Bydd cyffordd y Rhigos yn cysylltu Hirwaun, Heol y Rhigos, yr A4059, Heol y Tŵr a’r A465.
Beth ydyn ni’n ei wneud
- ymchwiliadau archeolegol
- gosod ffordd dros dro
- symud cyfleustodau
- creu cwlfertau
- gosod ffordd newydd
- adeiladu pontydd
Byddwn yn codi’r ffordd dros y gyffordd newydd ac yn adeiladu pont rhwng y cylchfannau.
Byddwn yn ail-alinio Heol y Rhigos A4061 ar gyfer y cynllun newydd.
Byddwn yn adeiladu pont er mwyn codi’r A465 dros Nant y Bwlch, i’r dwyrain o’r gyffordd.
Byddwn yn adeiladu ffordd i’r dwyrain o gyffordd y Rhigos i’w chymryd o’r A465 bresennol. Bydd yn pasio i’r de o dir llesiant Hirwaun ac yn ailymuno â’r A465 bresennol yn Nhre-waun.
Byddwn yn adeiladu ffordd dros dro i greu lle i adeiladu’r ffordd barhaol.
Sut mae’r gwaith yn mynd yn ei flaen
Rydym wedi:
- clirio llystyfiant
- gwneud gwaith ymchwilio archaeolegol
- symud gwasanaethau cyfleustodau cychwynnol yn yr ardal
- adeiladu slipffordd newydd tua’r dwyrain a dargyfeirio traffig arni dros dro
- adeiladu cwlfertau newydd (strwythurau twnnel ar gyfer draenio dŵr)
Y camau nesaf
- gwanwyn 2023: dechrau adeiladu’r ail gylchfan ac ailadeiladu Heol y Rhigos
- adeiladu rhagor o gwlfertau, symud cyfleustodau a chodi ffensys
- adeiladu’r bont newydd dros y gyffordd a chreu’r argloddiau ffordd newydd
I gael newyddion traffig ar y gyffordd hon, ewch i Traffig Cymru.