Lynne Neagle AS, Dirprwy Weinidog Iechyd Meddwl a Llesiant
Heddiw rwy’n cyhoeddi penderfyniad y Llywodraeth i wneud atgyfnerthu blawd ag asid ffolig yn orfodol er mwyn helpu i atal namau ar y tiwb nerfol rhag datblygu yn ystod beichiogrwydd. Cynhaliodd Llywodraeth y DU a’r gweinyddiaethau datganoledig ymgynghoriad cyhoeddus yn 2019 ynglŷn â gwneud atgyfnerthu blawd ag asid ffolig yn orfodol. Heddiw, cyhoeddir ein hymateb ar y cyd, ac rydym yn cadarnhau y byddwn yn gweithredu gofyniad i atgyfnerthu blawd gwenith nad yw’n gyflawn, sef y math a ddefnyddir gan amlaf, ac sy’n cael ei fwyta gan bawb ar un ffurf neu’i gilydd.
Mae nam ar y tiwb nerfol yn nam geni ar yr ymennydd, yr asgwrn cefn, neu linyn asgwrn y cefn, ac ymddengys fod cyfraddau’r nam yng Nghymru yn uchel o’u cymharu â llawer o fannau eraill yn Ewrop. Mae’r namau hyn yn digwydd yn ystod wythnosau cyntaf y cyfnod beichiogrwydd, yn aml cyn i’r fenyw sylweddoli ei bod yn feichiog. Y ddau gyflwr mwyaf cyffredin a achosir gan nam ar y tiwb nerfol yw spina bifida ac anenceffali. Gall y cyflyrau hyn gael effeithiau hynod ddinistriol ar unigolion a’u teuluoedd, ac mae Llywodraeth Cymru yn gwbl ymwybodol o hyn.
Mae tystiolaeth gref y gellir atal llawer o achosion o nam ar y tiwb nerfol drwy gynyddu lefel yr asid ffolig y mae menyw yn ei gael, a dyna pam y cynghorir menywod sy’n ceisio beichiogi, neu sy’n debygol o feichiogi, i gymryd atchwanegiad dyddiol o 400 microgram o asid ffolig hyd at 12fed wythnos cyfnod y beichiogrwydd. Fodd bynnag, rydym yn gwybod bod oddeutu hanner o’r menywod sy’n beichiogi heb gynllunio ar gyfer hynny. Hefyd, nid yw llawer o’r menywod sy’n cynllunio ar gyfer eu beichiogrwydd yn cymryd atchwanegiadau asid ffolig neu’n addasu eu deiet i gynyddu’r ffolad y maent yn ei gael cyn beichiogi, yn ogystal â hyd at 12fed wythnos eu beichiogrwydd. Amcangyfrifir bod 90% o fenywod 16 - 49 oed â statws ffolad is na’r lefel a argymhellir i leihau’r risg y gallai nam ar y tiwb nerfol effeithio ar eu beichiogrwydd. Dim ond ychydig o effaith a gafodd yr ymdrechion i gynyddu lefelau ffolad drwy ddarparu addysg ynghylch yr angen i gymryd atchwanegiadau asid ffolig.
Mae’r Pwyllgor Cynghori Gwyddonol ar Faetheg yn argymell y dylai atgyfnerthu blawd ag asid ffolid fod yn orfodol er mwyn gwella statws ffolad y menywod sydd yn y perygl mwyaf y gallai’r ffetws ddioddef nam ar y tiwb nerfol yn ystod eu beichiogrwydd. Mae gorfodi gofyniad atgyfnerthu wedi llwyddo i leihau’r cyfraddau o achosion o nam ar y tiwb nerfol mewn 80 o wledydd, megis Awstralia, Seland Newydd, a Chanada.
Cafwyd bron i 1,500 o ymatebion i’r ymgynghoriad, ac adroddwyd bod 2% o’r ymatebwyr yn byw yng Nghymru. O’r rhain, roedd 68% o blaid yr opsiwn yr ydym yn ei weithredu.
Rydym yn bwriadu bod yn rhan o broses o gyflwyno’r newid hwn ar draws y DU, a byddwn nawr yn dechrau cynnal trafodaethau manwl gyda rhanddeiliaid ar union fanylion y gofynion atgyfnerthu a labelu, gan gytuno ar yr amseroedd priodol ar gyfer y cyfnod sy’n arwain at ei weithredu. Er mwyn lleihau’r effeithiau ar y diwydiant cymaint â phosibl, bydd hyn yn cael ei gydgysylltu fel rhan o adolygiad ehangach o Reoliadau Bara a Blawd 1998.
Ar ôl y trafodaethau hyn, a thrwy gydgysylltu â’r adolygiad o’r Rheoliadau Bara a blawd ehangach, byddwn yn ymgynghori ar y ddeddfwriaeth ddrafft i weithredu’r polisi hwn, gan gynnwys cynnal asesiad llawn o’r effeithiau a allai ddeillio o wneud ychwanegu asid ffolig yn orfodol.