Bydd cyffordd yr A470 yn cysylltu’r A470 â’r A465.
Beth ydyn ni'n ei wneud
- adeiladu ffordd dros dro
- symud cyfleustodau
- adeiladu traphont newydd yn Nant Ffrwd a Thaf Fawr
- adeiladu pont
- gwelliannau i’r gyffordd
Byddwn yn adeiladu cyffordd newydd yn lle’r un bresennol yng nghylchfan yr A470/A465.
Bydd dwy gylchfan ar y gyffordd ar yr A470, gyda ffyrdd i’r A465.
Rydym am adeiladu pont i gario’r A465 dros y ffordd gysylltu rhwng y ddwy gylchfan.
Byddwn yn adeiladu traphont newydd dros Nant Ffrwd a Thaf Fawr.
Byddwn yn symud cyfleustodau, gan gynnwys ceblau foltedd uchel uwchben, er mwyn gallu adeiladu’r ffordd newydd.
Sut mae’r gwaith yn mynd yn ei flaen
Rydym wedi:
- clirio llystyfiant yn barod i'r gwaith ddechrau
- symud y ceblau foltedd uchel uwchben
- adeiladu traciau mynediad i’r pontydd
- cwblhau ffordd mynediad breifat i fferm/eiddo newydd i gymryd lle rhan bresennol y ffordd breifat
- adeiladu ffordd newydd dros dro ar yr A470 i'r gogledd o'r gylchfan
- cwblhau'r prif strwythur ar gyfer y bont newydd i gario'r A465 dros yr A470
- adeiladu pieri ar gyfer y draphont newydd i gario ffordd gerbydau'r A465 dros Taf Fawr
- dechrau adeiladu'r dec ffordd gerbydau ar gyfer y slipffordd newydd a fydd yn mynd dros Taf Fawr. Bydd hyn yn caniatáu i draffig ddod oddi ar yr A470 ac ymuno â'r A465 tua'r dwyrain
Y camau nesaf
- adeiladu pontydd newydd i gario'r ffordd ymuno ac ymadael tua'r dwyrain o’r A465 a phrif gerbytffordd yr A465 dros Nant Ffrwd.
- parhau i adeiladu traphont newydd i gario cerbytffordd yr A465 dros Daf Fawr.
I gael newyddion traffig ar y gyffordd hon, ewch i Traffig Cymru.