"Mae angen ymyrraeth gydgysylltiedig arnom i wella canol trefi, ac ymdrech i fynd i'r afael â datblygu y tu allan i'r dref, os ydym am lwyddo i droi pethau o gwmpas".
Dyna oedd geiriau'r Dirprwy Weinidog dros Newid Hinsawdd, Lee Waters, ar ymweliad â Bangor heddiw (dydd Mercher, Medi 8) wrth iddo ddatgelu sut y bydd Llywodraeth Cymru yn ymateb i gyhoeddi dau adroddiad pwysig ar adfywio canol trefi.
Ymwelodd y Dirprwy Weinidog â Bangor i gwrdd ag arweinwyr lleol a phenaethiaid sefydliadau cymunedol i drafod canfyddiadau adroddiad yr Athro Karel Williams Small Towns, Big Issues ac Adfywio Canol Trefi yng Nghymru, a baratowyd gan Archwilio Cymru.
Mae 'Small Towns, Big Issues' yn dilyn astudiaeth fanwl o dair canol tref a dinas yng Nghymru – Bangor, Pen-y-bont ar Ogwr a Hwlffordd. Fe'i harweiniwyd gan yr Athro Karel Williams - athro yn Ysgol Fusnes Manceinion - a oedd hefyd yn bresennol ym Mangor gyda'r Dirprwy Weinidog.
Mae'r ddau adroddiad yn dod i'r casgliad bod canol trefi a dinasoedd wrth wraidd bywyd Cymru ond mae mynd i'r afael â'r heriau y maent yn eu hwynebu yn gofyn am 'ddychymyg ac arweinyddiaeth uchelgeisiol', wedi'u hategu gan 'benderfyniadau cydgysylltiedig, traws-lywodraethol'.
Mae argymhellion penodol ar gyfer Llywodraeth Cymru ac awdurdodau lleol yn cynnwys popeth o fynediad i drafnidiaeth gyhoeddus a hyrwyddo canol trefi yn effeithiol i symleiddio ffrydiau ariannu.
Pwysleisiodd y Dirprwy Weinidog hefyd yr angen i ganolbwyntio ar ddelio â datblygiadau y tu allan i'r dref.
Canol trefi a dinasoedd yw'r llefydd y gall y rhan fwyaf ohonom gerdded iddynt, neu gael trafnidiaeth gyhoeddus ohonynt, a dyma ble mae cyrraedd nifer o lwybrau trafnidiaeth.
Rydym am gael gwell swyddi a gwasanaethau yng nghanol trefi lle gall pobl gael mynediad atynt heb orfod mynd yn eu car.
Mae'r ddau adroddiad yn ei gwneud yn glir ein bod wedi methu â rheoli datblygiadau y tu allan i drefi ac mae angen i ni ysgogi cynghreiriau dros newid yng nghanol ein trefi i weld newid.
Mae ein hegwyddor Canol Trefi yn Gyntaf, sydd wedi'i hymgorffori yng nghynllun datblygu cenedlaethol Cymru'r Dyfodol, yn golygu mai safleoedd canol trefi a dinasoedd ddylai fod yr ystyriaeth gyntaf ar gyfer pob penderfyniad ar leoliad gweithleoedd a gwasanaethau.
Wrth siarad mewn cyfarfod bord gron yng Nghanolfan Celfyddydau ac Arloesi Pontio Bangor, amlinellodd y Dirprwy Weinidog y camau gweithredu uniongyrchol y byddai Llywodraeth Cymru yn eu cymryd.
Heddiw, rwy'n falch o gadarnhau y bydd ein Grŵp Gweithredu Gweinidogol ar Ganol Trefi, y byddaf yn ei arwain ac a fydd yn cynnwys ein rhanddeiliaid allweddol ar gyfer adfywio canol trefi, yn goruchwylio'r gwaith o weithredu'r argymhellion a wnaed yn y ddau adroddiad.
Yn ogystal â hyn, rwy'n sefydlu tri is-grŵp, a bydd un ohonynt yn arwain ar ddod o hyd i ffyrdd o gymell datblygiadau canol trefi ond hefyd yn anghymhelliad i ddatblygiadau y tu allan i'r dref.
Bydd ail grŵp yn edrych ar sut y gallwn symleiddio'r cynnig ariannu ymhellach o dan y rhaglen Trawsnewid Trefi a symleiddio ei phrosesau.
Bydd y grŵp terfynol yn edrych ar gynllunio ac ymgysylltu â chymunedau fel bod ganddyn nhw lais yn yr hyn sy'n digwydd yn eu tref.
Gyda goruchwyliaeth a her fy ngrŵp gweinidogol, bydd y grwpiau hyn yn datblygu'r atebion sydd eu hangen i sicrhau cynaliadwyedd ein trefi ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol.
Cadarnhaodd y Dirprwy Weinidog hefyd y bydd Llywodraeth Cymru yn sicrhau bod £5 miliwn ychwanegol o gyllid benthyciadau ar gael fel rhan gynllun Trawsnewid Trefi y flwyddyn ariannol hon – mae £60 miliwn o fenthyciadau eisoes wedi'i ddarparu i gefnogi adfywio canol trefi.
Mae'r cyllid ychwanegol hwn yn dangos ein hymrwymiad i adfywio canol ein trefi a'u rhoi wrth wraidd popeth a wnawn. Rwy'n edrych ymlaen at weld sut mae'r arian hwn yn cael ei fuddsoddi mewn cyfleoedd i wella canol ein trefi"