Bydd cyffordd Ysbyty’r Tywysog Siarl yn darparu mynediad i Ysbyty’r Tywysog Siarl, ffordd gylchol Gurnos a Heol Bryniau.
Beth ydyn ni'n ei wneud
- adeiladu wal gynnal
- adeiladu ffordd gyswllt
- symud cyfleustodau
- creu cwlfertau
- adeiladu cylchfan a phontydd
- adeiladu pont Heol Bryniau
Byddwn yn adeiladu 2 bont i gario’r gyffordd ar y ffordd hon dros yr A465.
Byddwn yn adeiladu waliau bob ochr y ffordd i gynnal y ffyrdd ymuno.
Byddwn yn lledu’r ffordd bresennol rhwng cyffordd Ysbyty’r Tywysog Siarl a chyffordd Dowlais.
Byddwn yn adeiladu pont newydd ar Heol Bryniau i ddarparu mynediad i Galon Uchaf.
Byddwn yn symud cyfleustodau er mwyn gallu adeiladu’r ffordd newydd, gan gynnwys 2 biben cyflenwi dŵr fawr.
Sut mae’r gwaith yn mynd yn ei flaen
Rydym wedi:
- clirio llystyfiant yn barod i'r gwaith ddechrau
- symud y cyfleustodau presennol o dan y ddaear
- codi ffensys dros dro
- dechrau adeiladu waliau cynnal ar gyfer ffordd newydd yr A465 bob ochr i drosbontydd Tywysog Siarl (gweler map: lleoliad A)
- adeiladu ffordd gyswllt newydd at Ystâd Ddiwydiannol Pant
Y camau nesaf
- adeiladu ffyrdd newydd i'r gogledd o'r A465 presennol i ffurfio'r ffyrdd ymuno ac ymadael â’r gyffordd newydd a chysylltiad lleol sy'n cysylltu â Heol Bryniau (gweler y map: lleoliad B).
- Cloddio ar gyfer y gerbytffordd tua’r dwyrain
- byddwn yn adeiladu y ffordd fynediad newydd i Fferm Gurnos
I gael newyddion traffig ar y gyffordd hon, ewch i Traffig Cymru.