Mae Gweinidog yr Economi, Vaughan Gething, wedi nodi bod cymorth gan Llywodraeth Cymru yn helpu busnes ym mwrdeistref sirol Caerffili i ddiogelu ei weithrediadau at y dyfodol drwy adleoli a diogelu swyddi.
Bydd Hawker Siddeley Switchgear, sy'n cynhyrchu switsys trydanol ac offer llinell uwchben, yn defnyddio £500,000 o gyllid gan Lywodraeth Cymru i symud o'i safle presennol ym Mhontllanfraith i hen ffatri creu seddi mewnol British Airways yn y Coed-duon gerllaw.
Mae'r safle hwn yn lleoliad delfrydol ar gyfer y busnes, y mae ganddo gwsmeriaid mor amrywiol â Network Rail, Western Power Distribution, London Underground, Sydney Trains a phrosiectau metro yn Tsieina a hefyd gwsmeriaid allweddol yn y DU ac yn rhyngwladol. Bydd cyfanswm o 196 o swyddi'n cael eu diogelu yn sgil y cyllid hwn, ac ni fydd y gwaith yn tarfu bron dim ar y gweithlu.
Dywedodd Gweinidog yr Economi, Vaughan Gething:
"Mae Hawker Siddeley Switchgear yn gwmni sydd wedi hen sefydlu ac sydd wedi bod yn rhan o’r gymuned leol ers 80 mlynedd. Maent yn gyflogwr pwysig yn y rhanbarth, ac yr wyf wrth fy modd y bydd ein cefnogaeth yn eu helpu i ddiogelu eu gweithrediadau at y dyfodol ar adeg pan maent yn rhagweld twf busnes sylweddol.
"Mae'r llywodraeth hon wedi ymrwymo i gefnogi busnesau Cymru, ac wrth i ni adfer ar ôl pandemig y Coronafeirws un o'm blaenoriaethau yw rhoi hwb i economi Cymru, gan sicrhau ei bod yn sbarduno twf cynaliadwy a gwyrdd.
"Mae'r buddsoddiad hwn yn brawf pellach o hynny, ac mae disgwyl i Hawker Siddeley Switchgear chwarae rhan yn y gwaith o gyflwyno seilwaith newydd a fydd yn cymryd lle seilwaith sy’n heneiddio yn y DU a sicrhau bod y rhwydwaith yn addas ar gyfer cerbydau trydan newydd dros y blynyddoedd nesaf.
"Mae hwn yn parhau i fod yn gyfnod heriol dros ben, ond bydd y cyhoeddiad hwn yn diogelu swyddi o safon sy'n cael eu colli o ranbarth De-ddwyrain Cymru ac yn rhoi hwb hanfodol i'r economi leol."
Wrth siarad am y buddsoddiad gan Gronfa Dyfodol yr Economi, dywedodd Chris Abbott, Prif Swyddog Gweithredol Grŵp BRUSH – rhiant-gwmni Hawker Siddeley Switchgear:
"O ystyried hanes lleol balch HSS, rydym wrth ein bodd bod HSS yn symud i'w ffatri a'i safle swyddfa newydd yn y Coed-duon i'w alluogi i barhau â'i stori yng Nghymoedd Cymru. Hoffwn ddiolch i Lywodraeth Cymru am ei chefnogaeth wrth i ni edrych ymlaen at ddyfodol cyffrous wrth i ni dyfu ein busnes a thrwy hynny gefnogi marchnadoedd dosbarthu trydanol y DU a'r byd."