The Welsh Government will invest almost £25m in up to four new PET-CT scanners across Wales to improve access to this cutting edge diagnostic technology.
Bydd Llywodraeth Cymru yn buddsoddi bron i 25m mewn hyd at bedwar sganiwr PET-CT newydd ar draws Cymru i gynyddu mynediad at dechnoleg diagnostig o’r radd flaenaf.
Bydd y sganwyr Tomograffeg Gyfrifiadurol (CT) Tomograffeg Allyriadau Positron (PET) newydd yn cael eu lleoli yng Nghaerdydd, Abertawe ac yn y Gogledd.
Bydd y cyllid yn disodli unig sganiwr analog sefydlog Cymru, yng Nghaerdydd, a bydd y ddau sganiwr analog symudol, sydd wedi’u lleoli yn y De-orllewin a’r Gogledd, yn cael eu disodli dros y pum mlynedd nesaf.
Bydd y sganwyr newydd, sy’n destun cymeradwyaeth achos busnes, yn sganwyr digidol sefydlog – byddant yn gallu gwneud mwy o sganiau, a’r rheini yn fwy manwl a dibynadwy na’r offer sydd ar gael ar hyn o bryd.
Byddant yn darparu’r capasiti ychwanegol sydd mawr ei angen er mwyn cwrdd â’r galw yn y degawd nesaf. Maes o law, bydd hyn yn lleihau amseroedd aros ac yn fwy cyfleus i gleifion.
Mae PET-CT yn ymyriad diagnostig sy’n dod yn fwyfwy pwysig mewn perthynas â chyflyrau megis canser, clefyd y galon ac anhwylderau niwrolegol. Gyda chanser, mae’r sgan yn galluogi meddygon i wneud diagnosis mwy cywir o ganser, a deall sut mae tiwmorau yn ymateb i driniaeth.
Mae’r dechneg yn cynnwys chwistrellu dos isel o olinydd ymbelydrol i’r corff sydd wedyn yn cael ei amsugno ar raddfa uwch gan diwmorau ac yn galluogi meddygon i weld lle mae’r tiwmor a sut mae’n gweithredu.
Dywedodd y Gweinidog Iechyd Eluned Morgan ei bod yn bwysig ein bod yn buddsoddi mewn offer hanfodol er mwyn helpu’r GIG i adfer ar ôl y pandemig.
Mae’n hollbwysig ein bod yn buddsoddi mewn sganwyr fel hyn i ddiwallu anghenion o ran gwasanaethau a chynyddu ein gallu i roi diagnosis, i drin ac i ofalu am y boblogaeth yng Nghymru.
Bydd y buddsoddiad hwn yn cael effaith sylweddol ar amseroedd aros, a bydd yn gwella profiad gofal y claf, gan sicrhau diagnosis cynt ac amseroedd teithio byrrach i’r rheini sy’n derbyn gofal.
Mae angen inni ddiogelu y GIG yng Nghymru ar gyfer y dyfodol, a bydd buddsoddi mewn technoleg o’r radd flaenaf fel hyn yn fanteisiol i genedlaethau’r dyfodol.
Mae’r pandemig wedi cael effaith fawr ar amseroedd aros a gofal cleifion, ond drwy fuddsoddi mewn seilwaith fel hyn, gallwn roi hwb i’r ymdrech i adfer y GIG yng Nghymru a’i wneud yn fwy gwydn, effeithlon ac effeithiol ar gyfer y dyfodol.