ddatblygu canolfannau strôc cynhwysfawr, gyda rhwydweithiau clinigol rhanbarthol. Bydd hyn yn cryfhau gwasanaethau strôc, yn lleihau amrywiadau rhwng triniaethau ac yn cynnig mynediad prydlon at ofal arbenigol o’r ysbyty i’r gymuned.
Dywedodd Cyfarwyddwr y Gymdeithas Strôc yng Nghymru, Katie Chappelle:
Mae strôc yn digwydd yn yr ymennydd – y ganolfan reoli ar gyfer pwy ydyn ni a beth rydyn ni’n ei wneud – a gall yr effaith amrywio gan ddibynnu ar ba ran o’r ymennydd y mae’n effeithio arni. Gallai fod yn unrhyw beth, o chwalu’ch lleferydd a’ch galluoedd corfforol i effeithio ar eich emosiynau. Ond gyda thriniaeth gyflym, effeithiol a chymorth arbenigol mae’n bosib’ gwella ohono.
Dyna pam rydym yn falch iawn o weld y cynllun newydd hwn ar gyfer strôc yng Nghymru. Er bod gofal strôc wedi gwella rywfaint yn y blynyddoedd diwethaf, mae gwaith i’w wneud o hyd.
Rydym wedi ymrwymo i weithio gyda phawb sy’n ymwneud â gofal strôc yng Nghymru i sicrhau bod goroeswyr strôc yng Nghymru yn cael y driniaeth orau posib’.