Gweithio i ni
Gwybodaeth am weithio i Penderfyniadau Cynllunio a'r Amgylchedd Cymru.
Cynnwys
Mae gennym tua 50 o staff ym mhenderfyniadau Cynllunio a'r Amgylchedd Cymru gyda chymysgedd o Arolygwyr Cynllunio a Staff Gweithredol. Mae ein staff gweithredol yn gweithio yn unrhyw un o swyddfeydd Llywodraeth Cymru ledled Cymru yn ogystal â gweithio o gartref o dan ein dull o weithio hybrid hyblyg. Mae ein Arolygwyr Cynllunio yn gweithio o gartref.
Arolygwyr cynllunio
Mae ein Harolygwyr Cynllunio yn ymdrin ag ystod eang o waith achos sy'n ymwneud â datblygu a defnyddio tir ar ran Gweinidogion Cymru. Mae'r rhain yn cynnwys:
- Apeliadau cynllunio a gorfodi,
- Ceisiadau ar gyfer Datblygiadau o Arwyddocâd Cenedlaethol (DAC),
- Archwilio Cynlluniau Datblygu Strategol a Lleol,
- Ceisiadau cynllunio sy’n cael eu galw i mewn i’w penderfynu gan Weinidogion Cymru ac
- Apeliadau Trwyddedu amgylcheddol a caniatad amgylcheddol arbenigol eraill
Mae rhagor o wybodaeth am rôl Arolygydd Cynllunio a gweithio i PCAC ar gael yn ein Pecyn recriwtio Arolygydd Cynllunio
Staff gweinyddol
Mae ein staff gweithredol yn cyflawni ystod eang o swyddogaethau i gefnogi rheolaeth effeithiol o'n holl waith achos cynllunio ac amgylcheddol. Mae hyn yn cynnwys:
- helpu'r cyhoedd a rhanddeiliaid eraill sy'n ymwneud â'n gwaith,
- gweinyddu gwaith achos
- trefnu gwrandawiadau,
- Ymchwiliadau
- Ymweliadau safle a
- Darparu cefnogaeth uniongyrchol i arolygwyr.
Maent hefyd yn darparu swyddogaethau cymorth hanfodol fel gwasanaethau digidol ac ariannol.
Swyddi gwag
Mae ein swyddi gwag presennol i'w gweld ar wefan Civil Service Jobs.