Mae'r adroddiad yn rhoi dadansoddiad o'r cronfeydd ariannol wrth gefn a ddelir gan ysgolion ar 31 Mawrth 2021.
Nid y datganiad diweddaraf yn y gyfres: Cronfeydd wrth gefn ysgolion
Gwybodaeth am y gyfres:
Prif bwyntiau
- Cyfanswm lefel y cronfeydd wrth gefn yn ysgolion Cymru oedd £181 miliwn ar 31 Mawrth 2021, sy'n gyfwerth â £393 y disgybl. Cynyddodd lefel gyffredinol y cronfeydd wrth gefn £149 miliwn o'i gymharu â'r flwyddyn flaenorol. Roedd cronfeydd wrth gefn mewn ysgolion cynradd yn cyfrif am £120 miliwn.
- Yn ystod 2020-21 cynyddodd cronfeydd wrth gefn ysgolion yn sylweddol oherwydd effaith pandemig COVID-19 a chyllid craidd ychwanegol a gyhoeddwyd yn hwyr yn y flwyddyn ariannol. Mae ysgolion wedi parhau i dderbyn eu cyllid craidd arferol ynghyd â chyllid ychwanegol COVID-19 wrth iddynt leihau gwariant ar elfennau fel athrawon cyflenwi, hyfforddiant staff, arholiadau, deunyddiau addysgol a biliau cyfleustodau oherwydd cyfnodau amrywiol o gau ysgolion yn ystod y flwyddyn.
- Cynyddodd cronfeydd wrth gefn ysgolion cynradd £ 81 miliwn yn y flwyddyn ddiweddaraf a chynyddodd cronfeydd wrth gefn ysgolion uwchradd £ 57 miliwn.
- Roedd gan Geredigion y lefel uchaf o gronfeydd wrth gefn fesul disgybl, sef £666, a Powys yr isaf, gyda £189 y disgybl.
- Roedd gan 56 o ysgolion cynradd, 32 o ysgolion uwchradd, 3 o ysgolion arbennig, 1 ysgol feithrin a 5 ysgol ganol yng Nghymru gronfeydd wrth gefn negyddol a oedd yn gyfwerth â £17 miliwn. Roedd gan y 1,385 o ysgolion eraill gronfeydd wrth gefn positif; roedd gan 616 ohonynt gronfeydd wrth gefn gwerth mwy na 10% o gyfanswm y gwariant a glustnodwyd ar eu cyfer.
Adroddiadau
Cronfeydd wrth gefn ysgolion: ar 31 Mawrth 2021 , Saesneg yn unig, math o ffeil: PDF, maint ffeil: 749 KB
PDF
Saesneg yn unig
749 KB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.
Cyswllt
Llinell Ymholiadau Cyffredinol
Rhif ffôn: 0300 025 5050
E-bost: ystadegau.cyllid@llyw.cymru
Rydym yn croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg.
Cyfryngau
Rhif ffôn: 0300 025 8099
Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.